Neidio i'r prif gynnwy

Bydd gwelyau cleifion mewnol yn Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy yn cau y dydd Gwener hwn, 26 Mawrth

24/03/2021

Graphic of patient leaving ysybyty enfys deeside Cym

Dywedodd Mark Wilkinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio a Pherfformiad: “Sefydlwyd ein tri Ysbyty Enfys ar ddechrau’r pandemig i sicrhau y gallem ymateb pe bai un o’n hysbysai presennol yn cael eu gorlethu â chleifion COVID-19, yn y sefyllfa waethaf bosibl. Ers hynny, defnyddiwyd y tri ysbyty fel Canolfannau Brechu Torfol COVID-19 a dim ond yn Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy rydym wedi gorfod darparu gofal cleifion mewnol. Mae’r galw am welyau yng Nglannau Dyfrdwy wedi gostwng yn sylweddol yn yr wythnosau diwethaf, oherwydd y mesurau clo a pharhad yn y gwaith o gyflwyno’r brechlyn COVID-19.

“Gan ein bod yn hyderus y gallwn fodloni’r galw yn ein safleoedd presennol, bydd y gwelyau mewnol yn Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy yn cau y dydd Gwener hwn, 26 Mawrth.

“Ni ddylid cymryd y penderfyniad hwn fel arwydd y gallwn i gyd fod yn llai gwyliadwrus. Rydym yn parhau i fonitro a rhagweld y galw ledled Gogledd Cymru ac yn parhau yn effro i fygythiad COVID-19. Fel y dangoswyd yn Ynys Môn, gall achosion gynyddu’n gyflym, felly mae’n bwysig ein bod i gyd yn dal i ddilyn yr arweiniad. 

“Wrth i ni edrych ymlaen at gynnig y brechlyn i bob oedolyn cymwys erbyn diwedd mis Gorffennaf, rydym wedi cytuno gyda’n partneriaid y bydd y Canolfannau Brechu Torfol yn Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy ac Ysbyty Enfys Llandudno yn cael eu trosglwyddo’n ôl erbyn 31 Gorffennaf. Bydd dadgomisiynu graddol yn Ysbyty Enfys Bangor yn dechrau ym mis Ebrill ac yn cael ei gwblhau erbyn mis Medi.

“Mae gennym gynlluniau yn eu lle i barhau i frechu drwy ein rhwydwaith o Ganolfannau Brechu Lleol ar ôl y dyddiadau hyn ac rwyf eisiau rhoi sicrwydd na fydd hyn yn peryglu cyflymdra na diogelwch y rhaglen frechu COVID-19.

“Rydym yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth anhygoel ein partneriaid yng Nghyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Phrifysgol Bangor. Hoffwn hefyd ddiolch yn arbennig i’n staff gwych, sydd wedi gweithio’n ddiflino i ddarparu gofal diogel, o ansawdd uchel i gleifion drwy gydol y cyfnod anodd hwn.”