Neidio i'r prif gynnwy

Arweinydd Tîm Nyrsio wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr genedlaethol

Mae uwch nyrs sy'n arwain Nyrsys Ardal Abergele wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr y Deyrnas Unedig gyfan.

Mae Amanda Hughes, sy'n Arweinydd Tîm, yn y ras i ennill gwobr Rheolwr Nyrsio’r Flwyddyn yng ngwobrau Gweithlu'r Nursing Times.

Disgrifiwyd Mandy fel "yr un i fynd ati" i helpu ei staff, a llwyddodd i gyrraedd y rhestr fer gan y beirniaid am ei gwaith diflino i gefnogi tîm Abergele dros y tair blynedd a hanner diwethaf.

Cafodd Mandy ei henwebu am y wobr gan Nichola Hughes, Pennaeth Nyrsio Dros Dro Gofal Cychwynnol a Chymunedol, a oedd yn canmol ei hagwedd rhagweithiol at hyfforddiant i fodloni'r her a gyflwynir gan COVID-19.

Dywedodd Nichola: "Mae gan Amanda gymaint o wybodaeth ac yn aml hi yw'r 'un y mae pobl yn mynd ati' yn gyntaf.  Mae Amanda bob amser yn rhoi staff yn gyntaf a hyd yn oed os nad yw'n gwybod yr ateb, bydd yn dod o hyd iddo.  

"Mae Amanda wedi bod yn gefnogaeth aruthrol i mi dros y ddwy flynedd diwethaf ac mae bob amser yn barod i fynd gam ymhellach i bobl.

"Mae ei thîm yn gydlynol, gweithgar ac yn grŵp hapus sy'n gweithio mor dda â'i gilydd. 

"Dros y 12 mis diwethaf yn unig, mae staff wedi gwneud modiwlau Prifysgol mewn gofalu am gleifion ag anghenion cymhleth, rheoli Diabetes, gofalu am wlserau'r goes, cwnsela a'r Wobr Arfer Arbenigol Nyrsys Ardal.  Mae un Gweithiwr Cefnogi Gofal Iechyd wedi cael cefnogaeth i gwblhau ei QCF Lefel 4 ac yn awr yn edrych ymlaen at ddechrau ei hyfforddiant nyrsio.

“Gyda COVID, roedd hi’n gwneud llawer o ymdrech i wneud yn siŵr bod yr hyfforddiant a'r sicrwydd ar gael i'r tîm cyfan hefyd, gan gynnal sesiynau pwrpasol ar offer diogelu personol (PPE) a'r canllawiau CPR newydd.

"Mae'r tîm cyfan yn llewyrchus dan arweinyddiaeth Mandy, ac ni allaf feddwl am neb sy'n haeddu'r wobr hon yn fwy na hi."

Dywedodd Mandy: "Nid oeddwn yn disgwyl cael fy enwebu o gwbl, ac ni fyddwn yma heddiw heb ymroddiad a gwaith caled ein holl dîm yn Abergele."

"Mae'r misoedd diwethaf gyda COVID-19 wedi bod yn anodd iawn i bawb, ond rwy'n falch iawn o'r tîm am gadw eu safonau mor uchel a pharhau i wneud eu gorau i'n cleifion."

Bydd Gwobrau Gweithlu'r Nursing Times yn digwydd ar 2 Rhagfyr, fel rhan o uchafbwynt dau ddiwrnod i gefnogi rheoli a datblygu nyrsys ar draws y Deyrnas Unedig.  Mae'r gwobrau yn tynnu sylw at arloesedd mewn rheoli a chynllunio'r gweithlu ac yn ei wobrwyo.

Dywedodd Debra Hickman, Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro Nyrsio: "Mae'n amlwg o enwebiad Mandy, gymaint y mae'r tîm yn Abergele yn meddwl ohoni. 

"Mae'n gyrhaeddiad arbennig i gyrraedd y rhestr fer, yn enwedig gan gofio pa mor bwysig mae arweinyddiaeth gadarn wedi bod dros y 12 mis diwethaf, ac rwy'n dymuno pob lwc iddi ar gyfer y noson wobrwyo." 

 

Diwedd