Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Brofi Newydd ar agor yng Nghorwen

Mae canolfan brofi newydd wedi agor yng Nghorwen i’w gwneud yn haws i bobl yr ardal gael apwyntiad am brawf COVID-19 yn nes at eu cartrefi. 

Mae’r gwasanaeth ar gyfer pobl sy’n credu bod ganddynt symptomau COVID-19 a dylech ei ddefnyddio dim ond os oes gennych un o’r symptomau hyn neu fwy:
•    Tymheredd uchel 
•    Peswch newydd, parhaus 
•    Colli neu newid i’ch synnwyr arogli neu flasu 

Mae’r cyfleuster drwy ffenestr y car wedi ei sefydlu ym Maes Parcio Green Lane a bydd ar agor am y pythefnos neu dair wythnos nesaf.

Nid gwasanaeth cerdded i mewn yw hwn a bydd yn rhaid i bobl wneud apwyntiad i gael prawf. 

Mae manylion am sut i wneud cais am brawf ar wefan Llywodraeth Cymru yma.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Ddinbych, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU i sefydlu’r ganolfan brofi hon.