Neidio i'r prif gynnwy

Cydweithrediad gyda Chyngor Sir Ddinbych i wella iechyd meddwl bechgyn ifanc yn ennill gwobr.

23 Rhagfyr 2023 

Mae rhaglen unigryw i drawsnewid llesiant ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Ngogledd Cymru wedi cael ei chydnabod gyda gwobr genedlaethol.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Tîm Trawsnewid a Gwella CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc) gyda chymorth tîm Ymchwil a Datblygu’r Bwrdd Iechyd alwad genedlaethol i bartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol rannu syniadau a fyddai’n helpu i wella’r gwasanaethau a gynigir i bobl ifanc.

Un o’r prosiectau a gyflwynwyd oedd y Prosiect Bechgyn Coll gan Dîm Cwnsela Pobl Ifanc Cyngor Sir Ddinbych.

Darparodd y prosiect peilot fwy o wasanaethau cwnsela mewn ysgolion ar gyfer bechgyn a dynion ifanc rhwng 11-18 oed yn Sir Ddinbych, a helpodd i leihau pwysau ac amseroedd aros am wasanaethau CAMHS.

Mae canlyniadau cynnar y prosiect hwn wedi dangos bod y bechgyn ifanc a gymerodd ran yn y prosiect bellach yn gwybod mwy am sut i gael cymorth iechyd meddwl a phryd i geisio cymorth.

Mae’r prosiect hwn bellach wedi’i gydnabod yn genedlaethol ar ôl ennill Gwobr ‘Arloesi Gofal Cymdeithasol trwy Gydweithio’ yng Ngwobrau MediWales eleni.

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghyngor Sir Ddinbych: “Rydym yn falch o’r ymrwymiad a’r ymroddiad a ddangoswyd gan y tîm gwych hwn wrth gyflwyno’r prosiect hynod bwysig hwn i gefnogi bechgyn a dynion ifanc.

“Rwy’n falch iawn bod y tîm wedi cael ei gydnabod gan MediWales am eu gwaith caled a’u hymroddiad wrth ofalu am ein preswylwyr gwrywaidd iau. Ar ran y Cyngor a’r rhai y maent wedi rhoi cefnogaeth wych iddynt drwy’r prosiect, hoffem eu llongyfarch a diolch iddynt am eu proffesiynoldeb a’u gwaith caled.”

Mae’r tîm Cwnsela Pobl Ifanc yn bwriadu cydweithio â’r Bwrdd Iechyd i ymestyn y gwasanaeth hwn yn yr ardal gyda’r gobaith o wella cyfraddau ymgysylltu dynion â therapi.

Ychwanegodd Llinos Edwards, Arweinydd Trawsnewid ar gyfer CAMHS yn BIPBC: “Mae’r alwad hon am arloesi wedi rhoi’r cyfle unigryw i ni gydweithio ag ystod eang o bartneriaid sydd â’r un nod i wella gwasanaethau plant yng Ngogledd Cymru.

“Mae’r prosiect hwn yn Sir Ddinbych yn enghraifft o gynnig cymorth yn gynharach i fechgyn ifanc sydd fel arfer yn ei chael hi’n anodd estyn allan am gymorth, gan leihau’r angen am ymyrraeth fwy arbenigol yn ddiweddarach mewn bywyd yn y pen draw.

“Hoffem ddiolch i’n holl bartneriaid am eu hymrwymiad i’r rhaglen hon, rydym wedi cael rhai syniadau gwych oddi wrthynt yr ydym yn bwriadu eu harchwilio yn y dyfodol agos.”