Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl am ddim i drigolion Gogledd Cymru

13.01.23

Cynigir hyfforddiant am ddim i roi gwell cymorth i'r rheiny sy’n cael trafferth gydag anawsterau iechyd meddwl.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn annog pobl ar draws Gogledd Cymru i gofrestru ar gyfer Hyfforddiant Iechyd Meddwl ac Ymwybyddiaeth o Hunan-Laddiad Fedra' i Weithio a ddatblygwyd gan ei weithwyr iechyd meddwl proffesiynol. Y bwrdd iechyd yw'r cyntaf yng Nghymru i wneud y fath hyfforddiant ar gael yn eang, a hynny’n rhad ac am ddim.

Mae'r cwrs hanner diwrnod o hyfforddiant yn rhoi trosolwg o broblemau cyffredin iechyd meddwl yn ogystal â chanllawiau arfer gorau ar sut i wrando, rhoi cyngor defnyddiol, ac edrych ar ôl eich iechyd meddwl a'ch lles eich hun.

Fe'i cyflwynir gan Felin Fach, elusen a leolir ym Mhwllheli, sy'n un o nifer o sefydliadau trydydd sector a gomisiynir gan y bwrdd iechyd i ddarparu gwasanaethau cymorth Fedra' i Weithio, yn cynnwys Hwbiau Fedra’ i Weithio ar draws y rhanbarth y gellir cael mynediad atynt ar sail galw heibio.

Datblygwyd hyfforddiant Fedra' i Weithio yn wreiddiol ar gyfer barbwyr Gogledd Cymru, fel rhan o'r ymdrechion i fynd i'r afael â thrasiedi hunan-laddiad ymysg dynion a bechgyn, ac i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl dynion. Mae hefyd wedi cael ei gyflwyno i gannoedd o staff sy’n gweithio yn y diwydiant adeiladu, sydd deirgwaith yn fwy tebygol o gymryd eu bywydau eu hunain na'r cyfartaledd cenedlaethol, yn ôl astudiaethau.

Mae'r hyfforddiant yn cael ei wneud ar gael yn ehangach bellach i unrhyw weithle, grwpiau cymunedol neu unigolion sy'n teimlo y byddant yn elwa ohono. Cyflwynir sesiynau ar-lein ac mewn gweithleoedd neu leoliadau cymunedol ar gais.

Dywedodd Lisa Goodier, arweinydd BIPBC ar gyfer gwasanaethau Fedra' i Weithio: “Rydym yn gwybod bod llawer o bobl eisiau cefnogi ffrindiau, cydweithwyr ac aelodau o'r teulu a allai fod yn cael trafferth gydag anawsterau iechyd meddwl, ond maen nhw'n poeni y gallan nhw ddweud y peth anghywir, neu wneud y sefyllfa yn waeth.

“Gobeithiwn y bydd yr hyfforddiant hwn yn grymuso pobl gyffredin mewn cymunedau ledled Gogledd Cymru i gael sgyrsiau agored, gonest a gwybodus ynghylch iechyd meddwl.

“Rydym yn annog unrhyw sydd un â diddordeb mewn derbyn yr hyfforddiant i gysylltu.”

Cliciwch yma i gadw lle ar un o'r sesiynau misol ar-lein hyn. I drafod y posibilrwydd o gael hyfforddiant wedi ei gyflwyno yn eich gweithle neu adnodd cymunedol lleol, e-bostiwch BCU.ICan@wales.nhs.uk.