Neidio i'r prif gynnwy

Cip ar y gwirfoddolwyr ar reng flaen rhaglen frechu fwyaf erioed Gogledd Cymru

01.03.21

Mae byddin o wirfoddolwyr yn chwarae rhan flaenllaw yn y frwydr yn erbyn y coronafirws yng Ngogledd Cymru.

Mae’r rhaglen frechu fwyaf erioed yn y rhanbarth yn parhau i fynd o nerth i nerth, ac mae miloedd o bobl o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, undebau llafur, awdurdodau lleol, y gwasanaethau brys a'r fyddin yn rhan o’r ymdrech enfawr hon.

Maent yn cael eu cefnogi gan gannoedd o wirfoddolwyr sy'n rhoi o’u hamser i sicrhau fod y brechiadau’n cael eu darparu mor gyflym ac mor effeithiol â phosibl.

Yn nhair Canolfan Frechu Dorfol Gogledd Cymru mae cyfanswm o fwy na 200 o wirfoddolwyr wedi rhoi dros 6,500 awr i'r her hon a fydd yn achub bywydau cymaint o drigolion Gogledd Cymru.

Mae pobl hefyd yn rhoi yn hael o’u hamser i gefnogi'r broses o gyflwyno brechiadau yn rhai o’r 98 o feddygfeydd a geir ar draws Gogledd Cymru.

Dyma hanes ambell un o’r gwirfoddolwyr caredig sy'n helpu i goncro’r pandemig.

 

Ray Barnett – Ysbyty Enfys Llandudno

Mae'r diffoddwr tân wedi ymddeol, Ray Barnett, wedi bod yn gwirfoddoli yn Ysbyty Enfys Llandudno ers dechrau mis Rhagfyr. Mae'n un o fwy na 50 o wirfoddolwyr sy'n cefnogi Canolfan Frechu Dorfol fwyaf Gogledd Cymru.

“Fel pob gwirfoddolwr arall, cefais fy ysbrydoli i helpu eraill ac rwy'n sylweddoli mai'r unig ffordd rydyn ni'n mynd i ddod allan o'r pandemig hwn yw trwy'r brechlyn,” esboniodd.

“Mae staff y GIG mor fedrus ac mor allweddol i’r broses, felly mae unrhyw beth y gallwn ei wneud i ysgafnhau eu llwyth gwaith yn helpu. Gallwn i gyd wedyn gobeithio, gael gwared â’r aflwydd hwn erbyn diwedd y flwyddyn.

“Rydyn ni wedi cael derbyniad gwych gan y cyhoedd sydd wedi rhyfeddu pa mor drefnus yw’r trefniadau. Maent yn gwerthfawrogi fod popeth posibl yn cael ei wneud i'w cadw'n ddiogel.

“Mae'n rhoi llawer o foddhad imi ac rwy'n ei weld fel fy antur fawr olaf. Os nad ydym wedi dysgu unrhyw beth arall, mae hyn o leiaf wedi gwneud i bobl sylweddoli pa mor werthfawr yw'r GIG. Mae'n hyfryd gallu gwneud rhywbeth gwerth chweil a chefnogi pobl y mae gen i barch enfawr tuag atynt.

“Fel gwirfoddolwyr rydyn ni'n gwybod fod ein cyfraniad bach ni yn helpu i ddod a hyn oll i ben.”

 

Gwyn Parry Jones – Ysbyty Enfys Bangor

Yn Ysbyty Enfys Bangor, mae Gwyn Parry Jones yn un o tua 50 o wirfoddolwyr sy'n cefnogi'r ymdrech frechu.

Cafodd Mr Jones, o Bontrug ger Caernarfon, ei ysbrydoli i gymryd rhan er mwyn cefnogi un o'i ferched, sy'n gweithio fel nyrs ar reng flaen COVID-19 yn Ysbyty Gwynedd.

“Fe wnes i wirfoddoli oherwydd roeddwn i'n meddwl mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Mae gen i un ferch sy'n nyrs yn Ysbyty Gwynedd felly roeddwn i eisiau gwneud fy nghyfraniad.” meddai.

“Rydw i wrth fy modd fy mod i'n gallu cyfrannu ac rydyn ni wedi cael croeso brwd gan y cyhoedd, yn enwedig pan fydd pobl yn gadael yr adeilad wedi derbyn eu brechiad. Maen nhw'n ddiolchgar iawn. ”

Nes iddo ymddeol ddwy flynedd yn ôl, bu Mr Jones yn gweithio fel meistr llong ar un o gychod ymchwil bach Prifysgol Bangor. Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae wedi bod yn defnyddio'i sgiliau llywio i’r eithaf gan helpu hyd at 800 o bobl y dydd trwy ganolfan frechu fwyaf Gwynedd ac Ynys Môn.

“Mae hwn yn waith gwahanol iawn ac mae'n llawer sychach” meddai dan wenu.“Mae pob shifft oddeutu pedair neu bum awr ac rydyn ni'n cylchdroi swyddi bob awr. Mae yma orsaf cwrdd â chyfarch, derbynfa, a phobl y tu mewn i'r neuadd frechu. ”

 

Fiona Nicholson –Ysbyty Enfys Bangor

Symudodd Fiona Nicholson i Lanberis o dde ddwyrain Lloegr ddwy flynedd yn ôl a dywed bod gwirfoddoli’n ffordd bwysig o gefnogi'r gymuned leol.

“Rwy’n rhedeg gwesty yn Llanberis ac yn amlwg rydyn ni ar gau ar hyn o bryd felly roeddwn i eisiau defnyddio fy amser yn effeithiol er mwyn cefnogi’r gymuned leol,” meddai.

“Mae'n codi eich ysbryd, mae'n eich cael chi allan o’r tŷ ac mae'n golygu eich bod chi'n gweld pobl. Rydych chi'n cael cystal adborth gan bobl sy'n dod i mewn i gael eu brechlyn.

“Roedd yn heriol iawn yn ystod tywydd oer yr wythnosau diwethaf ac roeddem wedi ein lapio mewn cotiau, menig a sgarffiau. Roedd yn wych gallu helpu i gael cleifion hŷn, agored i niwed, allan o'r oerfel yn gyflym.”

 

Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn

Mae gwirfoddolwyr o Dîm Achub Mynydd Aberglaslyn wedi hen arfer â rhoi o’u hamser i ddarparu gwasanaeth achub bywyd i'r gymuned leol.

Felly pan sefydlwyd Canolfan Frechu Leol ar fyr rybudd yng Nghanolfan Hamdden Porthmadog ym mis Chwefror, roedd aelodau meddylgar y tîm yn fwy na hapus i wirfoddoli.

Dywedodd Drew Leech o Dîm Achub Mynydd Aberglaslyn: “Daeth y meddyg teulu lleol Dr Eilir Hughes atom ar fyr rybudd ac ni wnaeth y tîm oedi cyn cytuno. Rydym ni'n adnabyddus yn y gymuned leol ac roedden ni eisiau helpu. Ar y diwrnod fe wnaethon ni helpu gyda threfnu cerbydau a sicrhau bod popeth yn mynd yn esmwyth. Roeddem yn falch iawn ein bod wedi gwneud ein rhan i gefnogi'r gymuned leol gyda'r rhaglen frechu ac edrychwn ymlaen at helpu eto yn y dyfodol. "

 

Susan Ridings –Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy

Mae Susan Ridings o Gwernaffield yn un o bron i 500 o bobl a gafodd eu recriwtio o fewn radiws 30 milltir i Wrecsam i gymryd rhan mewn treial brechlyn COVID-19 parhaus.

Ond yn ogystal â helpu i ddatblygu brechlynnau pellach a fydd yn arwain Cymru allan o'r pandemig, mae Susan hefyd yn un o 80 o wirfoddolwyr sy'n cefnogi Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy yn rheolaidd.

Dywedodd:"Ar ôl y Nadolig sylweddolais y byddai angen nifer fawr o bobl i gefnogi'r rhaglen frechu a fedrwn i ddim eistedd adref gan wybod y gallwn i fod yn gwneud rhywbeth defnyddiol.

“Mae rhai pobl heb fod allan o’r tŷ ers mis Mawrth diwethaf. Mae rhai ohonynt wedi bod yn cysgodi a hwn, efallai, yw eu trip cyntaf o’r tŷ. Gallant fod yn eithaf nerfus oherwydd hynny.

“Rydym yn eu sicrhau fod mesurau ymbellhau cymdeithasol ac atal heintiau yn eu lle. Mae rhai pobl hefyd yn nerfus ynglŷn â chael y brechlyn felly rwy'n rhannu profiadau personol am fy nheulu fy hun. Mae fy mam yn 90 oed ac roedd hi'n teimlo’n wych ar ôl cael ei phigiad.”

 

 

Shelagh Roberts – Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy

Roedd y nyrs wedi ymddeol, Shelagh Roberts yn meddwl fod ei dyddiau achub bywyd drosodd pan adawodd Ysbyty Wrecsam Maelor fwy na deng mlynedd yn ôl.

Ond mae hi wedi bod yn gwirfoddoli yn Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy i gefnogi ei chyn-gydweithwyr a’r gymuned ehangach ers dechrau mis Ionawr.

“Rwy'n credu ei bod yn bwysig gwneud rhywbeth i helpu. Roeddwn i eisiau cymryd rhan ac roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl, ”meddai.

“Roeddwn i'n teimlo bod yn rhaid inni goncro hyn a gwneud rhywbeth yn ei gylch, felly roeddwn i'n falch iawn o gael y cyfle.

"Mae pobl mor werthfawrogol ac mae hi’n braf bod yn rhan o'r tîm. Mae pawb sy'n gweithio yma mor ddiolchgar. Mae'n braf teimlo'n rhan o rywbeth mor fawr.”

Mae cynlluniau gwirfoddoli brechu COVID-19 yn cael eu hariannu gan elusen GIG Gogledd Cymru, Awyr  Las, diolch i roddion hael gan bobl leol ac oherwydd Apêl COVID-19 NHS Charities Together.

I wybod mwy am Awyr Las a’r gwaith pwysig maen nhw’n ei wneud ewch i wefan Awyr Las

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli i gefnogi cyflwyno'r brechiad COVID-19 yng Ngogledd Cymru, e-bostiwch bcuhb.publicvolunteers@wales.nhs.uk.