Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Ffisioleg Resbiradol Ysbyty Gwynedd yn cyflwyno clinig apnoea cwsg gyrru drwodd newydd

Mae clinig apnoea cwsg gyrru drwodd arloesol wedi cael ei gyflwyno i sicrhau bod cleifion yn parhau i gael mynediad at brofion diagnostig a thriniaethau CPAP yn ystod y pandemig COVID-19.

Fel arfer byddai’r tîm Ffisioleg Resbiradol yn Ysbyty Gwynedd yn ymgymryd â phrofion diagnostig a thriniaethau CPAP mewn clinigau yn yr ysbyty. 

Mae dyfeisiadau CPAP yn awyryddion anfewnwthiol ac fe’u defnyddir yn bennaf fel opsiwn triniaeth i bobl sy’n cael problemau anadlu wrth gysgu.  Rhagnodir y driniaeth fel arfer i fynd i’r afael ag apnoea cwsg – cyflwr pan fydd anadlu yn stopio ac yn ailddechrau yn ystod cwsg.

Yn ystod Mawrth, gohiriwyd apwyntiadau cleifion allanol ac adleoliwyd nifer o’r tîm i feysydd eraill, neu i helpu gyda hyfforddiant a pharatoi dyfeisiadau meddygol a nwyddau traul i helpu gyda’r ymateb i COVID-19.

Nawr wrth i’r Bwrdd Iechyd ddechrau dod â gwasanaethau’n ôl yn araf deg ac yn y modd mwyaf diogel, mae’r tîm wedi cyflwyno clinig gyrru drwodd yn safle Ysbyty Bryn y Neuadd.

Meddai Alaw Holyfield, sy’n ffisiotherapydd: “Ar ddechrau’r pandemig, gohiriwyd ein holl glinigau a dim ond adolygiadau ffôn oedd modd i ni eu cynnal.

“Roedd ein holl gleifion yn deall ac yn gwerthfawrogi’r sefyllfa ac yn gefnogol iawn, ond roeddem yn gwybod bod rhaid i ni ddod o hyd i ffordd i barhau â’n gwasanaeth mewn ffordd wahanol.

“Diwedd Mehefin, mi wnaethom sefydlu clinigau gyrru drwodd i’n cleifion oedd yn aros am ddiagnosteg a thriniaeth CPAP.

“Rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau bod ein clinig mor ddiogel â phosibl.  Bydd ein cleifion yn dychwelyd a chasglu’r cyfarpar ac rydym wrth law i fynd drwy bopeth gyda nhw a chynnig cefnogaeth a darparu adolygiadau dros y ffôn. 

“Rydym wedi gweld nifer o gleifion erbyn hyn ac maen nhw wedi rhoi aborth dda i ni ac roeddent yn dweud eu bod yn teimlo’n gyffyrddus iawn yn dod i’r clinig i gasglu eu cyfarpar.

“Mae ein tîm yn falch iawn o allu parhau i gynnig ein gwasanaethau a darparu triniaeth i’n cleifion yn ystod yr amser ansicr hwn.”