Neidio i'r prif gynnwy

Annog y cyhoedd i fod yn wyliadwrus a defnyddio'r gwasanaethau gofal iechyd yn ddoeth dros benwythnos y Pasg

Wrth i benwythnos y Pasg agosáu, mae arweinwyr awdurdodau lleol a staff gofal iechyd yn annog y cyhoedd i barhau i gadw at y cyfyngiadau cyfredol i atal lledaeniad pellach COVID-19.

Yn dilyn llacio’r cyfyngiadau ar draws Cymru, caiff y cyhoedd eu hannog i gymryd gofal ychwanegol wrth fwynhau’r awyr agored a pharhau’n wyliadwrus drwy ddilyn yr arweiniad sydd ar waith.

 

Atgoffir y cyhoedd hefyd i ddefnyddio’r gwasanaethau gofal iechyd yn ddoeth a mynychu’r Adran Achosion Brys pan fydd hynny’n hollol hanfodol yn unig.

Dywedodd Dr Richard Griffiths, Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Frys yn Ysbyty Gwynedd:
“Rydym yma i chi pan fyddwch ein hangen, ond y peth olaf sydd eisiau pan fydd yr ysbyty o dan bwysau’n barod yw anafiadau y gellir eu hosgoi.

“Os ydych yn mentro allan dros y penwythnos, byddwch yn hynod ofalus ac os ydych yn cael anaf nad yw’n fygythiad i’ch bywyd, ystyriwch ymweld â’ch Uned Mân Anafiadau.

“Os ydych yn teimlo’n sâl ac nad yw’n achos brys, gallwch gysylltu â’ch Gwasanaeth Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau neu ymweld â’ch Fferyllfa leol, mae nifer ar agor dros Benwythnos Gŵyl y Banc.

“Er bod pawb eisiau mwynhau’r awyr agored ar ôl i’r cyfyngiadau lacio, mae’n rhaid i ni gofio gofalu am ein gilydd a’n cymunedau.

“Mae’n golygu bod yn rhaid i ni ddilyn y camau sylfaenol i’n cadw’n ddiogel wrth i ni fynd i grwydro - cadw pellter rhag eraill; osgoi torfeydd; golchi dwylo’n rheolaidd a gwisgo gorchuddion wyneb.”

Ar hyn o bryd, mae pobl yn cael symud yn rhydd o amgylch Cymru, ond wrth gwrs nid yw’n bosib teithio i mewn nac allan o Gymru hyd at 12 Ebrill. Mae’r awdurdodau lleol wedi bod yn cyd-weithio’n agos gyda’i gilydd i baratoi am y sefyllfa.



Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Er bod y rheol aros yn lleol wedi ei godi, mae’n rhaid cofio nad ydym yn ôl yn yr amseroedd cyn-Covid-19 a bod y perygl o haint yn parhau. Rydym yn annog pobl i ofalu am ei gilydd, ein cymunedau, ein hamgylchedd hyfryd a chadw at reolau Covid-19 Cymru.

“Mewn sir sy’n cynnig cymaint o atyniadau anhygoel, rydym yn gofyn i bobl feddwl ddwywaith a mynd i rywle arall os ydynt yn gweld torf fawr neu feysydd parcio llawn. Rydym eisiau osgoi’r golygfeydd a welsom y llynedd pan laciwyd y rheolau Covid-19 y tro cyntaf, gyda channoedd o yrrwyr yn torri’r rheolau parcio yn rhai o leoliadau mwyaf poblogaidd y sir a lle greodd y nifer fawr o bobl mewn rhai lleoliadau heriau gwirioneddol.

“Ein blaenoriaeth yw cadw pobl Gwynedd a phobl sy’n ymweld â’n sir yn gyfreithlon yn ddiogel - gallant wneud hyn drwy fod yn amyneddgar, cynllunio o flaen llaw a pheidio rhoi pwysau diangen ar wasanaethau cyhoeddus ar adeg sy’n parhau’n heriol. Mae gan bawb ran i’w chwarae yn hynny ac wrth stopio lledaeniad yr haint.”

 


Dywedodd Dirprwy Brif Weithredwr Cyngor Ynys Môn, Dylan Williams: “Ar hyn o bryd, Ynys Môn sydd â’r 2il gyfradd uchaf o achosion Coronafeirws (97.1 am boblogaeth o 100,000) yng Nghymru, allan o 22 Awdurdod Lleol.”

“Mae rhaglen brofi dorfol-gymunedol ar waith ar Ynys Cybi wrth i ni ymateb i nifer o achosion yn lleol. Rwy’n annog trigolion Ynys Cybi a’r gweithwyr nad ydynt yn dangos symptomau Coronafeirws, i gael prawf Covid-19 am ddim yng Nghanolfan Hamdden Caergybi.”

Ychwanegodd, “Wrth i’r cyfyngiadau Cenedlaethol lacio’n raddol, mae cyfrifoldeb personol yn allweddol yn y frwydr yn erbyn y firws. Os ydych yn ymweld â theulu dros gyfnod y Pasg, cofiwch ddilyn y canllawiau a pheidio cymysgu y tu mewn.”

“Mae’n hanfodol bod pawb yn parhau i ddilyn y rheolau craidd; cadw pellter cymdeithasol, gwisgo masg wyneb, golchi ein dwylo a gadael awyr iach i mewn. Peidiwch ag agor y drws i don newydd o Covid-19 dros benwythnos y Pasg drwy gymysgu ac ymddwyn yn anghyfrifol.”