Neidio i'r prif gynnwy

Staff adeiladu'n gwella eu dealltwriaeth am iechyd meddwl trwy raglen hyfforddiant y GIG

Mae staff adeiladu wedi bod yn gwella eu dealltwriaeth am broblemau iechyd meddwl, fel rhan o ymdrechion parhaus i leihau stigma yn y diwydiant.

Staff sy'n gweithio ar ffordd osgoi gwerth £135m Caernarfon a Bontnewydd a phrosiect amddiffynfeydd môr Y Rhyl yw'r diweddaraf i dderbyn Hyfforddiant Iechyd Meddwl ac Ymwybyddiaeth o Hunanladdiad FEDRA'I - sydd wedi cael ei ddatblygu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae nifer o astudiaethau wedi canfod bod y maes adeiladu'n un o'r diwydiannau gwaethaf i weithio ynddo o ran salwch meddwl, oherwydd yr oriau gwaith hir, cyflog isel, amser cynyddol i ffwrdd o'r teulu a diwylliant 'macho', sy'n atal staff rhag siarad am eu problemau. 

Er y gall problemau iechyd meddwl effeithio ar unrhyw un, mae dynion sy'n gweithio yn y diwydiant adeiladu dair gwaith yn fwy tebygol o ladd eu hunain na'r lefel gyfartalog genedlaethol.

Mae hyfforddiant FEDRA'I, a gynigir yn rhad ac am ddim, yn darparu gwybodaeth am arwyddion a symptomau salwch meddwl, yn ogystal â chyngor ar sut i ofalu am eich iechyd meddwl eich hun a ffyrdd o roi cymorth i bobl a allai fod yn cael anawsterau.

Cafodd ei ddatblygu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a chaiff ei gyflwyno gan yr elusennau iechyd meddwl y mae'n eu comisiynu i ddarparu gwasanaethau cymorth FEDRA'I.

Hyd yma, mae mwy na 1,100 o bobl ar draws Gogledd Cymru wedi derbyn yr hyfforddiant, gan gynnwys staff sy'n gweithio i gontractwyr ffordd osgoi Caernarfon, sef Jones Bros Civil Engineering UK a Balfour Beatty Construction.

Mae Scott Mascoll o Balfour Beatty yn arweinydd Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ar brosiect y ffordd osgoi. Dywedodd: "Mae rhai o'r cyfraddau uchaf o hunanladdiad i’w cael yn y diwydiant adeiladu ac mae stigma eithaf mawr yn ymwneud â dynion yn siarad am iechyd meddwl. Y peth pwysicaf yw dileu'r stigma hwnnw a gwneud i ddynion deimlo'n gyfforddus i siarad â'i gilydd am eu problemau.

"Mae'n bwysig bod pobl sy'n gweithio yn y diwydiant adeiladu'n gwybod nad ydynt ar eu pennau eu hunain ac y gallant siarad â phobl os ydynt yn teimlo'n ddigalon. Mae'r hyfforddiant hwn wedi bod yn werth chweil gan ei fod wedi rhoi'r hyder i staff allu cefnogi cydweithwyr nad ydynt efallai'n ymddwyn fel y byddent fel arfer yn gwneud. Hyd yn oed os yw hynny ond yn cynnwys gofyn i bobl sut hwyl sydd arnynt a chymryd pum munud i siarad â nhw."

Ychwanegodd Elgan Clwyd Ellis, Uwch Reolwr Contractau Jones Bros:

"Mae hyfforddiant FEDRA'I wedi bod yn fuddiol iawn i bawb dan sylw. Rwy'n meddwl ei bod yn arbennig o bwysig yn y diwydiant adeiladu bod gennym hyfforddiant i wella ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl, gan ein bod yn gweithio mewn diwydiant anodd iawn."

Mae'r rhaglen hyfforddiant yn cael ei chefnogi gyda chyllid gan Elusen y GIG yng Ngogledd Cymru, sef Awyr Las.

Bydd rhoddion o ddigwyddiadau Goleuo'r Nadolig yr elusen y mis nesaf yn helpu i ariannu nifer o brosiectau gofal iechyd ar draws Gogledd Cymru, gan gynnwys galluogi mwy o grwpiau cymunedol a chyflogwyr i elwa ar hyfforddiant FEDRA'I.

Bydd Goleuo'r Nadolig yn cynnwys arddangosiad ysblennydd byw o 2,000 o oleuadau ar bier hardd Garth ym Mangor, tra bydd sioe deithiol o oleuadau'n ymweld ag ysbytai ar draws y rhanbarth.

Mae pobl yn cael eu hannog i roi rhoddion ac i wneud teyrnged gyda goleuni er mwyn dathlu eu hanwyliaid a chofio amdanynt y Nadolig hwn.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am 'Goleuo'r Nadolig', ewch i wefan Awyr Las: Awyr Las - Goleuo'r Nadolig 2021

I gael rhagor o wybodaeth am Hyfforddiant Iechyd Meddwl ac Ymwybyddiaeth o Hunanladdiad FEDRA'I, ewch i: https://bcuhb.nhs.wales/health-advice/mental-health-hub/i-can/ican-training/.