Neidio i'r prif gynnwy

Datblygu cyn Ysbyty Cymuned y Fflint

Bydd cynlluniau i ddatblygu cartref gofal newydd ar gyfer Y Fflint yn symud gam ymlaen yr wythnos nesaf wrth i waith  ddechrau ar ddymchwel cyn Ysbyty Cymuned y Fflint.

Meddai Arweinydd ac aelod lleol Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts: “Bydd Ysbyty Cymuned y Fflint wastad yn rhan annatod o hanes balch y dref.  Yn dilyn achos anffodus y tanau bwriadol, mae’n ddealladwy y bydd diddordeb parhaus yn nyfodol y safle wrth i waith ar ailddatblygu'r ardal fynd rhagddo yn y misoedd i ddod.

“Bydd y gwaith angenrheidiol o ddymchwel a chlirio yn cael ei wneud yn sensitif, gan fod rhaid i ni sicrhau bod yr ardal yn ddiogel wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau ar gyfer y safle. 

“Mae’r Cyngor yn awyddus i ehangu ei amrediad o ddarpariaeth cartrefi gofal ac rydym yn ystyried cydweithio â’r Bwrdd Iechyd i ddarparu tua 55 o welyau mewn cartref gofal newydd ar safle'r cyn ysbyty, i gymryd lle cartref gofal presennol Croes Atti. Rydym yn cydnabod bod gan y staff a’r trigolion feddwl uchel o gartref presennol Croes Atti, ac yn gobeithio trosglwyddo’r ethos hwn i’r cyfleuster newydd. 

“Rydym hefyd yn gobeithio gweithio mewn partneriaeth â’r Bwrdd Iechyd i gynnig cyfleuster iechyd a gofal cymdeithasol “cam-i-fyny, cam-i-lawr” ar y safle sy’n cael ei ailddatblygu. Fodd bynnag, dim ond ar gamau cynnar y broses hon ydym ni, ac mae angen i ni gydweithio’n agos â’r gymuned yn ardal Y Fflint a’r Bwrdd Iechyd i ddarparu cyfleuster o'r radd flaenaf sy'n parhau i gynnig y gofal gorau mewn lleoliad modern i drigolion Sir y Fflint.

“Byddwn hefyd yn ceisio cynnwys Gardd Goffa yn y datblygiad, wedi’i chysegru i waith y cyn ysbyty bach."

Meddai Rob Smith, Cyfarwyddwr Rhanbarth Gorllewinol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae angen dymchwel y safle er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel, ond mae hyn hefyd yn gam ymlaen tuag at ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol newydd i bobl Y Fflint. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint i ddatblygu cynllun ar gyfer cyfleuster iechyd a gofal cymdeithasol newydd o fewn y cartref gofal newydd sy’n cael ei adeiladu ar y safle. 

"Y nod yw cynnwys gwelyau gofal iechyd “cam-i-lawr” o fewn y cartref gofal i ofalu am bobl sy’n gwella yn dilyn triniaeth yn yr ysbyty.  Felly mae’r gwaith dymchwel yn creu potensial i ddatblygu rhan o safle'r cyn ysbyty yn gyfleuster iechyd a gofal cymdeithasol modern ar gyfer trigolion Sir y Fflint."