Neidio i'r prif gynnwy

Ap adfer i gefnogi pobl sy'n profi effeithiau tymor-hir COVID-19

Anogir pobl sy’n profi effeithiau tymor hir COVID-19 i lawr-lwytho ap i olrhain eu symptomau a derbyn cefnogaeth ychwanegol. 

Mae’r ap dwyieithog, y cyntaf o’i fath, wedi cael ei ddatblygu gan grŵp iechyd resbiradol GIG Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, ac fe’i cynlluniwyd i gynnig arf pwrpasol i bobl a ffordd bersonol i’w helpu ar eu taith at adferiad.

Mae’r ap, sy’n cynnwys dros 100 o fideos a dolenni at gyngor, yn galluogi defnyddwyr i gofnodi eu symptomau, olrhain eu cynnydd a dysgu sut i reoli eu cyflwr gartref gyda chefnogaeth.  Mae’n cynnwys cyngor gan therapyddion, seicolegwyr, dietegwyr ac ymgynghorwyr. 

Mae tri aelod o staff o’r Bwrdd Iechyd wedi cyfrannu at yr ap cenedlaethol, mewn ymdrech i ddarparu mwy o gyngor a chefnogaeth i gleifion.

Meddai Caerwyn Roberts, Ffisiotherapydd Clinigol Arbenigol yn Ysbyty Gwynedd: “Roedd bod yn rhan o waith mor flaengar oedd yn cynnwys cydweithrediad rhwng clinigwyr o bob un Bwrdd Iechyd yng Nghymru yn brofiad arbennig.

“Mae’r ap yn cynnwys llawer o fideos addysgiadol a gobeithir, cynorthwyol, a fydd yn rhoi gwybodaeth am y symptomau mwyaf cyffredin bydd cleifion yn eu profi yn ystod eu hadferiad o haint Covid-19.”

Mae’r ap yn rhan o ymagweddiad cenedlaethol ehangach i gefnogi pobl gyda syndrome ôl-covid, sy’n cynnwys cefnogi staff proffesiynol iechyd i adnabod y symptomau, cyfeirio pobl at gefnogaeth a darparu llwybrau clir i bobl wrth iddynt symud drwy’r system gofal iechyd.

Meddai Lucy Clarke, Therapydd Galwedigaethol Clinigol Arweiniol dros Ddwyrain y Bwrdd Iechyd: “Datblygwyd yr ap hwn yn gyflym gan fanteisio ar gydweithrediad arbennig amrywiol broffesiynau ar draws Cymru gyfan. 

“Bu bod yn rhan o’r ap hwn, a ddatblygwyd yn gyflym, a chan staff proffesiynol yn fraint, a bydd yn helpu pobl i adfer yn dilyn COVID-19.

“Cyfrannodd yr holl therapyddion arbenigol a nodwyd ar draws Cymru deitlau fideo ar gyfer bob un o’r symptomau, er mwyn darparu gwybodaeth fanwl ar gyfer yr holl destunau.

“Mae’r ap yn gyfeillgar i ddefnyddwyr ac mae’n helpu’r cyhoedd i ddod o hyd i’r adrannau symptomau perthnasol ar gyfer eu problem, ac i gael mynediad at arbenigwr i ddarparu arweiniad a chyngor hunan-reoli ar gyfer y mater dan sylw.”

Diffiniwyd Syndrom Ôl-Covid-19, gelwir hefyd yn Covid Hir, fel arwyddion a symptomau sy’n datblygu yn ystod neu ar ôl haint, sy’n gyson â Choronafirws, sy’n parhau am fwy na 12 wythnos ac ni ellir eu hesbonio gan ddiagnosis amgen. 

Meddai Alexis Conn, Therapydd Galwedigaethol Clinigol Arweiniol o fewn Iechyd Meddwl: Mae hwn yn ap hunan-reoli syml ac am ddim, ar gael i bobl sy’n profi symptomau covid-hir i’w ddefnyddio.

“Mae llawer o bobl bellach yn profi blinder, hwyliau isel a phroblemau cof ar ôl y firws, a gall yr ap hwn eu helpu i reoli eu symptomau drwy amrywiol dechnegau.

“Rydym yn ymfalchïo’n fawr o allu cyfrannu at yr ap hwn, a gobeithio byddwn yn gallu darparu’r gefnogaeth ychwanegol bydd rhai pobl o bosibl ei angen.” 

Am fwy o wybodaeth: COVID Hir - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)