Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Dermatoleg Ysbyty Gwynedd wedi'u henwebu am brif wobr y DU

Mae'r tîm Dermatoleg yn Ysbyty Gwynedd, sydd wedi trawsnewid eu gwasanaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ar restr fer am wobr genedlaethol fawreddog. 

Mae'r gwasanaeth, sy'n cael ei arwain gan y Dermatolegydd Ymgynghorol a'r Athro Alex Anstey, wedi'u henwebu ar gyfer gwobr Tîm Dermatoleg y Flwyddyn, y British Medical Journal.

Ym mis Ionawr 2019, crëwyd gwasanaeth Dermatoleg Integredig i feithrin perthynas gryfach rhwng arbenigwyr a Meddygon Teulu yn yr ardal, ac yn ei dro, gwella gofal i gleifion.

Yn flaenorol, byddai Meddygon Teulu yn cyfeirio'r rhan fwyaf o gyflyrau croen at y tîm Dermatoleg i gael eu gweld mewn clinig, a allai arwain at arhosiad hir i'r claf gael ei weld. Yn awr mae Meddygon Teulu’n anfon lluniau o frech a nam ar y croen fel mater o drefn gyda'u llythyrau cyfeirio sy'n galluogi ymatebion cyflym.

Mae'r cyfeiriad yn cael ei asesu gan yr arbenigwr yn Ysbyty Gwynedd sydd yna'n ymateb i'r Meddyg Teulu gyda chyngor ac arweiniad ar sut i reoli cyflwr y claf orau, neu os oes angen ei gyfeirio am apwyntiad ysbyty.

Drwy gyflwyno'r ffordd newydd hon o weithio, mae rhestrau aros ar gyfer y gwasanaeth wedi gwella'n ddramatig. Mae cleifion brys yn awr yn cael eu gweld cyn pen pedair wythnos o gyfeiriad gan eu Meddyg Teulu.

Un o'r cleifion sydd wedi elwa o'r system newydd yw Alis Jones sy'n 22 oed o Borthaethwy, sydd wedi dychwelyd o America'n ddiweddar ac yn bryderus y byddai'n aros cryn amser i gael ei gweld gan arbenigwr.

Dywedodd: "Pan roeddwn yn iau, roeddwn yn ceisio cael fy nghyfeirio at arbenigwr yn Ysbyty Gwynedd gyda fy ecsema ond roedd y rhestr aros yn hir iawn ac fe gollais obaith.

"Fe adewais i fynd i'r brifysgol yn America ac fe ddes i o hyd i gyffur o'r enw Dupilumab a helpodd fy nghyflwr a gwella ansawdd fy mywyd.

"Pan ddaeth y pandemig, cafodd fy mhrifysgol ei chau ac roedd yn rhaid i mi ddod yn ôl gartref i Ogledd Cymru, oherwydd hyn, roeddwn yn poeni y byddwn yn rhedeg allan o fy meddyginiaeth a byddai'r amser aros i gael fy ngweld yn Ysbyty Gwynedd yn rhy hir.

"Yn ffodus, oherwydd y system newydd ar gyfer Dermatoleg, roeddwn yn gallu gweld yr Athro Anstey cyn pen tair wythnos o gael fy nghyfeirio. Yna fe ragnododd Dupilumab ar y GIG. Sicrhaodd hyn fy mod yn gallu cynnal fy ngofal ac ni fyddwn yn cael pwl arall o ganlyniad i fethu dos.

"Mae'r newidiadau yn y gwasanaeth Dermatoleg wedi dylanwadu’n fawr ar gleifion ac wedi sicrhau ein bod yn cael y gofal gorau."

Dywedodd Sian Morgan, Meddyg Teulu yng Nghonwy, fod y gwasanaeth newydd wedi helpu i gryfhau'r berthynas rhwng gofal cychwynnol a gofal eilaidd ac wedi ennyn diddordeb yn yr arbenigedd ymysg ei chydweithwyr.

Dywedodd: "Ers bod y system newydd wedi dechrau, rydym wedi mwynhau adborth prydlon a gwybodus ar ein cleifion. Mae hyn yn ein caniatáu ni i reoli cyflyrau na fyddwn fel arfer yn eu rheoli yn y gymuned.

"Mae'n dda i ni allu dweud wrth gleifion ein bod yn delio â'u problemau yn gyflym a'u bod yn aros llai o amser am driniaeth mewn clinig os mai dyna sydd ei angen.

"Dyma enghraifft o sut gellir gwella gofal i gleifion os oes cydweithio agos rhwng timau gofal cychwynnol a gofal eilaidd ac mae o fudd i bawb, rwy’n  gobeithio ei fod yn rhywbeth mae adrannau eraill yn ystyried ei fabwysiadu hefyd."

Dywed yr Athro Anstey ei fod yn falch iawn o'i dîm a'r hyn maent wedi'i gyflawni dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Dywedodd: "Mae hyn wedi bod yn ymdrech tîm gyda pherfformiad rhagorol gan bawb dan sylw. Yn bwysig, mae'r Meddygon Teulu lleol bellach yn rhan o'r tîm dermatoleg, sydd wedi creu'r tîm dermatoleg mwyaf yng Nghymru. Rydym yn gobeithio ennill y gystadleuaeth hon, ond os na fyddwn yn ennill, yr enillwyr go iawn yma yw i'n cleifion."