Neidio i'r prif gynnwy

Llongyfarch y Bwrdd Iechyd ar ennill statws Ymwybyddiaeth o Gyn-filwyr

22/12/2022

Mae arweinwyr Cyn-filwyr Cenedlaethol wedi llongyfarch Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ar ei ymrwymiad i wella gofal GIG ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog (AFC) ar draws Gogledd Cymru.

Mae tri ysbyty acíwt y Bwrdd Iechyd – Ysbyty Maelor Wrecsam, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Gwynedd wedi derbyn achrediad yn ddiweddar fel ysbytai sy’n Ymwybodol o Gyn-filwyr, sy'n golygu eu bod yn codi ymwybyddiaeth o gyn-filwyr, yn adnabod cyn-filwyr a gyfeirir ar gyfer triniaeth, ac yn ymdrechu i wella prosesau recriwtio a chadw cyn-filwyr ar draws gweithlu’r Bwrdd Iechyd.

Yr wythnos ddiwethaf ymwelodd Cyrnol Phillips, y Comisiynydd dros Gymru, ag Ysbyty Maelor Wrecsam i arddangos y gefnogaeth sydd ar gael i'r AFC, ac fe gododd faner Cyn-filwyr newydd yr ysbyty, gan ei gymeradwyo am fod y cyntaf yng Nghymru i ennill achrediad gyda Chynghrair Gofal Iechyd Cyfamod y Cyn-filwyr (VCHA).

Mae'r Arweinydd Cenedlaethol ar gyfer VCHA, yr Athro Tim Briggs CBE, a wnaeth gymeradwyo achrediad cyntaf Ymwybyddiaeth o Gyn-filwyr BIPBC yn ffurfiol, hefyd wedi llongyfarch y Bwrdd Iechyd am ei "ymdrechion rhyfeddol”.

Cydnabuwyd Arweinydd Lluoedd Arfog y Bwrdd Iechyd, Cyn-filwr y fyddin Zoe Roberts, am ei hymroddiad i'r gwaith caled, ar ôl cyflwyno tystiolaeth o "safon uchel iawn" i ennill achrediad Ymwybyddiaeth o Gyn-filwyr i ysbytai acíwt y Bwrdd Iechyd.

Dywedodd Zoe: “Rydw i wrth fy modd yn braenaru tir y VCHA i Gymru. Mae arwain y Bwrdd Iechyd trwy broses achredu’r VCHA ac ennill statws "Ymwybyddiaeth o Gyn-filwyr" i'n hysbytai, yn fy ngwneud mor falch.”

Mae'r VCHA yn grŵp o ddarparwyr GIG, yn cynnwys acíwt, iechyd meddwl, cymunedol, ac Ymddiriedolaethau ambiwlans, sydd wedi cytuno i fod yn enghreifftiau o'r gofal gorau ar gyfer yr AFC ac i’w ategu, boed nhw yn filwyr Rheolaidd, Milwyr Wrth gefn, Cyn-filwyr, priod neu ddibynyddion a'r rhai sydd wedi cael profedigaeth. Mae darparwyr gofal iechyd cyfranogol yn gwirfoddoli i ddatblygu, rhannu a gyrru gweithredu arfer da a fydd yn gwella gofal i'r AFC, yn unol â'r ymrwymiadau a nodir yng Nghyfamod y Lluoedd Arfog.

Yn gynharach eleni, lansiodd y Bwrdd Iechyd Raglen Gydweithredol Gofal Iechyd Cyn-filwyr Gogledd Cymru yn llwyddiannus i sicrhau nad yw'r AFC ar draws gogledd Cymru o dan anfantais o ran y gofal y maent yn ei dderbyn, a lle'n bosibl, eu bod yn derbyn gofal personnol a gwell canlyniadau i gleifion.

Ychwanegodd Zoe: “Bydd cael cydnabyddiaeth gan y VCHA am safonau uchel fy ngwaith ond fy sbarduno ymlaen i ymdrechu am hyd yn oed well canlyniadau i Raglen Gydweithredol Gofal Iechyd Cyn-filwyr Gogledd Cymru a'n rhaglen Gwasanaethau Cymorth. Mae gwybod bod y gwaith rydym yn ei wneud o fewn BIPBC ac ar draws Gogledd Cymru yn effeithio'n gadarnhaol ar fywydau aelodau AFC yn fy ngwneud i’n wirioneddol hapus.

“Bydd cael achrediad Ymwybyddiaeth o Gyn-filwyr yn sicrhau bod y rheiny sy'n gwasanaethu, neu wedi gwasanaethu o fewn ein Lluoedd Arfog, yn cynnwys eu

teuluoedd, yn teimlo wedi eu cefnogi yn briodol ac yn caniatâu i ni fel Bwrdd Iechyd, i gynnig cydnabyddiaeth gwbl haeddiannol am eu gwasanaeth i'n gwlad.”

Hefyd gwelodd Cyrnol Phillips Raglen Pabi newydd yr ysbyty yn weithredol, sy'n anelu i adnabod cleifion mewnol sy’n rhan o'r AFC i sicrhau eu bod yn derbyn cyfeirio ymlaen yn briodol at wasanaethau cymorth allanol i gyn-filwyr a sefydliadau elusennol i gyn-filwyr, cyn iddynt gael eu rhyddhau.