Neidio i'r prif gynnwy

Bydd mwy na hanner pobl Gogledd Cymru yn cael mynediad at wasanaethau'r GIG mewn ffordd wahanol yn y dyfodol oherwydd y pandemig COVID-19.

Bydd mwy na hanner pobl Gogledd Cymru yn cael mynediad at wasanaethau'r GIG mewn ffordd wahanol yn y dyfodol oherwydd y pandemig COVID-19.

Mae astudiaeth gan YouGov wedi datgelu y bydd 40% o bobl yn parhau yn yr un ffordd ag yr oeddent cyn COVID-19, tra bod mwyafrif y rhai a holwyd yn bwriadu cefnogi systemau GIG newydd a gyflwynwyd dros y 12 mis diwethaf ar gyfer eu diogelwch a chadw pellter cymdeithasol, gan gynnwys rhith-asesiadau.

Fel rhan o ymgyrch Helpwch Ni i'ch Helpu Chi Llywodraeth Cymru, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) hefyd yn annog pobl i fynychu Unedau Mân Anafiadau yn hytrach na mynd i'r Adrannau Achosion Brys i ddechrau, oherwydd mae gan y gwasanaeth o dan arweiniad nyrsys yr offer i ofalu am ystod o anhwylderau o losgiadau, pigiadau, brathiadau anifeiliaid a rhwygiad croen pen, i anafiadau mân ar goesau neu freichiau, llygaid neu'r pen. 

Mae naw Uned Mân Anafiadau yng Ngogledd Cymru, wedi eu lleoli yng Nghaergybi, Dolgellau, Pwllheli, Tywyn, Llandudno, Treffynnon, Dinbych, Yr Wyddgrug a Thremadog, ac er nad oes angen apwyntiad fel arfer, o ganlyniad i COVID-19 mae ychydig o unedau yn gofyn i bobl ffonio o flaen llaw i sicrhau diogelwch a chael eu cynghori ar pryd sydd orau i fynychu.

Dywedodd Trevor Hubbard, Cyfarwyddwr Nyrsio Ardal ar gyfer ardal y Canol BIPBC bod datblygiadau yn y ffordd y maent yn gweithredu gwasanaethau gofal brys, sydd wedi newid ffordd o feddwl staff a chleifion.  

"Mae cael mynediad mewn ffordd wahanol yn dod yn rhan o'r "normal newydd" ac mae yno i amddiffyn y cyhoedd a'r GIG rhag bod yn agored i haint COVID-19 yn ddiangen," dywedodd Mr Hubbard.

"Mae'r sefyllfa wedi sbarduno'r defnydd o dechnoleg ddigidol fel ein bod yn gallu rheoli ein gwasanaethau wrth gamu ymlaen mewn ffordd bositif.

"Gan gymryd Unedau Mân Anafiadau fel esiampl; mae presenoldeb yn is na'r Adrannau Achosion Brys, ond mae cleifion bron bob amser yn cael eu gweld, eu trin a'u rhyddhau o fewn pedair awr, gyda chyn lleied o amser aros â phosib ac ymarferwyr profiadol yn cynnig cefnogaeth a chyngor clinigol yn uniongyrchol - mae profiad y claf yn dda iawn."

Ychwanegodd: "Rwy'n credu bod pobl yng Ngogledd Cymru yn ymwybodol o Unedau Mân Anafiadau a'r hyn maen nhw'n ei gynnig, ond mae angen i ni weiddi ychydig yn uwch am y gwasanaethau maen nhw'n eu darparu.

Mae mor bwysig ein bod yn sicrhau bod Unedau Mân Anafiadau yn cael eu defnyddio i ostwng y pwysau ar ein Hadrannau Achosion Brys prysur; maent yno ar gyfer argyfyngau yn unig felly byddwn yn gofyn i bawb ystyried yr opsiynau eraill sy'n agored iddynt, gan gynnwys fferyllfeydd, gwefan GIG a drwy ffonio am gyngor os yw'r cyflwr yn un brys ond nid yn ddifrifol."

Canfu astudiaeth YouGov hefyd fod 93% o'r bobl a holwyd yng Nghymru yn ymwybodol o adrannau achosion brys a'r gwasanaeth 999, o'i gymharu â dim ond 69% yn ymwybodol o unedau mân anafiadau. Nid oedd bron i draean (31%) yn ymwybodol o Unedau Mân Anafiadau.

Ac er bod 93% yn credu bod yr Unedau Mân Anafiadau yn bwysig, doedd 89% heb ddefnyddio'r gwasanaeth yn y 12 mis diwethaf.

“Mae gan Unedau Mân Anafiadau ymarferwyr profiadol iawn sy’n gallu rheoli ystod eang o anafiadau, maen nhw’n staff cymwys a hyfforddedig iawn sy’n cynnig lefel ragorol o ofal,” meddai Mr Hubbard.

"Gallant wneud cais am sgan pelydr-x a'i ddehongli a gwneud diagnosis a thrin amrywiaeth o gyflyrau, maent wedi'u lleoli'n lleol i'ch atal rhag teithio'n bell i Adran Achosion Brys."

Ychwanegodd: "Yng Ngogledd Cymru, mae gennym lawer o ymwelwyr ar draws y DU a thramor nad ydynt wedi arfer gyda'r syniad o Uned Mân Anafiadau, sut mae'n gweithio a beth yw'r cyflyrau y gallwch eu trin yno.

"Rwyf hefyd yn credu bod gwahaniaeth rhwng unedau unigol a'r model canolfan galw-heibio yn Lloegr, sydd â chylch gwaith ehangach i gynnwys salwch yn ogystal ag anaf. 

"Rydym yn gweithio i fynd i'r afael â hyn drwy hyfforddi ein staff i reoli amrywiaeth ehangach o gyflyrau, a byddwn yn parhau i annog pobl i ffonio o flaen llaw fel eich bod yn gallu derbyn cyngor cymorth cyntaf ac amser apwyntiad i'ch trin yn gyflym ac effeithlon gan y tîm heb yr angen am aros - i ddiogelu pawb."

Am fwy o wybodaeth ar beth yw'r ffordd orau o gael mynediad at wasanaethau'r GIG, ewch i wefan

 GIG 111 neu ffoniwch 0845 46 47.

Ewch i tudalen Uned Man Anafiadau ar ein wefan am y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf ar Unedau Mân Anafiadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

Defnyddiwch yr hashnodau #HelpuNiHelpuChi a #HelpUsHelpYou i gefnogi ymgyrch Helpwch Ni i'ch Helpu Chi.