Neidio i'r prif gynnwy

Y gwasanaethau ysbyty cyntaf i gynnig ymgynghoriadau fideo yn dilyn treial llwyddiannus

Mae gwasanaeth ymgynghori newydd, Attend Anywhere, yn cael ei ddefnyddio er mwyn helpu cleifion o Ogledd Cymru i gael apwyntiadau heb adael eu cartrefi.

Yn dilyn ei gyflwyno i feddygfeydd ar draws Cymru, mae Attend Anywhere wedi'i roi ar brawf yn llwyddiannus mewn nifer o arbenigeddau yn BIPBC, yn cynnwys

  • Timau seicoleg ac iechyd meddwl cymunedol Conwy a Sir Ddinbych.
  • Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, a thimau Anableddau Dysgu Plant ac Oedolion ar draws Gwynedd a Môn.
  • Gwasanaethau Ffisiotherapi ac Iaith a Lleferydd Sir y Fflint.
  • Timau Rheoli Poen ac Adsefydlu’r Ysgyfaint yn Wrecsam.

Mae Attend Anywhere bellach yn cael ei ymestyn i ryw 70 o wasanaethau clinigol eraill dros y ddeufis nesaf. Unwaith y bydd ar gael o fewn gwasanaeth, caiff cleifion gynnig yr opsiwn o gael apwyntiad trwy fideo a allai wella'r profiad ymgynghori o bell.

Gellir manteisio ar apwyntiadau trwy borwr ar lechi, ffonau clyfar neu gyfrifiaduron. Nid oes modd recordio ymgynghoriadau, ac mae'r llwyfan diogel wedi'i brofi'n drwyadl er mwyn bodloni gofynion y GIG.

Dywedodd Dr Markus Hesseling, Paediatregydd Ymgynghorol a Phrif Swyddog Gwybodaeth Glinigol y Bwrdd Iechyd: “Rydym eisoes wedi gweld cydweithwyr mewn gofal cychwynnol yn gwneud defnydd gwych o dechnoleg fideo er mwyn goresgyn rhai o'r heriau sy'n codi o ganlyniad i COVID-19."

“Y gobaith yw y bydd Attend Anywhere yn parhau â'r duedd hon o ddefnyddio technoleg er mwyn cynnig dewisiadau amgen i gleifion yn hytrach nag ymweliadau traddodiadol â chlinigau lle bo'n briodol a'i gwneud yn fwy cyfleus iddynt weld eu meddyg neu eu nyrs."

“Mae'n bwysig sicrhau cydbwysedd rhwng defnyddio'r dechnoleg hon i weithio'n fwy effeithiol a pheidio â cholli buddion cyfarfod wyneb-yn-wyneb."

"Fel tîm, byddwn yn gweithio gyda gwasanaethau sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect hyd yn hyn er mwyn eu helpu i ddefnyddio'r dechnoleg hon mewn ffordd sy'n gwneud gwelliannau iddynt hwy a'u cleifion."

Dywedodd Dr Dilesh Thaker, Anaesthetegydd Ymgynghorol gyda'r Gwasanaeth Rheoli Poen yn Ysbyty Abergele: “Rydym wedi gweld pum claf hyd yn hyn, ac ar y cyfan, mae'r adborth wedi bod yn bositif."

“Ym maes rheoli poen, mae gennym sesiynau eithaf hir a thrwyadl lle bydd pob claf yn gweld tri gweithiwr gofal iechyd proffesiynol er mwyn barn gytbwys ar sut gallwn reoli symptomau eu poen."

“Nid oeddem yn hollol siŵr sut byddai hynny'n gweithio gydag ymgynghoriad fideo, ond rydym wedi addasu ein model i weithio gydag Attend Anywhere a'r arwyddion cynnar yw bod rhai buddion newydd ynghlwm wrth weithio fel hyn.” “Trwy fod yn rhan o'r un alwad, yn hytrach na gweld y cleifion mewn sesiynau unigol, gallwn rannu gwybodaeth ac mae ein hapwyntiadau'n fyrrach ac yn fwy effeithlon erbyn hyn. Rydym yn arbed amser wrth drosglwyddo negeseuon rhwng clinigwyr, gallwn rannu arbenigedd mewn un sesiwn, ac nid oes rhaid i gleifion ailadrodd eu hunain wrth dri unigolyn gwahanol mewn un ymweliad."

“Un o'r buddion eraill yw eich bod yn siarad â chleifion yn eu cartrefi eu hunain. Mae'n elfen anodd ei mesur, ond yn gyffredinol, ymddengys fod cleifion yn fwy cyfforddus gan fod eu teuluoedd wrth law neu eu hanifeiliaid anwes gyda nhw, sydd wedi cyfrannu at roi dealltwriaeth i ni am sut gallwn eu helpu."

“Rydym hefyd yn gweld cleifion sy'n tueddu i gael anawsterau'n teithio, ond y gobaith yw, y bydd hyn o bosibl yn helpu i osgoi cleifion na allant fynychu gan fod eu cyflwr yn gwneud teithio'n anodd."

“Ni fydd byth yr un fath ag eistedd yn yr ystafell gyda rhywun arall, lle gallwch weld ciwiau a chyfathrebu di-eiriau, ond mae'n welliant sylweddol o ystyried yr amgylchiadau presennol yn ymwneud â COVID-19."

“Mewn sesiwn nodweddiadol, rydym yn gweld cleifion am ychydig oriau, yn siarad â nhw ac yna'n troi at bethau eithaf personol. Gall fod yn flinedig ac yn anodd i gleifion, felly un peth yr ydym yn ei ystyried erbyn hyn yw cadw eu hymgynghoriad a sesiwn adborth ar wahân lle byddwn yn esbonio eu cynllun."

“Trwy gwblhau’r ymgynghoriad cychwynnol hwnnw ac yna dychwelyd yn ffres i siarad am sut byddwn yn cydweithio yn y dyfodol, sy'n fwy hwylus o lawer diolch i’r ymgynghoriad o bell, gallwn wella'r ffordd y bydd pobl sydd yn ein gofal yn ymdopi â phoen hirdymor, gobeithio."