Neidio i'r prif gynnwy

Mygydau wyneb clir i'w treialu i gefnogi pobl sydd wedi colli clyw

Mae mygydau wyneb clir yn cael eu treialu ar draws y Bwrdd Iechyd, i gefnogi gwell gofal i bobl â chyflyrau penodol megis colli clyw a dementia. 

Gellir gweld drwy’r mygydau ac mae rhwystr gwrth-stemio arnynt i sicrhau bod yr wyneb a cheg yn weladwy bob amser, i helpu staff gofal proffesiynol i allu cyfathrebu’n well â’u cleifion.

Darperir y mygydau gan gwmni ClearMasks, wedi’u lleoli yn y UD.  Bydd oddeutu 250,000 o fygydau’n cael eu danfon i ysbytai a darparwyr gofal cymdeithasol ar draws y DU, drwy’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol dros yr ychydig wythnosau nesaf fel rhan o’r treial.

Mae Kathryn Davies, sy’n Uwch Gymhorthydd Awdioleg yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn croesawu cyflwyno’r mygydau.

Meddai “Ers fy mhlentyndod, nid oes gen i unrhyw glyw ar yr ochr dde a dim ond 40% o glyw ar fy ochr chwith.

“Yn sgil y pandemig, mae fy nghydweithwyr a minnau’n gwisgo mygydau wyneb yn y gwaith, ac mae hyn wedi creu trafferthion i mi gyfathrebu a nhw.

“Mae fy nyletswyddau yn y gwaith wedi newid hefyd, oherwydd nid wyf wedi teimlo’n ddigon hyderus i gyfathrebu gyda chleifion yn gwisgo mwgwd.

“Roeddwn wrth fy modd o glywed ein bod bellach yn gallu cael mynediad at fygydau wyneb clir, nid yn unig bydd hyn yn gwneud i mi deimlo’n fwy hyderus yn y gwaith a chyfathrebu’n well gyda fy nghydweithwyr, ond bydd o fudd mawr i’n cleifion hefyd.”

Clinigwyr yn Adran Awdioleg Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oedd y cyntaf yn y DU i brofi’r mygydau clir, fel rhan o brosiect arloesol a enillodd wobr, a ariannwyd gan Awyr Las, elusen GIG lleol gogledd Cymru.

Arweiniodd Dr Sarah Bent, Prif Wyddonydd Clinigol Awdioleg y prosiect, ac roedd hi wrth ei bodd yn gallu cynnwys ei chydweithwyr ar draws gogledd Cymru yn y gwaith.

Meddai: “Roedd ein awdiolegwyr wedi nodi’r angen am fygydau wyneb clir yn Ebrill 2020, Felly fe wnaethom ddarparu broliant am y cysyniad yn yr Hac Iechyd M-Sparc, a derbyniwyd  gwobr o  £2,500 gan Awyr Las.

“Ers hyn, rydym wedi bod yn profi gwahanol opsiynau addas ar gyfer darllen gwefusau a gweld yr wyneb, a byddwn yn cyhoeddi ein canlyniadau’n fuan.

“Bellach rydym yn gweithio â chwmnïau ar draws Cymru a Lloegr i gynllunio a datblygu opsiynau gwahanol addas ar gyfer gofal iechyd a chymdeithasol.  Rydym wrth ein bodd bod y mygydau clir wedi’ derbyn cymeradwyaeth i’w defnyddio yn ystod y pandemig, a byddant nawr ar gael i’w treialu ar hyd a lled y GIG.  Rydym yn gobeithio bydd sawl opsiwn arall, gan gynnwys y rhai a wnaed yng Nghymru, yn dilyn yn fuan.”