Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd yn lansio digwyddiad iechyd a lles rhithiol

24/02/2021

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn cynnal stondin rhithiol sy’n canolbwyntio ar y rhaglenni profi a brechu COVID-19 yn ei ddigwyddiad iechyd a lles dydd Iau, 25 Chwefror. 

Mae’r digwyddiad, a elwir yn Frathiad o Iechyd a Lles, yn dod ag ystod o stondinau ar-lein ynghyd o amryw o sefydliadau ac elusennau yn cynnwys BIPBC, Diabetes UK, Canolfan Lles a Llyfrgell y Fflint, Ymddiriedolaeth yr Iau Prydain, Mind Conwy, Age Cymru a llawer mwy.

Bydd stondin rhithiol BIPBC ar agor ar adegau amrywiol drwy gydol y dydd i bobl alw heibio drwy ddolenni sesiwn i Microsoft Teams. Bydd y stondin yn rhoi gwybodaeth am y rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu COVID-19 ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Frechu COVID-19. Bydd aelodau o staff hefyd ar gael i ateb cwestiynau a ofynnir yn yr opsiwn sgwrsio.

Bydd RCS Cymru ar gael i roi cymorth proffesiynol i bobl wella eu lles yn y gwaith. Bydd arbenigwyr o Groundwork North Wales Energy hefyd yn cynnal trafodaethau i roi syniadau i bobl ar sut allent leihau eu gwastraff egni a chadw’r biliau yn isel.

Bydd Gwasanaeth Gwybodaeth Teulu Wrecsam a Sir y Fflint hefyd yn rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i rieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ar gyfer teuluoedd a phlant o’r cyfnod cyn-geni hyd at 19 oed.

Am fwy o wybodaeth ewch i https://padlet.com/vicaragek/4iaf5e8sllik8l4m.