Neidio i'r prif gynnwy

Dietegydd yn annog merched beichiog i gymryd ychwanegiadau asid ffolig

08/04/2021

Mae'r Dietegydd Iechyd Cyhoeddus, Andrea Basu, yn annog merched beichiog a'r rhai sy'n ceisio beichiogi i sicrhau eu bod yn cael digon o asid ffolig, yn dilyn pryderon bod y pandemig COVID-19 wedi cael effaith ar allu teuluoedd i gael mynediad at fitaminau.

Y mis diwethaf, lansiodd Andrea a chydweithwyr yn yr adran ddieteteg yn Ysbyty Maelor Wrecsam brosiect lleol i gynyddu mynediad at Healthy Start, sy'n gynllun cenedlaethol yn cynnig mynediad at fitaminau am ddim yn Wrecsam a Sir y Fflint i deuluoedd cymwys. 

Bellach, mae Andrea yn codi ymwybyddiaeth o ba mor bwysig yw hi i ferched beichiog fwyta digon o asid ffolig.

Dylai merched beichiog a'r rhai sy'n ceisio beichiogi gymryd cyflenwad dyddiol o asid ffolig yn cynnwys 400 microgram cyn ac yn ystod beichiogrwydd.

Dywedodd Andrea: "Anogir merched sy'n ceisio beichiogi a'r rhai sy'n feichiog i gymryd cyflenwad asid ffolig dyddiol, ac eto efallai na fydd llawer o fenywod yn cymryd yr ychwanegiadau asid ffolig yn ystod beichiogrwydd pan all fod ganddynt hawl i'w derbyn am ddim mewn rhai achosion.

"Mae'r mwyafrif o ferched a theuluoedd yn clywed am y cynllun Healthy Start drwy eu Bydwraig neu Ymwelydd Iechyd, ond rydym yn gwybod bod y pandemig COVID-19 wedi effeithio ar allu teuluoedd i gael mynediad at fitaminau.

"Mae angen asid ffolig i greu deunydd genetig (DNA) ym mhob cell corff. Gallai cael digon o'r fitamin hwn yng nghyfnodau cynnar beichiogrwydd helpu i leihau'r risg o ddatblygu diffygion asgwrn cefn fel spina bifida. Argymhellir bod merched beichiog yn cymryd ychwanegiad yn ogystal â bwyta bwydydd sy'n naturiol gyfoethog mewn asid ffolig fel llysiau deiliog gwyrdd yn ogystal â bwydydd fel grawnfwydydd brecwast i sicrhau eu bod yn cael digon bob dydd.

"Mae asid ffolig hefyd yn gweithio gyda fitamin B12 i helpu i ffurfio celloedd gwaed coch sy'n cludo ocsigen o amgylch y corff."

Mae'r fitaminau Healthy Start yn ddelfrydol ar gyfer mamau beichiog oherwydd eu bod yn cynnwys y swm perffaith o asid ffolig a fitamin D i helpu i adeiladu a chynnal esgyrn iach.

Mae'r fitaminau hyn am ddim i ferched cymwys yn y fferyllfeydd canlynol ar draws Wrecsam a Sir y Fflint.  Gallwch fynd â thalebau Healthy Start yn uniongyrchol i unrhyw un o'r fferyllfeydd hyn. 

Fferyllfeydd Rowlands Wrecsam ym Mrynteg, Cefn Mawr, Stryd y Capel, Hightown, Johnstown, a St Georges Crescent, and Fferyllfeydd Rowlands Sir y Fflint ym Mwcle, Y Fflint, Treffynnon (Cwnsyllt),  Queensferry a Fferyllfeydd Morrison's yng Nghei Connah a Saltney.

Ychwanegodd Andrea: "Ar gyfer merched nad ydynt yn gymwys i dderbyn y fitaminau Healthy Start am ddim, mae'n bwysig iawn cymryd ychwanegion asid ffolig ac maent ar gael i'w prynu ar draws ystod o fferyllfeydd ac archfarchnadoedd."

Mae'r cynllun Healthy Start hefyd yn darparu talebau bwyd wythnosol i deuluoedd cymwys i'w gwario ar ffrwythau a llysiau ffres, wedi'u rhewi neu mewn tun, corbys ffres, sych neu mewn tun, a llaeth. Hefyd, diferion fitamin ar gyfer babanod a phlant. 

I wirio a ydych chi, neu eich teulu'n gymwys i dderbyn y talebau, ewch i www.healthystart.nhs.uk