Neidio i'r prif gynnwy

Mam o Dreffynnon yn canmol triniaeth newydd sy'n 'trawsnewid bywyd' a'i cynorthwyodd i oresgyn dibyniaeth

Mae mam o Sir y Fflint oedd yn ofni y byddai ei dibyniaeth ar boen laddwyr yn ei lladd, wedi canmol effaith triniaeth newydd sy’n ‘trawsnewid bywyd’.

Treuliodd Nicola Mellor, 30, dair blynedd yn gaeth i codeine, ac yn ystod y cyfnod hwn, byddai’n cymryd hyd at 32 o dabledi y dydd, cyn iddi allu goroesi’r ddibyniaeth, diolch i gyffur newydd o’r enw Buvidal.

Mae’r fam i dri o Dreffynnon, yn un o 61 o bobl ar draws gogledd Cymru sydd wedi cael cynnig y cyffur, a chynllunnir i’w ddefnyddio’n ehangach dros y misoedd nesaf.

Buvidal yw’r cyffur newydd cyntaf mewn degawd i fynd i’r afael â dibyniaeth ar opiadau a’r cyntaf i weithredu fel meddyginiaeth hir-weithredol sy’n rhyddhau’n araf. Rhoddir fel chwistrelliad wythnosol neu fisol yn y meinwe rhwng y croen a’r cyhyr, ac mae’n helpu defnyddwyr gwasanaeth i ymwrthod, drwy leihau’r effeithiau negyddol wrth ddiddyfnu.  Mae ei gyflwyniad yn golygu nad yw pobl sy’n gaeth i opiadau bellach yn gorfod mynychu’r fferyllfa’n ddyddiol.

Mae Bwrdd Cynllunio Ardal Gogledd Cymru wedi comisiynu Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu’r cyffur, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.

Dechreuodd Nicola gymryd tabledi dihydrocodeine yn 2017, heb fod wedi cymryd cyffuriau erioed o’r blaen, i geisio ymdopi â phoen emosiynol yn sgil ei sefyllfa o ddieithrio oddi wrth ei merch.

Aeth ei dibyniaeth allan o reolaeth yn sydyn, ond yn y diwedd, gofynnodd am gymorth gan staff proffesiynol iechyd wedi iddi feichiogi gyda’i thrydydd plentyn, Madison, yn Ionawr 2019.

Dywedodd: “Mae Buvidal wedi achub fy mywyd.  Roeddwn yn credu y byddwn yn farw erbyn i mi fod yn 35, oherwydd yr holl paracetamol roeddwn i’n eu cymryd.

“Os nad oedd gen i dabledi ar ôl, nid oeddwn yn gallu codi o’r gwely yn y bore.  Roeddwn i’n crynu – roeddwn i’n rhuglo ac yn chwysu yn y gwely.  Roedd y sefyllfa’n ddrwg iawn.

“Roeddwn i’n dal i allu gofalu am fy mhlant, ond doeddwn i ddim yna’n emosiynol.  Nid oeddem yn cael hwyl ac roeddwn wedi newid i fod yn fam sombïaidd.

“Soniodd y tîm camddefnyddio sylweddau am Buvidal wrthyf, ond roeddwn i’n ofnadwy o amheus nad oedd o’n mynd i weithio.

“O’r chwistrelliad cyntaf, nid wyf wedi cael unrhyw ysfa na dim ac nid wyf wedi cymryd unrhyw beth.  Nid oeddwn ei angen.

“I fynd o 32 o dabledi'r dydd i ddim mewn 5 mis - ni feddyliais y byddwn yn gallu gwneud hyn.  Roeddwn i’n credu y byddwn yn farw.

“Mae fy merch Ava, sy’n dair oed, wedi dioddef dipyn oherwydd fy nibyniaeth.  Mae hi wedi gweld gwahaniaeth mawr dros y misoedd diwethaf.  Mae gennym berthynas llawer iawn mwy cariadus bellach.”

Mae cyflwyno Buvidal yn golygu nad yw pobl sy’n gaeth i opiadau bellach angen mynychu fferyllfa’n ddyddiol, yn lle hyn, maen nhw’n derbyn y chwistrelliad yn wythnosol neu’n fisol gan eu tîm camddefnyddio sylweddau.

Mae hyn yn eu galluogi i ganolbwyntio ar eu hadferiad ac yn hyrwyddo dychweliad i weithgareddau bob dydd megis gwaith neu hyfforddiant. Yn ystod y pandemig diweddar, mae hyn hefyd wedi helpu i hyrwyddo ymbellhau cymdeithasol.

Meddai Nicola: “Mae’n braf gwybod mai dim ond unwaith y mis mae’n rhaid i mi fynd am chwistrelliad.  Nid oes angen i chi feddwl am fagu plwc i fynd i giwio’n ddyddiol.

“Cyn hyn, roeddwn i’n gorfod mynd â’r plant gyda mi i’r fferyllfa bob dydd ym mhob tywydd, boed haul neu hindda.

“Rwyf ar y dos hwn am chwe mis, wedyn caiff ei leihau bob yn dipyn bach, a phan fyddai’n teimlo’n barod, ac mae’n ddiogel gwneud hyn, byddaf yn mynd ar ddos bach iawn.  Mae hyn yn mynd i fod yn broses hir, ond mae’n anhygoel, ac rwyf wrth fy modd.”

Dywedodd Dr Faye Graver, Cyfarwyddwr Clinigol Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau BIPBC:

“Mae adborth dechreuol gan ddefnyddwyr gwasanaeth sydd wedi cael presgripsiwn am Buvidal wedi bod yn gadarnhaol dros ben.  Ar hyn o bryd, mae gennym 61 defnyddiwr gwasanaeth sydd wedi dechrau ar y cyffur, ac yn seiliedig ar amcangyfrifiad dechreuol, gall hyn godi i oddeutu 200.

“Ar hyn o bryd, rydym yn ymgymryd â rhaglen o hyfforddiant staff ac yn gweithio gyda fferyllfeydd ar draws gogledd Cymru i sicrhau lliflinio effeithiol rhagnodi, casglu a rhoi’r cyffur.

“Er bod buddion amlwg i Buvidal wrth ei roi ochr yn ochr â chefnogaeth feddygol, gymdeithasol a seicolegol ar gyfer dibyniaeth i opiadau, ni ddylid ei ystyried fel meddyginiaeth holliachaol, ac rydym yn parhau i fod yn ymroddedig i ddarparu dewisiadau triniaethau amgen.”

Am gyngor cyfrinachol a rhad ac am ddim am wasanaethau cyffuriau ac alcohol yn eich ardal, cysylltwch â DAN 247 ar 0808 808 2234, neu anfon neges destun ‘DAN’ i 81066, neu ewch i www.dan247.org.uk/