Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Glan Clwyd yn dod allan o statws brig mewn achosion Covid

Gwnaed datganiad fod y brig mewn achosion Covid yn un o’n hysbytai cyffredinol drosodd.

Mae Ysbyty Glan Clwyd wedi bod o dan drefn ymweld fwy llym tra’n delio gyda heintiau a ddaliwyd yn yr ysbyty ac yn y gymuned.

Fodd bynnag, mae uwch dîm rheoli’r safle wedi datgan fod y cynnydd mewn achosion wedi dod i ben, ar ôl cyfnod o ostyngiad yn y nifer a natur trosglwyddiadau Covid.

Tra croesawyd hyn gan gyfarwyddwr nyrsio gweithredol y bwrdd, Gill Harris, rhybuddiodd nad yw’r newyddion yn golygu ei bod yn amser ymlacio.

Meddai: “Tra mae’n newyddion da fod y brig hwn mewn achosion drosodd, mae angen i ni barhau i fod yn wyliadwrus yn erbyn heintiau posibl Covid.

“Fe fydd cyfyngiadau i ymwelwyr o hyd i sicrhau diogelwch ein holl gleifion a staff.  Golyga hyn un ymwelydd wedi’i enwi gydag asesiadau risg ar sail unigol.

“Tra rydym yn deall y bydd hyn yn anodd i aelodau o’r teulu, mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau fod ein safleoedd yn ddiogel i bawb sy’n eu defnyddio.

“Hoffwn ddiolch yn bersonol i’r cyhoedd am ein cefnogi a byddwn yn eu hannog i barhau i ddilyn canllawiau diogel Covid wrth ddefnyddio ein hysbytai.

“Cofiwch wisgo masg, diheintiwch eich dwylo’n rheolaidd a chadw pellter cymdeithasol tra ar ein safleoedd.

“Hefyd, peidiwch ag ymweld â’r ysbyty os ydych yn dangos unrhyw symptomau o’r haint.”

Os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion trwy ffonio 03000 851234 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm neu drwy e-bostio BCU.PALS@wales.nhs.uk