Neidio i'r prif gynnwy

Galw ar fusnesau i helpu anwyliaid gysylltu â chleifion ysbyty

Pan fydd aelod o’r teulu yn cael ei dderbyn i’r ysbyty, gall fod yn gyfnod pryderus i berthnasau, ac nid yw’n hawdd bob amser cael gwybodaeth amserol am gyflwr eu hanwyliaid, er gwaethaf ymdrechion gorau staff rheng flaen y GIG sydd dan bwysau.

Fel rhan o ymdrechion i fynd i’r afael â hyn, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda chyllid a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru, yn herio busnesau ac academia i ddod o hyd i atebion arloesol, gyda hyd at £330,000 ar gael i ddatblygu’r prosiect buddugol.

Bydd yr her, y diweddaraf o Fentrau Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn helpu i fynd i’r afael â phrif achosion yr anfodlonrwydd  mae ffrindiau a pherthnasau cleifion ysbytai Gogledd Cymru yn ei fynegi.

Mae Canolfan Ragoriaeth SBRI,  o dan nawdd y Bwrdd Iechyd, yn dod â’r sector gofal iechyd a busnesau ynghyd er mwyn datrys heriau sy’n wynebu’r GIG.

Ymhlith mentrau blaenorol SBRI, mae prosiect a helpodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i leihau’n sylweddol amser a chost glanhau ambiwlansys, gan alluogi parafeddygon i gefnogi mwy o gleifion pan oedd pandemig COVID-19 yn ei anterth.

Dywedodd yr Athro Tracey Williamson, Ymgynghorydd Nyrsio ar gyfer Dementia gyda BIPBC, a arweiniodd y cais SBRI llwyddiannus:

“Rydym ni’n gwybod y gall perthnasau ddioddef straen a phryder sylweddol os nad ydyn nhw’n gwybod beth sy’n digwydd pan fydd eu hanwyliaid yn cael eu derbyn i’r ysbyty a gall hyn beri pryder i gleifion hefyd. Mae'r sefyllfa hon yn effeithio'n arbennig ar y cleifion hynny nad oes ganddynt eu ffonau eu hunain neu sy'n methu eu defnyddio, neu'r rhai sydd â chyfyngiadau gwybyddol megis dementia neu anghenion iechyd meddwl.

“Oherwydd y pwysau sydd arnynt, mae ein staff, sy’n gweithio’n galed, yn aml yn ei chael hi’n anodd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i berthnasau cleifion dros y ffôn. Ar ben hyn, mae’r baich o dynnu ac ail wisgo dillad amddiffynnol (PPE) a golchi dwylo i ateb y ffôn, yn arwain at amgylchedd o gyfathrebu annigonol.”

 “Nid yw’r system bresennol o ffonio yn effeithiol bob amser ac rydym yn gwybod y gall perthnasau dreulio cyfnodau hir o amser cyn cael ateb i’w galwad, ac wedyn nid ydyn nhw o reidrwydd yn cael gwybodaeth sy’n berthnasol i gyflwr presennol eu hanwyliaid.

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda busnesau a’r tîm SBRI i ddatblygu atebion arloesol a fydd yn gwella mynediad i wybodaeth i berthnasau cleifion tra’n lleihau’r galw ar staff rheng flaen.”

Gwahoddir busnesau i fynychu digwyddiad briffio ar 30 Tachwedd, a bydd ganddynt hyd at 14 Rhagfyr i wneud cais i fod yn rhan o her SBRI, gyda’r dyddiad cau ar gyfer syniadau terfynol ym mis Mawrth 2024. I gael gwybod mwy, ewch i wefan Canolfan Ragoriaeth SBRI.

.