Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) wedi lansio rhaglen newydd heddiw (dydd Gwener, 24 Mehefin) i sicrhau nad yw cymuned y Lluoedd Arfog ar draws Gogledd Cymru o dan anfantais o ran y gofal maent yn ei dderbyn a lle bo’n bosibl, eu bod yn derbyn gofal personol ac yn gwella canlyniadau cleifion.
Mae Ysbyty Maelor Wrecsam wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio poteli dŵr plastig gan arbed 80 tunnell o CO2e, a £75,000 y flwyddyn.
Mae mwy na 1,800 o bobl yn gweithio mewn rolau hanfodol i gynorthwyo ein hysbytai a safleoedd eraill i redeg yn esmwyth - yn cynnwys porthorion, cynorthwywyr domestig a chrefftwyr, gweithwyr golchdy ac arlwyo a llawer mwy
Mae cynllun sy’n caniatáu i deuluoedd a gofalwyr gefnogi unigolion sydd â dementia tra eu bod nhw mewn lleoliadau gofal iechyd, yn cael ei ailgyflwyno yng ngogledd Cymru.
Mae sesiynau coginio ymarferol newydd i helpu pobl i ddysgu sut i goginio prydau cartref iach wedi bod yn llwyddiant gyda phobl leol yn Llannerch Banna, Wrecsam.
Bydd teyrnged deimladwy i fabanod na chawsant erioed y cyfle i ddisgleirio yn ddigon hir yn taflu goleuni ar eu bywydau fis nesaf.
Bydd Gwasanaeth Coffa Babanod Sêr Bach yn cael ei gynnal yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy ddydd Sul Gorffennaf 3, gyda rhieni’n cael eu hannog i gynnau cannwyll wedi’i gosod mewn seren ar gyfer eu hanwylyd coll.
Dywedodd dynes a dderbyniodd 500fed mewnblaniad cochlea adran awdioleg ysbyty ei bod yn teimlo fel pe bai wedi cael ei thaflu i mewn i "gêm fideo" pan gafodd ei actifadu.
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Ysbyty Cymuned Yr Wyddgrug ac Ysgol Bryn Gwalia wedi gweithio’n galed ac mewn ffyrdd gwreiddiol er mwyn helpu cleifion a disgyblion gadw mewn cysylltiad drwy’r pandemig COVID-19.
Mae clinig diagnosis cyflym, a wnaiff gwtogi amseroedd gwneud diagnosis i bobl y mae'n bosibl fod ganddynt ganser i lai na phythefnos, wedi cael ei alw yn wasanaeth "Safon Aur".
Bydd cleifion yn elwa ar sganiwr cyflymach a manylach y mae disgwylir iddo gael ei osod yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn ddiweddarach eleni.
Mae grŵp o fydwragedd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi derbyn gwobrau am eu gwaith hanfodol yn cefnogi rhieni mewn profedigaeth sy'n dioddef colled beichiogrwydd neu golled o fabi
Heddiw fe wnaethon ni ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys (12 Mai) ar draws ein holl safleoedd yng Ngogledd Cymru.
Mae pleidleisio ar agor erbyn hyn i Fran Allsop, dietegydd cofrestredig, sydd ar y rhestr fer ar gyfer Gweithiwr Proffesiynol Maeth Clinigol (CA) y Flwyddyn yn y gwobrau CA sydd i ddod.