Neidio i'r prif gynnwy

Negeseuon plant i helpu i lywio penderfyniadau a wneir ar draws Gogledd Cymru

25/11/2022

Mae negeseuon allweddol gan blant a phobl ifanc ar draws Gogledd Cymru wedi eu troi yn 'llyfr rysait' ymgysylltu ar gyfer sefydliadau i sicrhau eu bod yn cael eu trin yn deg a bod ganddynt lais.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) wedi gosod cenhadaeth i greu Siarter Plant yn seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig (UNCRC) ar Hawliau'r Plentyn. Mae'r Siarter yn set o safonau y mae sefydliadau yn gweithio tuag atynt i wneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc yn cael eu trin yn deg ac yn cael llais.

Dros yr haf, mynychodd plant a phobl ifanc Gogledd Cymru ddigwyddiadau ar raddfa fawr, lle cymerodd 900 o blant ysgolion cynradd ran i roi eu safbwyntiau a'u teimladau ar beth sydd wir yn bwysig iddynt.

Yn dilyn y digwyddiadau hyn, crewyd llyfr Rysait Ymgysylltu Gogledd Cymru o'r negeseuon gan y plant a'r bobl ifanc. Gobeithia'r llyfr rysait ddarparu gwybodaeth a mewnwelediad i'r hyn sy'n bwysig i bobl ifanc, ac i gefnogi sefydliadau ar draws Gogledd Cymru i greu eu haddewidion safonau a'u gwerthoedd eu hunain i'r plant a'r bobl ifanc sy’n defnyddio gwasanaethau a chefnogi cenhedlaethau'r dyfodol.

Gwnaeth Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) y bwrdd iechyd a gwasanaethau Niwroddatblygiadol, sy’n arwain ar ddatblygiad y Siarter, hefyd ymweld ag ysgolion uwchradd ar draws y rhanbarth.

Dywedodd Jane Berry, Arweinydd Profiad Cleifion CAMHS: “Pan ofynnwyd i blant a phobl ifanc ynghylch caredigrwydd a bod yn oedolyn da roedd y themâu i'w gweld yn cysylltu'n agos iawn. Dywedodd pobl ifanc wrthym eu bod yn meddwl bod caredigrwydd yn ymwneud â bod yn neis, cefnogol, gofalgar, a pharchus a chael eich caru a gallwn ddangos caredigrwydd drwy fod yn gymwynasgar, hapus a gwrando, grymuso a chredu mewn pobl ifanc.

“Fe wnaethom ni ganfod bod plant a phobl ifanc yn teimlo fod bod yn oedolyn da yn cwmpasu’r holl agweddau ar garedigrwydd, mae hefyd ddisgwyliad y byddai oedolion yn aeddfed, cyfrifol ac awdurdodol tra'n edrych ar eu hôl nhw ac yn darparu ar gyfer eu hanghenion sylfaenol.”

Yn ystod y digwyddiad gofynnwyd i'r plant a'r bobl ifanc pa negeseuon fyddent yn eu rhannu gyda’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau. Y rhain oedd:

· Gwrando – mae eu safbwyntiau yn bwysig ac yn helpu i ddylanwadu ar benderfyniadau

· Cysur, cefnogaeth, credu ynddynt a gwneud amser iddynt

· Eu trin yn gyfartal, gweithio gyda'i gilydd a dangos parch tuag atynt

· Siarad â nhw a chynnwys pobl ifanc

· Cymell a darparu cyfleoedd

· Bod yn deg a chael amynedd

· Gwneud dewisiadau da

· Modelu ymddygiad da ac ysbrydoli pobl ifanc

Ychwanegodd Jane: “Yn yr un modd, fe wnaethon ni ganfod bod cysylltiadau agos rhwng yr hyn a olyga cymunedau'r plant a'r bobl ifanc iddynt a'r hyn sy'n gwneud iddynt deimlo'n dda ac yn bositif. Wrth drafod eu cymunedau, fe wnaethon nhw siarad am fannau y gallan nhw fynd i chwarae, dysgu a chymdeithasu gyda'r bobl y maen nhw'n eu hadnabod ac sy’n bwysig iddynt; cartref, teulu a chartrefi ffrindiau, ysgolion, llyfrgelloedd, y tu allan yn natur a chlybiau ieuenctid.

“Roedden nhw'n siarad am y pwysigrwydd o deimlo'n ddiogel yn y cyfnodau hynny, cynwysoldeb, gwaith tîm, bod yn rhan o rywbeth mwy a bod y lleoedd hyn yn fannau hwyliog a llawen. Fe wnaethom ni ganfod bod cymunedau plant a phobl ifanc a'r bobl, mannau a'r lleoliadau oddi mewn iddynt yn chwarae rôl fawr yn yr hyn sy'n eu cefnogi i aros yn iach. Fe wnaethon nhw siarad am gymryd rhan mewn clybiau a gweithgareddau a chael ymwybyddiaeth o eraill ac am werth cyfeillgarwch.”

Bydd yr holl adborth yn rhoi gwybodaeth i'r llyfr Rysait Ymgysylltu Gogledd Cymru ac yn llywio Siarter y Plant BIPBC.