Neidio i'r prif gynnwy

Staff Nyrsio'n mynd gam ymhellach i ddarparu cefnogaeth lles i'w cydweithwyr

Gall staff yn Uned Gofal Dwys Ysbyty Gwynedd yn awr ymweld ag ystafell dawel arbennig i gymryd eiliad iddyn nhw ei hunain diolch i roddion hael gan y gymuned.

Ers dechrau’r pandemig, mae’r nyrsys Nina Turner a Cara Harding ar Ward Cybi wedi bod yn awyddus i ganfod man tawel ac ymlaciol nad yw’n glinigol i’w cydweithwyr ei ddefnyddio pan maent yn teimlo eu bod wedi’u llethu.

Ar ôl sicrhau ystafell ger y fynedfa i’r ward, cawsant gefnogaeth anhygoel gan fusnesau lleol a roddodd eitemau megis dodrefn a bleinds i addurno’r ystafell.

Dywedodd Nina wrth ddisgrifio ei hamser yn gweithio’n ystod y pandemig,: “I ddechrau roedd yn ofnus iawn gan nad oeddem yn gwybod beth roeddem yn ei wynebu, ond buan iawn y gwnaethom arfer gyda gwisgo PPE ar bob sifft.

“Cawsom gefnogaeth anhygoel gan ein staff a oedd wedi’u hadleoli ac fe wnaeth y ffordd y gwnaethant addasu i’r amgylchedd gofal dwys argraff fawr arnaf.

“Mae pawb wedi gweithio mor galed dros y misoedd diwethaf a dyma pam roeddwn eisiau creu man i fy nghydweithwyr fynd yno i gael amser iddynt hwy ei hunain gan y gall fod yn llethol.

“Cawsom gefnogaeth anhygoel gan fusnesau lleol a hyd yn oed ein ffrindiau personol a roddodd eitemau tuag at yr ystafell.

“Mae gan Cara ddawn greadigol iawn felly mae hi wedi gwneud yn siŵr bod popeth yn yr ystafell yn y man perffaith. Fe wnaethom wir fwynhau ei roi at ei gilydd a hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ystafell mor hardd i ni.”

Yn ogystal â man ar-wahân i staff rhoi trefn ar eu meddyliau, mae sesiynau lles hefyd yn cael eu trefnu’n awr gan Katie Hughes, Nyrs Gofal Dwys  ar gyfer ei chydweithwyr.

Mae Katie wedi sefydlu “Dydd Mercher Lles” sydd wedi darparu gweithgareddau megis yoga, glanhau traethau a padl-fyrddio.

Dywedodd: “Mae gofalu amdanom ein hunain yn ystod yr adeg anodd hon yn bwysig iawn ac roeddwn eisiau trefnu ychydig o sesiynau i fy nghydweithwyr bob wythnos i helpu i gefnogi eu lles.

“Roeddwn eisiau codi ysbryd ein tîm gan ei fod wedi bod yn adeg anodd i ni gyd felly mae’r sesiynau hyn wedi dod â ni’n agosach at ein gilydd ac wedi codi ein hysbryd.

“Rydym yn dîm gwych yma ar Ward Cybi, ac mae wedi bod yn wych gwneud ychydig o weithgareddau awyr agored gyda’n gilydd megis padl-fyrddio a chymryd rhan mewn prosiectau glanhau traethau.”