Neidio i'r prif gynnwy

Canmoliaeth i dîm Ysbyty Gwynedd am achub golwg bachgen ifanc

13.01.23

Mae mam wedi diolch i’r tîm yn Ysbyty Gwynedd am achub golwg ei mab ifanc ar ôl damwain annisgwyl ar Noswyl Nadolig.

Roedd Theo, bachgen pum mlwydd oed, yn chwarae ei gêm gyfrifiadurol yn ddigon hapus pan lithrodd dysgl wydr oddi ar yr arwyneb gwaith a chwalu, gan achosi i ddarn o wydr greu rhwyg yn ei lygad dde.

Yn dilyn y ddamwain, rhuthrodd ei rieni ef i’r Adran Achosion Brys lle cafodd ei anfon am sgan CT yn syth.

Dywedodd ei fam, Cara Williams: “Cyrhaeddon ni yn yr Adran Achosion Brys ganol y prynhawn a chawsom ein gweld yn gyflym iawn, ac roeddem yn ddiolchgar am hynny gan ei bod yn ofnadwy o brysur.

“Roeddem yn ofnadwy o bryderus bryd hynny gan ein bod ni’n meddwl ei fod yn mynd i golli ei olwg, ond roedd Dr Pete Williams a Dr Michal Washington yn wych yn darparu gofal cyflym ac yn ein diweddaru ar yr hyn a oedd yn digwydd.”

Ar ôl yr archwiliad cychwynnol o’r llygad a chael canlyniadau’r sgan CT, cadarnhaodd y tîm meddygol fod ar Theo angen llawdriniaeth frys i achub ei olwg yn ei lygad anafedig.

Cysylltodd Rheolwr y Safle, Clare McGrath, â'r Llawfeddyg Ymgynghorol Llygaid, Mr Syed Amjad, ar unwaith i egluro'r sefyllfa a chafodd trefniadau ar gyfer llawdriniaeth frys ar y llygad eu rhoi ar waith.

Yn lle agor anrhegion, aed â Theo i’r theatr frys ar fore Nadolig.

Dywedodd Mr Amjad: “Roedd Theo bach mewn sefyllfa beryglus iawn ac roedd angen llawdriniaeth frys ar y llygad. Heb driniaeth lawfeddygol frys, byddai Theo wedi colli ei olwg yn llwyr yn ei lygad dde.

 “Paratôdd y tîm Anesthetig Theo ar gyfer y llawdriniaeth a chafodd ei flaenoriaethu felly roeddem yn gallu sicrhau bod y llawdriniaeth hon yn digwydd cyn gynted â phosibl – roedd amser yn hollbwysigl.

 “Cymerodd y llawdriniaeth tua dwy awr, cafodd y rhwyg yn y llygad ei chyweirio a’i phwytho.”

Treuliodd Theo’r dyddiau nesaf ar Ward Dewi (Ward y Plant) lle bu’n cael ei fonitro gan y staff gofal iechyd yn rheolaidd.

Diolch byth, roedd y llawdriniaeth yn llwyddiant ac mae bron i 100 y cant o olwg Theo wedi dychwelyd yn ei lygad dde.

Aeth Theo i ymweld ag Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar am apwyntiad dilynol ac i gyfarfod rhai o’r tîm a chwaraeodd ran bwysig yn achub ei olwg.

“Ni allwn ddiolch digon fel teulu i staff yr ysbyty am yr hyn a wnaethant i Theo.

 “O’r eiliad y cyrhaeddon ni’r Adran Achosion Brys hyd at y theatr a’n harhosiad ar Ward Dewi, roedd y gofal yn wych ac roeddem yn teimlo fel ein bod wedi derbyn y gofal gorau posib drwy gydol y broses.

 “Hoffem ddiolch yn fawr iddynt, yn enwedig am achub golwg Theo, ond hefyd i dynnu sylw at y gwaith anhygoel y maent yn ei wneud,” meddai Cara.

Ychwanegodd Mr Amjad: “Roedd yn ymdrech tîm gwirioneddol, hoffwn ddiolch i’r tîm yn yr Adran Achosion Brys a Clare McGrath am weithredu mor gyflym a hefyd i’r tîm Anesthetig a’r tîm Theatr a weithiodd gyda mi yn ystod y llawdriniaeth.

 “Roeddem yn falch iawn o weld Theo unwaith eto a chael gweld pa mor dda y mae wedi gwella yn dilyn y llawdriniaeth.”