Neidio i'r prif gynnwy

Astudiaeth newydd i cael gwell dealltwriaeth o heriau dementia

06.01.23

Nod astudiaeth newydd a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) yw cael gwell dealltwriaeth o'r heriau a wynebir gan ofalwyr teuluol pobl sy'n byw gyda dementia wrth ddarparu gofal personol.

Mae llawer o ofalwyr teuluol yn wynebu heriau wrth addasu i’r newid mewn rôl a ddaw yn sgil darparu gofal personol i’r rhai sy'n annwyl iddynt ac yn aml gall fod yn drobwynt i’r unigolyn sy’n byw gyda dementia symud i gartref gofal.

Dywedodd Mrs Susan Briggs, gofalwr teulu:

Fel gofalwr teulu nid oedd gennyf unrhyw brofiad blaenorol o ddarparu gofal, heb sôn am ofal personol i rywun sy'n byw gyda dementia.  Roeddwn yn teimlo allan o fy nyfnder.   Bydd y prosiect ymchwil pwysig hwn yn rhoi cyfle i ofalwyr teuluol rannu nid yn unig eu profiadau eu hunain, ond hefyd eu strategaethau ymdopi a fydd yn eu tro o fudd i gynulleidfa lawer ehangachRwy'n edrych ymlaen at weithio gyda phawb. "

Mae’r astudiaeth newydd hon, a arweinir ar y cyd gan Dr Shirley Evans, Cyfarwyddwr Dros Dro Cymdeithas Astudiaethau Dementia Prifysgol Caerwrangon, a Dr Tracey Williamson, Nyrs Ymgynghorol ar gyfer Dementia ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Athro Er Anrhydedd mewn Ymgysylltu â Chleifion a Theuluoedd ym Mhrifysgol Caerwrangon, yn cynnwys arolwg ar draws y DU a chyfweliadau gyda gofalwyr teuluol, i roi llais i ofalwyr teuluol, sy’n aml yn cael eu cadw yn y cysgodion, ar y pwnc pwysig hwn.

Dywedodd Dr Shirley Evans, cyd-arweinydd y prosiect a Chyfarwyddwr Dros Dro y Gymdeithas Astudiaethau Dementia:

“Mae Cymdeithas Alzheimer’s yn amcangyfrif bod dros 670,000 o bobl yn y DU yn brif ofalwyr di-dâl i bobl â dementia ac mae llawer o’r rhain yn darparu gofal personol. Dim ond ychydig o ymchwil sydd wedi cael ei wneud ar brofiadau ac anghenion pobl. Edrychaf ymlaen yn fawr at gyd-arwain y prosiect hwn a gweithio gyda’n cyd-ymgeiswyr arbenigol a phartneriaid i wella gwybodaeth a dealltwriaeth a chynhyrchu canllawiau i gefnogi gofalwyr teuluol a’r rhai sy’n eu cefnogi. ”

Ychwanegodd yr Athro Tracey Williamson, Nyrs Ymgynghorol ar gyfer Dementia ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a arweiniodd y cais llwyddiannus am gyllid cyn ymuno â’r Bwrdd Iechyd:

“Mae hwn yn ymchwil hanfodol a fydd yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o sut mae darparu gofal personol i unigolyn â dementia yn effeithio ar ofalwyr a pha strategaethau maen nhw’n datblygu i ymdopi. Byddwn yn cyd-ddylunio nifer o adnoddau i gefnogi gofalwyr teuluol gyda darparu gofal personol a all gynnwys hyfforddiant, trwy gyfres o weithdai tua diwedd yr astudiaeth.”

Mae'r prosiect ymchwil 18 mis yn cynnwys nifer o gyd-ymgeiswyr gan gynnwys gofalwr teulu, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Partneriaeth Canolbarth Lloegr, Dementia UK ac aelodau eraill o staff o Brifysgol Caerwrangon. Byddant yn arwain ar wahanol agweddau ar y prosiect, gan gynnwys recriwtio cyfranogwyr, casglu data a rhannu canfyddiadau ac adnoddau tra’n sicrhau bod gofalwyr teuluol a phobl sy’n byw gyda dementia yn cymryd rhan weithredol yn yr ymchwil

Partneriaid y prosiect yw Cymdeithas Alzheimer, Home Instead Worcestershire, Dementia Carers Count, Douglas McMillan Hospice, TiDE (Together Everyday in Dementia)/Life Story Network a Phrifysgol Arden. Bydd y partneriaid hyn yn hyrwyddo'r astudiaeth ac yn trosglwyddo gwybodaeth astudio i gyfranogwyr cymwys. Byddant yn canolbwyntio ar nodi llwybrau ar gyfer rhannu a gwneud defnydd o ganfyddiadau'r astudiaeth o fewn eu sefydliadau a'u sectorau. Byddant yn rhannu ac yn cael adborth ar unrhyw adnoddau peilot a deunyddiau hyfforddi a bydd rhai yn gwerthuso eu defnydd yn uniongyrchol yn y cymorth i ofalwyr teuluol a ddarperir ganddynt.

Enw’r prosiect, sydd wedi derbyn £254,141 gan yr NIHR, yw Croesi’r Llinell: darparu gofal personol yng nghyd-destun teuluoedd y mae dementia’n effeithio arnynt.