Neidio i'r prif gynnwy

Plant, asynnod a Siôn Corn yn ymweld ag ysbyty i gynnau goleuadau Coeden Nadolig

20/12/2022

Fe wnaeth Ysbyty Cymuned yr Wyddgrug gynnau goleuadau ei goeden atgofion Nadolig, er mwyn i bobl ddathlu a chofio anwyliaid a chleifion sydd wedi'n gadael ni.

Cynhaliodd yr ysbyty ddigwyddiad arbennig i'w gleifion, a gwahoddwyd disgyblion o ysgol leol Bryn Gwalia, Siôn Corn, asynnod a pherthnasau i ddod i'r digwyddiad.

Fe wnaeth pawb fwynhau ymweliad arbennig gan Siôn Corn ac fe wnaeth côr yr ysgol ganu caneuon Nadoligaidd i ddiddanu'r cleifion a'r staff. Hefyd, aethpwyd ag asynnod Moel Famau, Rosie a Nancy, am dro o amgylch yr ysbyty fel y gallai'r holl gleifion eu gweld trwy eu ffenestri.

Sefydlwyd y goeden atgofion Nadolig y llynedd gan Diane Sweeney, Cydlynydd Gweithgareddau a Lles yn yr ysbyty. Yn 2020, fe wnaeth Dianne ganfod addurn coeden Nadolig â llun ac enw ar y cefn, ar eu coeden Nadolig y tu allan i'r ysbyty. Canfu Diane fod yr addurn wedi'i osod ar y goeden gan Jean, sy'n byw ger yr Wyddgrug, er cof am ei merch, Phillipa.

Yn 2021, fe wnaeth Diane drefnu i oleuo 'Coeden Atgofion Phillipa' yn yr ysbyty, a hynny am y tro cyntaf. Mae'n ddigwyddiad blynyddol erbyn hyn.

Dywedodd Diane: “Rwyf wrth fy modd ein bod wedi sefydlu hyn fel traddodiad newydd yn yr ysbyty. “Yn 2020, fe wnaethom roi coeden Nadolig go iawn i'r ysbyty y gwnaethom a'i gosod y tu allan i'r adeilad, oherwydd ni allem osod ein coeden a'n haddurniadau arferol y tu mewn i'r adeilad oherwydd mesurau atal heintiau COVID-19.

““Pan oeddwn yn tynnu’r addurniadau oddi ar y goeden, fe wnes i ganfod addurn â'r enw Phillipa arni, ac yna, fe wnes i ganfod Jean a oedd wedi ei osod ar y goeden er cof am ei merch, a fu farw yn yr ysbyty flynyddoedd yn ôl. Ar ôl sgwrsio â Jean, penderfynwyd sefydlu'r goeden atgofion.”

Fe wnaeth Siôn Corn a Maer yr Wyddgrug, y Cynghorydd Haydn Jones, gynnau goleuadau'r goeden Nadolig eleni, ac roedd digonedd o siocled poeth, mins peis a chacennau Nadolig i'w mwynhau.

Ychwanegodd Diane: “Rydym yn annog eraill i osod addurn ag enw arno ar y goeden er cof am eu hanwyliaid hefyd. Roedd cynnau'r goleuadau eleni yn ddigwyddiad mor hyfryd, ac roedd hi'n wych gweld y plant a'r cleifion yn mwynhau gweld ac anwesu'r asynnod. Canodd y plant yn hyfryd i ni hefyd.

“Hoffwn ddiolch i'r gymuned am eu rhoddion, i'r ysgolion a gymerodd ran ac i'n Metron a'r holl staff yn yr ysbyty am eu cefnogaeth, ni allem ni fod wedi gwneud hyn hebddynt hwy.”