Neidio i'r prif gynnwy

Porthor Ysbyty Glan Clwyd yn ôl yn ei waith ar ôl gwella o COVID-19

Mae porthor yn Ysbyty Glan Clwyd a dreuliodd bum niwrnod ar beiriant anadlu ar ôl dal COVID-19 wedi dychwelyd i'r gwaith.

Fe aeth David Morgan-Jones yn sâl gyda COVID-19 yn sydyn yn ystod mis Ebrill ac roedd angen triniaeth arbenigol yn Uned Gofal Dwys ei ysbyty ei hun.

Mae'r dyn 56 oed yn awr wedi dychwelyd i'r gwaith ac wedi diolch i'r staff meddygol a'i gydweithwyr am eu gofal a'u cefnogaeth.

Dywedodd: "Fe ddychwelais i'r gwaith ar ddechrau mis Medi ac roedd mor braf bod yn ôl gyda'r tîm.

"Rwy'n cymryd pethau'n araf ac yn gweithio diwrnodau byrrach fel y gallaf ddychwelyd yn ôl at waith yn raddol. 

"Rwyf wedi cael fy llethu gyda'r gefnogaeth a gefais gan fy nghydweithwyr, mae pawb wedi bod mor gefnogol.

"Rwyf hefyd wedi bod i weld y staff ar yr Uned Gofal Dwys a'r staff ward a ofalodd amdanaf pan roeddwn yn bur wael, roeddent yn ofalgar iawn ac yn gwneud i mi deimlo'n ddiogel, roeddwn yn ymddiried yn llawn ynddynt.

"Maent wir yn wych ac fe achubasom fy mywyd - ni allaf fyth ddiolch digon iddynt."

Dywedodd Lynne Slater, Prif Nyrs Gofal Critigol, bod y tîm yn falch iawn o weld David yn gwella mor dda.

Dywedodd: "Cafodd David daith anodd iawn wrth wella o COVID-19.

"Roedd yn braf gweld David yn ddiweddar a chefais sioc o weld pa mor dda roedd yn edrych, mor fuan, ar ôl adeg mor anodd.

"Rhoddodd David adborth gwych i ni sy'n gwneud i mi deimlo'n falch iawn o'r tîm. Mae wedi bod yn adeg heriol, ond mae gennym dîm gwych yma ar yr Uned Gofal Critigol ac rydym wir yn ddiolchgar i'r staff hynny sydd wedi adleoli o feysydd eraill yn yr ysbyty, sydd wedi bod yn ein cefnogi ni."

Ychwanegodd Gregg Bloor, Rheolwr Gwasanaethau Gwesty yn Ysbyty Glan Clwyd: "Rydym yn falch iawn o gael David yn ôl yn y gwaith gyda'r tîm. Rydym yn gwerthfawrogi ein staff sy'n parhau i weithio'n galed yn ystod yr adeg heriol barhaus hon."

Mae David yn awr yn annog y cyhoedd i barhau i ddilyn canllawiau'r llywodraeth i helpu i atal yr haint COVID-19 rhag lledaenu.

"Rwyf wedi profi pa mor sâl allwch chi fod gyda COVID-19 a'r effaith a gafodd ar fy nheulu. Mae'n bwysig iawn bod pawb yn parhau i ddilyn y canllawiau fel y gallwn weithio gyda'n gilydd i leihau lledaeniad y firws yng Ngogledd Cymru," ychwanegodd David.