Neidio i'r prif gynnwy

Gofyn i gleifion ffonio o flaen llaw ar gyfer Gwasanaeth MIU ardal y Canol i gefnogi'r mesurau pellhau cymdeithasol

Gofynnir i bobl sy'n dymuno cael triniaeth yn Unedau Mân Anafiadau Llandudno, Dinbych a Threffynnon ffonio'r uned cyn ei mynychu.

Drwy ffonio o flaen llaw, gall staff yn yr MIU atal arosiadau y tu mewn heb angen, cyfeirio ychydig o gleifion at y ffynhonnell gyflymaf o ofal, a pharatoi ar gyfer y cleifion sydd angen triniaeth.

Mae Unedau Mân Anafiadau Ysbyty Llandudno, Ysbyty Dinbych ac Ysbyty Treffynnon wedi cael eu hasesu i helpu i gefnogi'r mesurau pellhau cymdeithasol.  Mae'r newidiadau'n cynnwys gostwng y capasiti mewn ardaloedd aros i wella pellhau cymdeithasol.

Mae mesurau eraill sy'n cael eu cyflwyno ledled Gogledd Cymru yn cynnwys gofyn i gleifion aros yn eu ceir er mwyn osgoi aros mewn ystafelloedd aros, neu drefnu apwyntiad yn ddiweddarach yn y dydd er mwyn osgoi aros yn gyfan gwbl.

Bydd yr unedau'n parhau i drin pobl sydd angen triniaeth ar frys ond heb allu ffonio o flaen llaw. 

Yn Ysbyty Treffynnon, mae'r uned wedi bod yn annog pobl leol i ffonio o flaen llaw am y chwe wythnos ddiwethaf. 

Dywedodd Jess Booker, Ymarferydd Nyrsio Brys, bod y newid wedi ei groesawu hyd yma.

Dywedodd Jess: "Rydym wedi cael ymateb cadarnhaol iawn hyd yma, mae pobl yn deall bod y newidiadau yn cael eu gwneud er mwyn amddiffyn pawb.

“Mae’n ein helpu i drefnu ein diwrnod, sicrhau bod pobl sy’n mynychu MIU yn pellhau'n gymdeithasol, ac yn ein helpu i drin cleifion mewn ffordd well

"Mae cleifion yn cael eu trin yn gynt, mae llai o aros am eu slot penodol, felly gallwn drin pobl yn syth mwy neu lai."

Dywedodd Nicola Mclardie, Pennaeth Prosiectau Nyrsio: "Mae ein MIU ar agor ac yn trin pobl fel yr arfer, ond rydym eisiau lleihau'r risg o bobl yn lledaenu COIVD-19 o bosib drwy osgoi sefyllfaoedd ble mae pobl yn aros gyda'i gilydd y tu mewn.

"Rydym wedi asesu pob un MIU ac wedi sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r canllawiau diweddaraf ar aros yn ddiogel gyda COVID-19.

"Darn o'r gwaith hwnnw yw edrych ar ffyrdd y gallwn ostwng y nifer o bobl sy'n aros.

"Drwy ffonio o flaen llaw a rhannu gwybodaeth ar y triniaethau sydd eu hangen, rydym yn helpu staff yn ein Hunedau Mân Anafiadau i baratoi ar gyfer cleifion yn cerdded drwy ein drysau ac yn osgoi pobl yn aros gyda'i gilydd mewn ardaloedd cymunedol.

"Bydd hefyd yn help cyfeirio ambell glaf at wasanaethau amgen ble bydd yn cael ei weld yn gynt, megis y fferyllydd lleol."