Neidio i'r prif gynnwy

Goroeswr canser ifanc yn annog eraill i fod yn gyfarwydd â'u bronnau

22 Tachwedd, 2022

Mae dynes 33 mlwydd oed o Fenllech yn annog eraill i fod yn ymwybodol o'u hiechyd ac i archwilio eu bronnau yn rheolaidd ar gyfer arwyddion posibl o'r afiechyd.

Cafodd Dawn Williams ddiagnosis o ganser y fron pan oedd yn 32 mlwydd oed ac mae hi bellach yn awyddus i rannu ei stori i annog merched i archwilio eu bronnau yn rheolaidd a chanfod canser yn gynnar.

Roedd hi ym mis Mawrth 2022 pan dderbyniodd Dawn y newyddion torcalonnus iddi gael diagnosis canser y fron. Yn 32 mlwydd oed, roedd hi'n gorfforol ffit ac iach heb hanes teuluol agos o ganser y fron, felly roedd yn sioc i bawb pan dderbyniodd ei diagnosis.

“Collodd Iwan fy ngŵr ei fam i ganser y fron yn 2006 felly ers hynny, mae o wedi fy annog i archwilio fy mronnau i edrych am unrhyw newidiadau. 

“Doeddwn i ddim bob amser yn cofio gwneud ond roedd hi ar ddechrau'r flwyddyn ac fe wnes archwiliad sydyn pan oeddwn yn y gawod a dyna pryd wnes i ganfod lwmp.

“Wnes i ddim panicio gan fy mod i wirioneddol yn credu na fyddai'n ddim i boeni amdano ond fe wnes i drefnu apwyntiad gyda'r meddyg teulu ar fy union.

“Archwiliodd y meddyg teulu fi gan ddweud gan fy mod i'n ifanc, yn iach a heb hanes teuluol o ganser y fron na fyddai rheswm i ofni mai canser oedd o ar yr adeg honno.”

Cyfeiriwyd Dawn at Glinig y Fron Mynediad Cyflym Ysbyty Gwynedd i gael profion diagnostig i ddarparu diagnosis cywir.

Dywedodd Dr Andrew Gash, Radiolegydd Ymgynghorol oedd ynghlwm â sefydlu'r clinigau ym Mangor a Llandudno: “Yng Nghlinigau'r Fron Mynediad Cyflym, rydym yn gweld cleifion sydd â'u symptomau yn amheus o ganser.

“Rydym yn anelu at archwilio'r cleifion a chwblhau’r holl brofion angenrheidiol yn ystod yr un ymweliad. Mae'r profion hyn yn cynnwys mamogramau, sganiau a biopsïau. Diolch byth, nid oes gan y rhan fwyaf o'r cleifion ganser, gall y bobl hyn gael tawelwch meddwl a'u rhyddau ar yr un diwrnod. Bydd y rheiny â chanfyddiadau mwy amheus yn cael biopsïau ac yn dychwelyd i gael y canlyniadau rai dyddiau yn ddiweddarach.”

Wythnos yn ddiweddarach, dychwelodd Dawn i'r ysbyty i dderbyn y canlyniadau a wnaeth gadarnhau ei hofnau gwaethaf.

Dywedodd: “Roeddwn mewn sioc lwyr; wnes i erioed ddisgwyl iddo fod yn ganser. Dydych chi ddim yn credu y gwnaiff o fyth ddigwydd i chi. Cefais gynllun triniaeth clir yn syth bin a dechrau ar gwrs cemotherapi 6 mis ar Ward Alaw. Nid oedd unrhyw oedi mewn cychwyn y driniaeth.”

“Roedd y cemotherapi yn hynod o lwyddiannus mewn crebachu fy nhiwmor ac yna, cefais lawdriniaeth i'w dynnu yn ogystal â thynnu tri nod lymff.

“Diolch byth mae'r nodau lymff hynny wedi dod yn ôl yn glir ond bydd angen cwrs o radiotherapi i gwblhau fy nhriniaeth ond rydw i bellach yn teimlo'n bositif iawn ac yn lwcus i ddweud fy mod i bellach yn rhydd o ganser. Gwnaeth dal yr afiechyd yn gynnar gymaint o wahaniaeth yn fy achos i a golygu prognosis gwell. Alla i ddim pwysleisio digon pwysigrwydd hunanarchwilio ac ymwybyddiaeth o'ch corff eich hun."

Yn dilyn ei phrofiad, mae Dawn bellach yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o'r afiechyd mewn pobl ifanc.

“Pe na bai wedi bod am Iwan yn f'atgoffa i archwilio fy mronnau yn amlach, efallai na fyddwn i byth wedi sylwi ar y lwmp y diwrnod hwnnw - i mi, fo a achubodd fy mywyd.

“Fy neges i eraill erbyn hyn yw; archwiliwch eich cyrff yn rheolaidd, mae'n bwysig bod yn gyfarwydd â sut mae eich bronnau yn edrych ac yn teimlo yn arferol, fel eich bod yn sylwi ar unrhyw beth anghyffredin ac yn trefnu archwiliad. Mae hyn yn arbennig o wir i ferched ifanc o dan 50 mlwydd oed nad ydyn nhw eto'n gymwys ar gyfer sgrinio arferol. 

“Mae’n bwysig peidio bod ofn archwilio eich bronnau ac os ydych yn canfod rhywbeth bydd y gwasanaeth iechyd yn gwneud ei orau glas drosoch.

“Gofalwyd amdanaf fel unigolyn drwy gydol hyn ac nid dim ond fel ystadegyn arall. Cefais y gofal mwyaf anhygoel gan y tîm llawfeddygol a nyrsio yn ogystal â'r tîm diagnostig yn y clinig wnaeth ymdrech anhygoel i wneud yn siŵr fy mod i ac Iwan yn deall popeth oedd yn digwydd. Fe wnaethon nhw amser nid yn unig i mi ond hefyd i Iwan ac fe wnaeth hyn yr holl wahaniaeth gan fod diagnosis canser yn effeithio ar eich anwyliaid gymaint ag y mae'n effeithio arnoch chi.

“Rydw i wedi cael gofal anhygoel yn Ysbyty Gwynedd ac rydw i eisiau diolch i bawb fu gyda mi ar hyd y daith.”

Mae Dr Gash hefyd yn ategu galwadau Dawn i annog mwy o ferched i fod yn gyfarwydd â’u bronnau.

Dywedodd: “Mewn achosion o ganser y fron, rydw i am bwysleisio pwysigrwydd diagnosis cynnar. Rydym ni'n gwybod bod hyn yn rhoi'r siawns orau un o wellhad llwyr ac yn aml yn arwain at fod angen am driniaeth sy’n llai ffyrnig o lawer. Felly byddwn yn annog merched i fod yn gyfarwydd â’u bronnau ac i ddysgu archwilio eu bronnau eu hunain.”

Gall canser y fron ddigwydd ar unrhyw oedran ond mae’n llai cyffredin mewn merched ifanc, gydag ond 4 y cant o achosion yn y DU yn digwydd mewn merched o dan 40 oed.

Dywedodd llawfeddyg Dawn, Llawfeddyg Ymgynghorol Oncoplastig y Fron, Miss Mei-Ju Hwang: “Fy neges i bob merch fyddai - peidiwch â gor-bryderu am ganser y fron ond mae’n bwysig bod yn gyfarwydd â’ch bronnau ac i annog teulu a ffrindiau o'ch cwmpas i fod felly hefyd.

“Archwiliwch eich hunain yn rheolaidd, dylech wybod beth sy'n arferol i chi, gwybod pa arwyddion i edrych amdanyn nhw a rhoi gwybod am unrhyw newidiadau newydd i'ch meddyg teulu heb oedi.

“Os ydych dros 50 oed, ewch am eich prawf sgrinio mamogram pan gewch wahoddiad.

“Os nad ydych yn siŵr beth i edrych amdano, mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol gan elusennau megis Breast Cancer Now – gallwch eu ffonio’n rhad ac am ddim ar 0808 800 6000 neu ewch i breastcancernow.org.”