Mae meddyg o Gaergybi sydd ag angerdd am feddygaeth wledig wedi cael ei henwi’n Hyfforddai Meddyg Teulu y Flwyddyn yng Ngwobrau Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu (RCGP) eleni.
Mae staff adeiladu wedi bod yn gwella eu dealltwriaeth am broblemau iechyd meddwl, fel rhan o ymdrechion parhaus i leihau stigma yn y diwydiant.
Mae'r Gofrestrfa Cymalau Genedlaethol (NJR) wedi dyfarnu tystysgrif 'Darparwr Data o Ansawdd Uchel' i Ysbyty Maelor Wrecsam, ar ôl llwyddo i gwblhau rhaglen genedlaethol o archwiliadau data lleol a chyflawni nifer o dargedau yn ymwneud â diogelwch cleifion.
Mae Ysbyty Maelor Wrecsam wedi agor y ward gyntaf o'i math yng Ngogledd Cymru sy'n helpu i baratoi cleifion i adael yr ysbyty a mynd adref.
Mae dros 3000 o bobl yn ardal Meirionnydd yng Ngwynedd wedi derbyn eu brechiad atgyfnerthu diolch i staff diwyd mewn meddygfa yn Nolgellau.
Mae Fferyllfeydd Cymunedol ar draws Gogledd Cymru yn camu ymlaen yn y frwydr yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd trwy helpu cleifion i ddefnyddio gwrthfiotigau yn ddiogel
Yn sgil buddsoddiad gwerth £4m, mae ysbyty cymunedol wedi cael ei drawsnewid yn hwb iechyd a lles modern, addas ar gyfer yr 21ain ganrif.
Mae Uned Arennol Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cael ei hadnewyddu'n helaeth er mwyn gwella gofal, diogelwch a lles cleifion.
Mae dau Lawfeddyg Orthopaedeg wedi cael eu cydnabod yn genedlaethol am brosiect gofal iechyd cynaliadwy arloesol.
Penderfynodd cyn-newyddiadurwr ddod yn “allgarwr hunanol” o fewn y GIG wrth wella o dair llawdriniaeth i dynnu tiwmor ar yr ymennydd.
Mae nyrs o Ogledd Cymru sydd wedi'i disgrifio fel 'caffaeliad i'r proffesiwn' wedi derbyn cydnabyddiaeth ar ffurf gwobr genedlaethol fawreddog.
Disgwylir i nifer y fferyllfeydd yng Ngogledd Cymru lle gall pobl dderbyn asesiad, diagnosis a meddyginiaeth bresgripsiwn ar gyfer mân salwch fwy na dyblu dros fisoedd y gaeaf.
Bydd partneriaeth elusen newydd sy’n dod i Ogledd Cymru yn helpu i annog pobl sy’n byw gyda chanser i beidio “colli’r llawenydd o fyw o fod ofn marw”
Mae meddyg o Wrecsam wedi ymuno â chyflenwr meddygol i lansio cymorth newydd sy’n torri tir newydd allai wella bywydau hyd at 90,000 o gleifion y GIG ar draws y wlad yn aruthrol.
Mae meddygon ar draws y Bwrdd Iechyd wedi cael eu gwobrwyo am eu hymroddiad i ymchwil gyda gwobr arbennig.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn recriwtio staff brechu ychwanegol i helpu i gael y pigiadau brechu i freichiau preswylwyr Gogledd Cymru mor sydyn â phosibl y gaeaf hwn.
Ar hyn o mae yna alw mawr ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Gogledd Cymru, sydd yn arwain at oedi sylweddol wrth ddarparu gofal ac yn rhoi pwysau ar ein gwasanaethau brys.
Mae tîm gofal iechyd yng Ngogledd Cymru wedi cipio prif wobr genedlaethol am fynd ‘y filltir ychwanegol’ i wella ansawdd bywyd unigolyn yn ei arddegau gydag anghenion cymhleth.
Gwnaed datganiad fod y brig mewn achosion Covid yn un o’n hysbytai cyffredinol drosodd.
Mae Ysbyty Glan Clwyd wedi bod o dan drefn ymweld fwy llym tra’n delio gyda heintiau a ddaliwyd yn yr ysbyty ac yn y gymuned.
Fodd bynnag, mae uwch dîm rheoli’r safle wedi datgan fod y cynnydd mewn achosion wedi dod i ben, ar ôl cyfnod o ostyngiad yn y nifer a natur trosglwyddiadau Covid.
Crëwyd Gwobrau Amser Arloesi Menter Canser Moondance yn Haf 2021 i annog a chefnogi staff ar draws gwasanaethau iechyd a gofal Cymru i fabwysiadu arloesiadau ymarferol a chlinigol i wella canlyniadau canser gydag effaith uniongyrchol - p’un ai mewn gwasanaethau canser, diagnosteg, triniaethau, technolegau galluogi neu’r gweithle.