Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion o'r Bwrdd Iechyd

23/11/20
Dathlu gweithwyr cefnogi nyrsys yn Ysbyty Llandudno

Mae cyfraniad staff cefnogi nyrsys wedi cael ei ganmol yn Ysbyty Llandudno.

19/11/20
Cynlluniau ar gyfer Uned Hyfforddiant Deintyddol cyntaf Gogledd Cymru

Bydd Uned Hyfforddiant Deintyddol yng Ngogledd Cymru yn cael ei sefydlu fel rhan o gynlluniau amrywiol i wella mynediad at wasanaethau deintyddol yn y rhanbarth.

18/11/20
Cefnogaeth newydd, ychwanegol i gleifion canser ar Ward Alaw - diolch i Dîm Irfon

Mae #TîmIrfon, rhan o elusen GIG Gogledd Cymru, Awyr Las, yn falch o gyhoeddi y bydd swydd newydd sbon ar ffurf nyrs iechyd meddwl yn dod i fodolaeth ar Ward Alaw. 

18/11/20
25 mlynedd o wasanaeth gwirfoddolwr llinell gymorth iechyd meddwl yn cael ei gydnabod gyda gwobr arbennig

Mae gwirfoddolwr sydd wedi rhoi chwarter canrif o wasanaeth i linell gymorth iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru wedi ei gydnabod gyda gwobr arbennig.

17/11/20
Cartrefi newydd i dimau Gofal Critigol a Resbiradol Wrecsam

Mae Uned Gofal Critigol modern newydd ar gael erbyn hyn i'r cleifion mwyaf sâl yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

16/11/20
Cleifion cyntaf yn cael eu derbyn i Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy

Mae Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy, a gafodd ei adeiladu i gynyddu’r capasiti yn ystod y pandemig COVID-19, wedi derbyn ei gleifion cyntaf.

13/11/20
'Nyrs ac unigolyn eithriadol' yn derbyn Gwobr Seren Betsi

Cyflwynwyd gwobr annisgwyl i ‘nyrs ac unigolyn eithriadol’ am ei ymroddiad i ddarparu’r gofal gorau posibl i oedolion ag anableddau dysgu. 

12/11/20
Tîm o Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd wedi eu henwebu ar gyfer gwobr genedlaethol

Mae tîm o Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd ar restr fer ar gyfer gwobr iechyd fawreddog.

10/11/20
Uwch Ymarferydd o Ysbyty Glan Clwyd yn ymuno â phodlediad cenedlaethol i roi cipolwg ar ei gwaith yn achub bywydau

Mae arbenigwr mewn gofalu am fabanod newydd-anedig sy'n sâl ac sy'n cael eu geni'n gynnar wedi ymddangos fel cydgyflwynydd gwadd arbennig ar bodlediad cenedlaethol, yn rhoi cipolwg ar ei gwaith a gwybodaeth amdano yn Ysbyty Glan Clwyd ac ar wasanaeth cludo'r Newydd-anedig Gogledd Cymru.

09/11/20
Rhaglen addysgu ar y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol

Mae prosiect sy'n helpu plant i ddysgu am ymwrthedd gwrthficrobaidd a sut mae germau'n gweithio wedi ei roi ar y rhestr fer am wobr genedlaethol

09/11/20
'Nyrs a model rôl anhygoel' yw'r diweddaraf i ennill gwobr gan y GIG

Mae 'nyrs a model rôl anhygoel' wedi derbyn gwobr arbennig am ei gwaith diflino i wella'r gofal arbenigol a roddir i bobl sydd ag anableddau dysgu ar draws Gogledd Cymru.

06/11/20
Nyrs arennol yn ennill prif wobr Cymru ar gyfer Nyrsio Arennol yng Nghymru

Mae nyrs arennol yn Ysbyty Glan Clwyd wedi ennill gwobr genedlaethol yn dathlu llwyddiant amlwg mewn gofal nyrsio arennol.

06/11/20
Eiriolwr hydradiad, Hannah, wedi ei hysbrydoli gan ei thaid i wella cymeriant hylif

Mae gweithiwr cymorth gofal iechyd yn Ysbyty Cymuned Treffynnon yn defnyddio ei phrofiad o ofalu am aelod o'i theulu i helpu cleifion yfed digon o hylif.

05/11/20
Rydym yn rhoi cynlluniau ar waith i ddefnyddio rhywfaint o gapasiti ychwanegol yn ein Hysbyty Enfys yng Nglannau Dyfrdwy

Oherwydd pwysau cynyddol yn ein hysbytai a chynnydd yn nifer yr achosion o COVID-19 yn ein cymunedau ar draws Gogledd Cymru, yn enwedig yn ardaloedd y Canol a'r Dwyain, rydym yn rhoi cynlluniau ar waith i ddefnyddio rhywfaint o gapasiti ychwanegol yn ein Hysbyty Enfys yng Nglannau Dyfrdwy.

03/11/20
Seicolegydd o Wrecsam yn cael ei chydnabod mewn gwobrau diabetes cenedlaethol mawreddog

Mae seicolegydd sydd wedi’i lleoli yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi ennill nifer o’r gwobrau cenedlaethol gorau am ei gwaith i wella’r gofal a’r gefnogaeth a gynigwyd i bobl sy’n byw â diabetes.

02/11/20
Gwaith yn dod yn ei flaen yn dda ar ein Canolfan Ddementia ac Iechyd Meddwl Oedolion newydd gwerth £1m ym Mryn Beryl

Mae gwaith yn dod yn ei flaen yn dda i greu Canolfan Ddementia ac Iechyd Meddwl Oedolion integredig newydd yn Ysbyty Bryn Beryl.

02/11/20
Canolfan brofi newydd yn agor ym Mae Colwyn

Bydd canolfan brofi newydd yn agor ym Mae Colwyn yfory i’w gwneud yn haws i bobl yr ardal gael apwyntiad am brawf COVID-19 yn nes at eu cartrefi.

30/10/20
Diweddariad ar Ysbyty Cymuned Gogledd Sir Ddinbych i gael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Bwrdd Iechyd y mis nesaf

Caiff cynlluniau terfynol i ailddatblygu gwasanaethau iechyd yn Y Rhyl eu cyflwyno i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y mis nesaf.

30/10/20
Cynlluniau'r Bwrdd Iechyd i drawsffurfio'r ffordd mae'n darparu gofal

Mae cynlluniau'n ar y gweill i drawsffurfio'r ffordd y darperir gofal ar draws Gogledd Cymru.

27/10/20
Teyrnged i nyrs 'ysbrydoledig' yn Ysbyty Maelor Wrecsam

Mae staff o Ysbyty Maelor Wrecsam wedi talu teyrnged i'w ffrind a'u cydweithiwr annwyl, Wilbert Llobrera.