Neidio i'r prif gynnwy

Helpwch ni i amddiffyn eich perthnasau a'ch ffrindiau rhag heintiau

29.12.22

Mae ein cyfarwyddwr gweithredol nyrsio wedi apelio'n uniongyrchol at y cyhoedd i helpu i ddiogelu ysbytai acíwt y rhanbarth rhag heintiau diangen.

Mae hyn yn dilyn pwysau enfawr ar y system iechyd yng Ngogledd Cymru, wedi'i achosi gan gynnydd mewn achosion o drosglwyddo'r ffliw, cynnydd enfawr yn nifer y galwadau coch am ambiwlans (y rhai mwyaf difrifol) o gymharu â'r llynedd, a chynnydd yn nifer y bobl sy'n ymweld â'n hadrannau achosion brys ar ôl pedwar diwrnod o wyliau.

Un testun pryder yw cynnydd yn niffyg cymdymffurfiaeth ymwelwyr â chanllawiau a luniwyd i amddiffyn cleifion a staff rhag heintiau sy'n dod i mewn safleoedd acíwt y Bwrdd Iechyd.

Dywedodd Angela Wood: “Dymunaf bwysleisio pa mor bwysig yw'r canllawiau hyn i ymwelwyr, o safbwynt cleifion a staff ein hysbytai.

“Yn ddiweddar, fe wnaethom gynyddu'r amser y gall ymwelwyr ei dreulio yn ymweld ag anwyliaid, ond mae angen rhywfaint o gyfrifoldeb dinesig yn sgil hynny.

“Yn gyntaf, ni ddylai neb hyd yn oed ystyried ymweld ag ysbyty os oes ganddynt symptomau annwyd neu'r ffliw, neu os ydynt yn gwybod eu bod yn sâl.

“Os gwnewch chi hynny, byddwch yn peryglu lles eich anwyliaid a bydd hynny hefyd yn bygwth iechyd ein staff, a fydd yn methu â gofalu am y boblogaeth os byddant yn dal y ffliw, Covid neu RSV.

“Yn ystod y wythnos a ddaeth i ben ar 19 Rhagfyr, fe wnaethom ni ddiagnosio 300 o gleifion newydd â'r ffliw arnynt, cynnydd o 58% o gymharu â'r wythnos flaenorol.

“Mae'r nifer hon o gleifion yn cyfateb i 22% o'r gwelyau sydd gennym ar gael ar gyfer gofal acíwt. Gwelwyd yr heintiau hyn yn bennaf ymhlith plant 0-4 blwydd oed a phobl dros 60 mlwydd oed, y rhai mwyaf bregus.

“Mae hyn cyn i ni ystyried achosion o drosglwyddo Covid a heintiau anadlol eraill, sy'n dod yn broblem gyffredin ar yr adeg hon o'r flwyddyn, a'r cynnydd o bron dwy ran o dair a adroddwyd yn ddiweddar yn nifer y galwadau mwyaf difrifol (coch) am ambiwlans.

“Os ydych chi'n iach ac yn ymweld â'r hysbytai, cofiwch wisgo masg, onid ydych chi wedi'ch eithrio. Bydd hynny'n helpu i amddiffyn cleifion a staff os ydych chi wedi dal firws ond heb unrhyw symptomau amlwg.

“Cadwch at y rheolau ynghylch glendid dwylo. Glanhewch eich dwylo gan ddefnyddio hylif alcohol neu ddŵr a sebon cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd yr ysbyty. Glanhewch hwy eto os byddwch yn cyffrwdd ag unrhyw arwynebau, megis handlenni drysau, ac eto cyn cyffwrdd a unrhyw beth sy'n eiddo i glaf neu arwynebau y buasaent yn eu defnyddio.

“Cadwch eich pellter os gallwch chi a sicrhewch na fydd mwy na dau ymwelydd gyda phob claf ar unrhyw adeg, oni bydd y nyrs sy'n gyfrifol wedi cytuno fel arall. Bydd y mesurau syml hyn yn ein helpu i gadw'n hysbytai yn ddiogel ac yn ddi-haint.

“Rwyf wedi gorchymyn i holl aelodau fy staff nyrsio i herio pobl sydd ddim yn gwisgo masg neu rai sy'n amlygu unrhyw symptomau faint feiraol.

“Cofiwch fod yn barchus â hwy os byddant yn eich herio chi, oherwydd byddant yn ceisio amddiffyn eich anwyliaid rhag niwed.

“Mae gennym lawer o bobl fregus yn ei hysbytai ac mae eich cymorth a'ch cydweithrediad parhaus yn hanfodol i'n galluogi i'w cadw mor ddiogel ag y gallwn ni.

“Byddai un unigolyn yn unig yn anwybyddu'r canllawiau hyn yn ddigon i achosi brigiad. Fodd bynnag, hoffwn ddiolch i'r mwyafrif o'n hymwelwyr am gydweithio â ni i sicrhau fod nifer yr heintiau yn isel.”