Neidio i'r prif gynnwy

Archwilio safle newydd ar gyfer uned iechyd meddwl o'r radd flaenaf yn Sir Ddinbych

06.04.2021

Gall uned iechyd meddwl cleifion mewnol o’r radd flaenaf gael ei adeiladu mewn lleoliad newydd ar gampws Ysbyty Glan Clwyd, ar ôl i ganiatâd cynllunio ar gyfer lleoliad gwell gael ei wrthod.

Ym mis Ionawr, gwrthodwyd cais am Ganiatâd Cynllunio Amlinellol ar safle sydd i dde orllewin tir yr ysbyty gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ddinbych, gan nodi’r effaith annerbyniol ar breswylwyr lleol.

Byddai’r uned 64 gwely wedi darparu uned fodern newydd i Uned Ablett yr ysbyty, nad yw bellach yn addas i bwrpas.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bellach yn archwilio’r posibilrwydd o adeiladu ar y gornel sydd i’r gogledd orllewin i gampws yr ysbyty, oddi wrth ffiniau’r preswylwyr lleol.

Dywedodd Jill Timmins, Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer Ailddatblygu’r Uned Ablett, bod y bwrdd iechyd wedi ystyried pryderon y preswylwyr ac yn parhau i ymrwymo i weithio’n agos â’r gymuned leol.

Dywedodd, “Rydym yn archwilio’r posibilrwydd o adeiladu ar safle newydd yng nghefn Ysbyty Glan Clwyd, yr oeddem wedi ei ddiystyru’n flaenorol oherwydd y gost ddisgwyliedig o symud ceblau trydan foltedd uchel uwchben.”

“Os yw’r safle hwn yn dangos ei fod yn opsiwn posibl, byddwn yn edrych ar sut gellir addasu cynllun ein hadeilad sydd eisoes yn bod i wneud y mwyaf o’r manteision i’r cleifion a’r staff.

“Rydym wedi ystyried pryderon y preswylwyr ac yn parhau i ymrwymo i weithio’n agos â’r gymuned leol i ddatblygu uned iechyd meddwl y gallent fod yn falch ohono.

“Mae’r lleoliad newydd oddi wrth ffiniau’r preswylwyr lleol a gall roi golygfeydd therapiwtig i gleifion dros diroedd glas yng nghefn yr ysbyty.

“Rydym yn y camau cynnar o ddatblygu ein cynlluniau newydd ochr yn ochr â’r bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau. Unwaith byddwn mewn sefyllfa i wneud hynny, byddwn yn gwahodd y gymuned leol i’w harchwilio mewn manylder a chael dweud eu dweud ar sut allwn symud ymlaen gyda’n gilydd.”

Mae adolygiadau gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi tynnu sylw at faterion strwythurol sylweddol yn yr Uned Ablett, sy’n atal staff rhag darparu’r gofal gorau posibl. Mae’r problemau hyn wedi dwysau yn ystod y pandemig COVID-19, gyda chyflwyno rheolau cadw pellter cymdeithasol a’r angen i ynysu cleifion.

Dywedodd Ms Timmins, “Mae ein staff yn gwneud popeth y gallent i ddarparu gofal diogel ac effeithlon i gleifion yn yr Uned Ablett, er gwaethaf y problemau amlwg gydag amgylchedd yr adeilad.” 

 “Rydym wedi cymryd ystod o gamau i liniaru’r risg i ddiogelwch cleifion, ond mae’r heriau o ddarparu gofal yn ystod y pandemig COVID-19 wedi pwysleisio’r angen am fuddsoddiad sylweddol ymhellach i ddisodli’r adeilad cyfredol gydag adeilad modern sy’n addas i bwrpas. 

 “Rydym eisiau diolch i’n cleifion a’n staff am eu hamynedd wrth i ni barhau i wneud popeth y gallwn i sicrhau bod y prosiect hwn, y mae galw mawr amdano, yn cael ei ddarparu cyn gynted â phosibl.”