Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsys Iechyd Meddwl yn rhannu eu profiadau am flwyddyn eithriadol, ar Diwrnod Nyrsys Iechyd Meddwl

21.02.21

Mae nyrsys iechyd meddwl sy'n gweithio ar reng flaen y pandemig COVID-19 wedi rhannu eu profiadau o ddarparu gofal yn ystod y flwyddyn fwyaf heriol o'u gyrfa.

I ddathlu trydydd  Diwrnod Nyrsys Iechyd Meddwl blynyddol ddydd Sul 21 Chwefror, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dathlu cyfraniad enfawr ei weithlu iechyd meddwl i ymateb y pandemig.

Mae nyrsys iechyd meddwl wedi parhau i ddarparu cefnogaeth mewn ystod o leoliadau drwy gydol y pandemig, gan addasu'r ffordd maent yn gweithio i gynnwys y mesurau atal haint llym.

Yn eu plith mae Kate Msimang, sydd wedi gweithio ar Uned Heddfan Ysbyty Maelor Wrecsam ers 2003. Mae hi wedi disgrifio sut mae'r misoedd cychwynnol o ofn a straen bellach wedi arwain at obaith ar gyfer y dyfodol, diolch i gyflwyniad y brechlyn COVID-19.

 “Roedd tensiwn i ddechrau oherwydd nad oeddem yn gwybod beth fyddai’n digwydd,” eglurodd.

"Y rhan anoddaf o'r flwyddyn ddiwethaf oedd gweld cleifion yr oedd y firws arnynt. Roedd yn frawychus ac yn emosiynol iawn.

"Dyma adeg fwyaf heriol fy ngyrfa, yn enwedig gan ein bod yn darparu gofal i gleifion sydd ag anwyliaid gartref ac na allant eu gweld. Roedd yn emosiynol iawn gwybod ein bod yn gofalu am fam, tad neu daid rhywun ac na allant eu gweld yn bersonol. Mae hynny wedi bod yn anodd iawn.

 “Fe wnes i helpu i frechu 30 o gleifion mewn un diwrnod ar Uned Heddfan y mis diwethaf ac roedd yn rhyddhad enfawr. Dwi wir yn ymddiried yn y brechlyn ac rwy’n edrych ymlaen at weld popeth yn mynd yn ôl i normal.

 “Rwy'n falch iawn o'r ffordd rydym ni wedi cefnogi ein cleifion a'n gilydd, a byddwn yn argymell nyrsio iechyd meddwl yn fawr i unrhyw un. Gyda nyrsio iechyd meddwl rydych chi'n gofalu am yr unigolyn yn gyfannol. Rydych chi'n dysgu edrych a gweld yr unigolyn cyfan. Mae bob amser cymaint mwy i bobl na'r hyn a welwch."

Dywed Karen Beattie a Jane Hogg, nyrsys iechyd meddwl cymunedol yn Wrecsam bod y gweithlu iechyd meddwl wedi mynd gam yn ychwanegol yn ystod y pandemig i gefnogi'r cleifion fwyaf bregus.

Mae Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Pobl Hŷn yn helpu pobl i gadw'n ddiogel yn eu cartrefi ei hunain, yn ogystal â darparu cefnogaeth i gartrefi gofal, er mwyn lleihau derbyniadau i’r ysbyty.

Dywedodd Karen, sydd wedi bod yn nyrs iechyd meddwl ers y nawdegau cynnar: "Rwy'n falch iawn o bawb sy'n rhan o ofal iechyd meddwl. Rwy'n falch o'r ffordd y mae cydweithwyr cleifion mewnol wedi addasu yn ogystal â staff cartrefi gofal sydd wedi symud i mewn i'w lleoliad gwaith er mwyn cadw preswylwyr yn ddiogel.

 “Yn ein tîm cymunedol rydym wedi gweld pobl sydd wedi gorfod mynd i ffwrdd o’u gwaith gyda COVID-19 neu i hunan-ynysu, ond nid ydym wedi gweld absenoldeb salwch ymysg ein staff. Rydym i gyd wedi cyd-dynnu.

“Cadw ysbryd fu'r her fwyaf wrth i gyfeiriadau brys ddod i mewn, ond rydym ni’n cefnogi ein gilydd trwy ddefnyddio hiwmor hen ffasiwn da.

“Ethos ein tîm yw ein bod ni i gyd yn trin pawb fel petaent yn berthynas i ni. Nid oes neb byth yn dweud 'nid fy ngwaith i yw hwn'.

"Gallwch wneud gwahaniaeth go iawn mewn nyrsio iechyd meddwl, yn enwedig wrth weithio gyda phobl hŷn. Rwy'n hoff o'r cleifion a'r teuluoedd. Mae gan y bobl hyn gymaint i'w roi a chymaint o straeon ac os gallwch chi wneud blynyddoedd olaf eu bywyd yn haws ac yn fwy dymunol yna mae'n gyflawniad enfawr. ”

Dywedodd Jane Hogg, sydd wedi bod yn nyrs iechyd meddwl er 1993, fod y pandemig wedi bod yn arbennig o anodd i'r bobl maen nhw'n eu cefnogi.

“Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i ofalwyr ac mae'r straen ychwanegol maent hwy wedi'i wynebu yn enfawr. Mae hefyd wedi bod yn anodd iawn i bobl sydd â salwch meddwl ymarferol, a oedd eisoes yn bryderus cyn y pandemig.

“Rhan fach rydym ni'n ei chwarae mewn gwirionedd a rhan o'n rôl yw cadw pobl yn ddiogel gartref er mwyn i ni allu cadw derbyniadau i'r ysbyty i lawr.

 “Gweld rhywun yn gwella neu'n dod yn fwy sefydlog yw'r rhan fwyaf gwerth chweil o'r swydd i mi. Os ydych chi wedi gwneud gwahaniaeth ac wedi gwneud gwelliannau i fywyd yr unigolyn hwnnw neu fywyd ei deulu, mae hynny'n enfawr mewn gwirionedd.”

 Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa mewn nyrsio iechyd meddwl, ewch i wefan Prifysgol Bangor: Nyrsio Iechyd Meddwl | Bangor University

Darperir cyrsiau gradd Nyrsio Iechyd Meddwl gan Brifysgol Bangor, gyda myfyrwyr yn gallu astudio ar gampws ym Mangor neu Wrecsam.