Neidio i'r prif gynnwy

Galw ar bobl i helpu gyda gwaith ymchwil yn y dyfodol yn Ysbyty Wrecsam Maelor

08/12/2022

Gwaith ymchwil yw’r unig ffordd o wella ein dealltwriaeth o salwch ac o ddatblygu gwell triniaethau, meddai ymchwilwyr sy’n edrych am bobl i ymuno â’u rhestr o wirfoddolwyr.

Mae Canolfan Ymchwil Clinigol Gogledd Cymru (NWCRF) sydd wedi’i lleoli yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi datblygu cronfa ddata ddiogel i wirfoddolwyr a chleifion sy’n fodlon i ni gysylltu â nhw am brosiectau ymchwil yn y dyfodol.

Mae’r gronfa ddata a elwir yn Consent 4 Consent (C4C) yn gronfa ddata fewnol ddiogel o gleifion a gwirfoddolwyr sy’n dymuno cael eu hystyried fel cyfranogwyr posib ar gyfer prosiectau ymchwil. Gweithwyr gofal proffesiynol o NWCRF fydd yr unig bobl fydd â mynediad at y wybodaeth.

Dywedodd Dr Orod Osanlou, Cyfarwyddwr NWCRF a Meddyg Ymgynghorol mewn ffarmacoleg glinigol a therapiwteg, meddygaeth fewnol, “Rydym yn annog gwirfoddolwyr a chleifion i gofrestru a chymryd rhan yn ein prosiectau ymchwil. Mae angen cymorth gwirfoddolwyr ar gyfer bron pob darn o waith ymchwil er mwyn datblygu’r gweithdrefnau hyn ac i ganfod a ydynt yn effeithiol.”

“Bydd y rhai hynny sy’n cytuno i gael eu cynnwys ar y gronfa ddata C4C yn cael cyswllt gyda gweithwyr ymchwil proffesiynol o’r NWCRF os oes unrhyw astudiaeth ymchwil, yn eu barn nhw, a allai fod o ddiddordeb i chi, byddant yn anfon gwybodaeth am yr astudiaeth atoch, efallai y byddant yn cysylltu gyda chi i ofyn rhagor o gwestiynau ac i roi’r cyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau.”

“Mae hyn yn gwbl wirfoddol, gallwch ddewis i gael eich tynnu oddi ar y gronfa ddata ar unrhyw adeg.”

Bydd rhai astudiaethau hefyd yn ad-dalu treuliau’r gwirfoddolwyr am deithio ac unrhyw anghyfleuster.

Ers i’r ganolfan ymchwil agor, mae’r cyfleuster wedi cynnal amryw o brosiectau ymchwil ar raddfa genedlaethol, gan gynnwys treialon brechlynnau COVID-19, astudiaethau pigiadau atgyfnerthu a gwaith ymchwil imiwnedd. Mae’r ganolfan hefyd yn cyd-weithio â sefydliadau ymchwil blaenllaw megis Iechyd Cyhoeddus Cymru, prifysgolion, ac Ymddiriedolaethau Prifysgol y GIG.

Os hoffech ymuno â chronfa ddata C4C, yna cysylltwch â thîm ymchwil NWCRF drwy ffonio 0300 858032 neu e-bostio BCU.NWCRFParticipant@wales.nhs.uk.. Bydd aelod o’r tîm ymchwil yn trafod y gronfa ddata mewn mwy o fanylder a byddant yn rhoi’r cyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau.