Neidio i'r prif gynnwy

Oedi llawdriniaethau wedi'u cynllunio yn Ysbyty Gwynedd

Bydd mwyafrif y llawdriniaethau a gynlluniwyd yn cael eu gohirio yn Ysbyty Gwynedd yr wythnos hon a’r nesaf ac eithrio rhai achosion dydd, mamolaeth a phaediatreg.

Dywedodd Alyson Constantine, Cyfarwyddwr Gofal Llym y Safle yn Ysbyty Gwynedd: “Bydd llawfeddygaeth frys, gwasanaethau diagnosteg, oncoleg ac apwyntiadau cleifion allanol yn parhau.

“Gwnaed y penderfyniad hwn i’n galluogi i ddarparu capasiti ychwanegol ar y safle oherwydd nifer y bobl sy’n cael eu trin am haint COVID-19 yn yr ysbyty.

“Mae uwch dîm amlddisgyblaethol yn parhau i oruchwylio’r gwaith o reoli’r clwstwr gan adolygu’r mesurau Atal Haint sydd yn eu lle i osgoi trosglwyddo pellach.

“Nid yw gohirio llawdriniaethau dewisol yn benderfyniad a wnaed ar chwarae bach a hoffem ymddiheuro am unrhyw ofid a siom y mae hyn yn ei achosi. Mae diogelwch ein cleifion a staff yn hynod o bwysig ac roedd yn rhaid gwneud y penderfyniadau anodd hyn i sicrhau hynny.

“Helpwch ni i barhau i fodloni’r galw am ofal drwy ddod i’n Hadrannau Achosion Brys dim ond os ydych wedi cael eich anafu’n ddifrifol neu os oes gennych gyflwr sy’n peryglu bywyd.

“Mae cyfyngiadau’n parhau ar ymweld, heblaw am rai amgylchiadau cyfyngedig, ond dylai pobl barhau i fynd i apwyntiadau os na chânt wybod yn wahanol.”

Cysylltir â’r holl gleifion a effeithir yn uniongyrchol gan y Bwrdd Iechyd am ohirio eu llawdriniaeth.

Os oes gennych bryder, cysylltwch â’n Gwasanaeth Cyngor a Chefnogaeth i Gleifion drwy ffonio 03000 851234 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm neu ebostio  BCU.PALS@wales.nhs.uk