Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs diabetes yn annog pobl i edrych allan am arwyddion o Hypoglycaemia fel rhan o wythnos ymwybyddiaeth genedlaethol

Mae nyrs diabetes yn ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth a hunanreolaeth o hypoglycaemia ymysg oedolion â diabetes, fel rhan o ymgyrch genedlaethol codi ymwybyddiaeth.

Mae Julie Moss, Nyrs Diabetes Datblygu Arfer yn Ysbyty Maelor Wrecsam, yn annog staff a chleifion i edrych allan am yr arwyddion amlwg bod rhywun sy’n byw â diabetes yn cael Hypoglycaemia.

Hypoglycaemia yw pan fydd gan rywun sy’n byw â diabetes lefel glwcos gwaed sy’n is na’r normal.

Gellir hunan-reoli achosion ysgafn, er enghraifft drwy yfed carton o sudd ffrwythau, neu fwyta ychydig o ‘jelly babies’. Ond mewn achosion mwy difrifol, efallai bydd angen cymorth ar glaf i godi ei lefelau siwgr gwaed.   

Gall hypoglycaemia ymddangos mewn sawl ffordd, gyda’r arwyddion corfforol cyffredin yn cynnwys teimlo’n grynedig neu’n ddryslyd, chwysu, y golwg yn pylu neu gur pen. Gall symptomau eraill gynnwys newid mewn emosiynau, blinder, diffyg canolbwyntio neu deimlo’n bryderus neu’n bigog. 

Ar gyfer pobl sydd â diabetes sy’n gleifion mewnol mewn ysbyty, dylid trin unrhyw glwcos gwaed sy’n llai na 4.0mmol/L gyda 15-20g o glwcos sy’n gweithredu’n gyflym i godi’r lefelau.

Mae Julie, sydd wedi ymuno â’r ymgyrch genedlaethol i sicrhau bod adnoddau ar Hypoglycaemia ar gael i holl staff y GIG ar draws Gogledd Cymru, yn annog pawb i ystyried yr arwyddion o Hypoglycaemia ymysg pobl sy’n byw â diabetes.

Dywedodd Julie: “Cymru sydd â’r nifer uchaf o bobl yn byw â diabetes yn y Deyrnas Unedig. Mae’n debygol fod pob un ohonom yn adnabod rhywun sy’n dioddef o’r clefyd. 

“Hypoglycaemia yw’r sgil effaith fwyaf cyffredin o inswlin a swlffonylwreas wrth drin diabetes ac mae’n dod yn sgil anghydbwysedd rhwng y cyflenwad glwcos, defnydd glwcos a’r inswlin sy’n bresennol.

“Ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Hypo, rydym yn rhannu ein dealltwriaeth a gwybodaeth i helpu pobl i edrych allan am yr arwyddion cywir a gweithredu arno.”

“Mae cardiau gwybodaeth bach wedi’u creu i helpu staff ar y wardiau i adnabod a thrin cleifion yn effeithlon ac effeithiol. Bydd cystadleuaeth yn cael ei gynnal ar gyfer pob ward i ddangos eu gwybodaeth am hypoglycaemia yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Hypo.

“I staff y GIG sy’n poeni am rywun yn eu gofal, mae’n golygu gofyn a yw rhywun yn iawn os ydynt yn ymddwyn yn wahanol neu’n dangos symptomau o hypoglycaemia, a threfnu prawf glwcos gwaed capilari ‘pigo bys’ fel bo angen.

“Unwaith byddwn wedi adnabod hypo, gallwn ei drin yn gyflym ac effeithiol. Mae ‘bocsys hypo’ ar gael ar bob ward ac adran ar draws ein hysbytai, sy’n cynnwys yr opsiynau triniaeth perthnasol ac yn darparu mynediad hawdd.”

“Rwy’n meddwl bod gan y rhan fwyaf ohonom ychydig o wybodaeth am ddiabetes, ond mae’r ymgyrch hon yn gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth o symptomau Hypoglycaemia a hunan-reoli er mwyn helpu i leihau’r risg.”

Mae pecyn yr ymgyrch genedlaethol ar gael ar-lein ar hypoawarenessweek.com/online-resource-pack/