Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion iechyd meddwl yn ymrwymo i wasanaethu'r gymuned mewn ymdrech i godi arian

14.04.21

Mae cleifion yn Uned Diogelwch Canolig Tŷ Llywelyn Llanfairfechan yn cefnogi'r gymuned leol yn ystod y pandemig COVID-19 drwy roi un droed o flaen y llall.

Yng nghesail y goedwig rhwng godre'r Carneddau a'r môr, mae'r uned 25 gwely ar dir Ysbyty Bryn y Neuadd yn rhoi triniaeth i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl cymhleth sydd wedi dod i gyswllt â'r gwasanaethau cyfiawnder troseddol. 

Derbynnir y mwyafrif o'r carchar, drwy'r system llysoedd neu o unedau diogel eraill.  Diolch i'r gofal arbenigol a ddarperir gan dîm amlddisgyblaethol o staff, mae nifer o'r cleifion yn gallu gadael amgylchedd yr ysbyty ym mhen hir a hwyr a dychwelyd i fyw yn eu cymunedau eu hunain.

Yn ystod y pandemig COVID-19, mae cleifion yr ysbyty wedi dod o hyd i nifer o ffyrdd creadigol o gadw'n iach, dysgu sgiliau newydd a gwasanaethu'r gymuned leol.

Mae eu her ddiweddaraf yn cynnwys ymuno â staff Tŷ Llywelyn am her beicio rhithwir 874 milltir o Ben Tir Cernyw i Benrhyn Cothnais, i godi arian at Sŵ Mynydd Bae Colwyn a chronfa gweithgareddau cleifion Tŷ Llywelyn, sy'n rhan o Elusen GIG Gogledd Cymru, Awyr Las.

Dewiswyd y Sŵ Mynydd gan y cleifion a'r staff am ei fod yn berchen gan deulu, am mai dyma'r sw hynaf yng Nghymru, ac mae'n llwyr ddibynnol ar roddion gan y cyhoedd.  Er bod y sw wedi cau oherwydd cyfyngiadau COVID-19, mae costau cynnal a chadw'r sŵ yn costio £118,000 y mis.

Dyma’r diweddaraf o nifer o weithgareddau a heriau'r cleifion sy'n awyddus gwasanaethu'r gymuned yn Nhŷ Llywelyn yn ystod y pandemig COVID-19.

Mae'r rhain wedi cynnwys nodi 75 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop (VE Day) ym mis Mai 2020 drwy gerdded 75 milltir dros dri mis; creu gwaith celf gyda cherrig i nodi Sul y Cofio, a osodwyd yn y senotaff yn Llanfairfechan; cymryd rhan ym Marathon Rhithwir Eryri ym mis Hydref 2020; ac yn fwyaf diweddar cwblhau her gerdded ‘miliwn o gamau’ y mis diwethaf.

Dros y misoedd nesaf, byddant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau codi ysbwriel ar draeth a phromenâd y dref, a gweithio i adnewyddu gerddi a'r addurniadau rhestredig yn Ysbyty Bryn y Neuadd yn ôl i'w gogoniant blaenorol.

Cydlynir yr ymyriadau cymunedol hyn gan Ingrid Unsworth, Therapydd Galwedigaethol Arbenigol, sy'n cael ei chefnogi gan dîm amlddisgyblaethol Tŷ Llywelyn yn cynnwys nyrsys, cynorthwywyr gofal iechyd, seicolegwyr a thîm gweinyddol.

Dywed Ingrid bod yr ystod o weithgareddau y mae'r cleifion yn cymryd rhan ynddynt yn chwarae rôl hanfodol yn eu hadsefydlaid llwyddiannus.

"Oherwydd eu cefndiroedd anodd, yn aml gall ein cleifion fod â hunan-barch isel a diffyg hyder oherwydd efallai nad ydynt yn teimlo eu bod wedi cyflawni llawer yn y gorffennol", eglurodd.

"Drwy eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau bwriadol sy'n canolbwyntio ar eu hiechyd a'u lles, gallwn eu galluogi i ddod o hyd i'w synnwyr o hunanwerth a chyflawniad a all eu helpu i ddechrau credu yn eu gallu eu hunain".

"Mae hyn yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu eu diddordebau a darganfod synnwyr o bwy ydyn nhw go iawn, a theimlo cysylltiad â'r gymdeithas a'u cymuned leol.  Rydym yn ceisio defnyddio'r cyfleoedd i godi ymwybyddiaeth am faterion byd-eang ac adeiladu sgiliau galwedigaethol ychwanegol a fydd yn gymorth iddynt yn y dyfodol."

Mae adborth cleifion wedi bod yn bositif iawn gyda chleifion yn dweud bod "cerdded er diben yn helpu fy nghymhelliant" a "bod yr heriau wedi rhoi rhywbeth arall i mi ganolbwyntio arno'n ystod blwyddyn anodd." Dywedodd un claf hefyd bod heriau o'r fath i ymgysylltu â nhw yn "rhoi rheswm i mi godi bob dydd", ac yn gymorth i "deimlo'n bositif pan fyddaf yn colli fy nheulu".

Os hoffech noddi her feicio rhithwir cleifion Tŷ Llywelyn, ewch i: https://www.gofundme.com/f/team-ty-llywelyn-for-the-welsh-mountain-zoo?utm_source=customer&utm_medium=copy_link&utm_campaign=p_cf+share-flow-1