Neidio i'r prif gynnwy

Atgoffa unrhyw gyswllt ag achos o COVID-19 i aros gartref am y bythefnos lawn o hunan ynysu

Dymuna’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu Gogledd Cymru ddiolch i bob achos a chyswllt o Coronafirws (COVID-19) sy’n aros gartref ac yn dilyn cyngor hunan ynysu Llywodraeth Cymru. Drwy aros gartref gallwch helpu i atal yr haint rhag lledaenu.

Dywedodd Dr Rachel Andrew, un o arweinwyr y Ganolfan Rhanbarthol Profi, Olrhain, Diogelu Gogledd Cymru: “Mae’n bwysig iawn os bydd aelod o’r tîm olrhain cyswllt wedi eich ffonio ac wedi dweud wrthych eich bod yn gyswllt ag achos o Coronafirws, eich bod yn dilyn y cyngor ac yn aros gartref am yr 14 diwrnod llawn.”

“Y rheswm dros ofyn i gysylltiadau hunan ynysu yw oherwydd y gallant ddatblygu’r haint a bod mewn perygl o’i ledaenu i deulu a ffrindiau. Mae’r cyngor yr un fath ar gyfer pobl sy’n dychwelyd o wledydd ble mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i chi hunan ynysu am 14 diwrnod ar ôl i chi ddod gartref.

“Bydd canlyniad prawf negyddol yn ystod y cyfnod hwn ond yn dweud wrthych nad oes gennych Coronafirws ar y diwrnod y cafodd y swab ei gymryd.”

Dylai unrhyw un sydd â gwres uchel, peswch newydd parhaus, neu golli neu newid yn y synnwyr o arogl neu flas gael prawf am Coronafirws. Ewch ar https://llyw.cymru/coronafeirws neu ffoniwch 119 i drefnu prawf.

Mae gan weithwyr gofal iechyd a rhai gweithwyr allweddol gyfleoedd gwahanol i gael prawf, fe’u cynghorir i siarad â’u cyflogwyr ynghylch beth i’w wneud os ydynt yn cael eu dynodi fel cyswllt ag achos o COVID-19

Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

“Hoffem atgoffa pobl Gogledd Cymru bod y Coronafirws yn parhau i gylchredeg yn y gymuned. Er mwyn cadw pawb yn ddiogel, cadwch ddau fedr oddi wrth eraill bob amser a golchwch eich dwylo’n rheolaidd.

“Os ydych yn cyfarfod â chartref arall y tu allan i’ch cartref estynedig, arhoswch yn yr awyr agored yn ystod eich ymweliad a gweithiwch o gartref os gallwch chi.

“Os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich cartref estynedig symptomau, arhoswch gartref a threfnwch brawf. Diolch i’r rhai sy’n aberthu i’n cadw ni i gyd yn ddiogel, gan gynnwys y rhai sy’n aros gartref ac yn hunan ynysu am yr 14 diwrnod llawn.”