Neidio i'r prif gynnwy

Hwb i wasanaethau fferylliaeth gymunedol, wrth i'r GIG baratoi ar gyfer ei aeaf prysuraf

11.11.2021

Disgwylir i nifer y fferyllfeydd yng Ngogledd Cymru lle gall pobl dderbyn asesiad, diagnosis a meddyginiaeth bresgripsiwn ar gyfer mân salwch fwy na dyblu dros fisoedd y gaeaf.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi y bydd nifer y fferyllfeydd sy'n darparu gwasanaeth rhagnodi annibynnol ar y GIG yn cynyddu o 11 i 25, wrth i wasanaethau gofal cychwynnol ar draws y rhanbarth baratoi ar gyfer eu gaeaf prysuraf erioed.

Bydd y cynnydd yn galluogi mwy o bobl i fanteisio ar asesiadau wyneb yn wyneb, yn rhad ac am ddim, yn ogystal â derbyn meddyginiaeth bresgripsiwn ar gyfer mân salwch amrywiol, gan gynnwys problemau gyda'r glust, y trwyn a'r gwddf, cyflyrau sy'n effeithio ar y croen a heintiau wrinol.

Ar hyn o bryd, gall yr holl fferyllfeydd yng Ngogledd Cymru roi cyngor arbenigol ac arweiniad ar drin cyflyrau cyffredin a'u symptomau'n rhad ac am ddim, a hynny'n aml, heb yr angen am apwyntiad, gan gynnig dewis amgen cyflym a chyfleus yn hytrach na gofyn am gymorth yn y feddygfa.

Mae'r gwasanaeth ychwanegol a ddarperir gan Fferyllwyr Rhagnodi Annibynnol yn ymestyn hyn er mwyn galluogi pobl i dderbyn meddyginiaeth ar bresgripsiwn, fel cyffuriau gwrthfiotig, sydd ond wedi bod yn bosibl yn draddodiadol trwy feddygon teulu a gweithwyr meddygol proffesiynol penodol eraill.

Yn ogystal â'r llwybr hyfforddi pum mlynedd y bydd yr holl fferyllwyr yn ei gwblhau er mwyn cymhwyso, mae Fferyllwyr Rhagnodi Annibynnol sy'n darparu'r gwasanaeth hwn yng Ngogledd Cymru hefyd yn dilyn cwrs rhagnodi dwys a chwrs ychwanegol ar fân salwch trwy Brifysgol Bangor.

Darperir y gwasanaeth rhagnodi annibynnol ar hyn o bryd mewn fferyllfeydd ar Benrhyn Llŷn, ac ym Mlaenau Ffestiniog, Yr Wyddgrug, Corwen, Coedpoeth, Bae Colwyn a Phrestatyn.

Bydd y cynnydd arfaethedig dros y misoedd sydd i ddod yn sicrhau bod y cynllun ar gael ym mhob un o'r chwe sir yng Ngogledd Cymru, ac mewn rhyw 15 y cant o fferyllfeydd ar draws y rhanbarth.

Mae'r Fferyllydd Jenny White, o Fferyllfa Rhosneigr yn Ynys Môn, ymhlith y rhai a fydd yn cynnig y gwasanaeth ychwanegol pan fydd yn cymhwyso dros yr ychydig wythnosau nesaf.

"Mantais fferylliaeth gymunedol yw bod modd i bobl gael mynediad at ofal iechyd bron yn syth," esboniodd.

"Gall fy nghwsmeriaid ffonio neu alw heibio a threfnu apwyntiad ar yr un diwrnod, yn y rhan fwyaf o achosion.

"Y fantais arall sydd ynghlwm wrth y Gwasanaeth Rhagnodi Annibynnol yw y bydd pobl yn gallu dod ataf i’n fuan ar gyfer eu mân gyflyrau acíwt ac y byddaf yn gallu cynnal asesiad llawn, gwneud diagnosis, creu cynllun triniaeth a rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn, os yw'n briodol.

“Ni fydd rhaid iddynt ffonio eu meddygfa, aros am apwyntiad, neu fynd trwy ymgynghoriad brysbennu ar y ffôn. Os yw pethau'n fwy cymhleth, mae gennym systemau cyfeirio cadarn ar waith er mwyn sicrhau bod pobl yn derbyn gofal sydd ei angen arnynt.

"Rydw i'n defnyddio'r sgiliau sydd gen i'n barod ac rydw i wedi'u datblygu ymhellach er mwyn gallu cynnig gwasanaethau sydd eu hangen yn y pentref."

Dywedodd Adam Mackridge, Arweinydd Strategol Fferylliaeth Gymunedol yn BIPBC:

"Rydym yn annog mwy o bobl sydd â mân salwch neu gyflyrau i fanteisio ar y cyngor arbenigol ac am ddim sydd ar gael yn eu fferyllfa gymunedol leol, ac fel arfer, mae modd cael mynediad at hyn yn gynt na gwasanaethau eraill.

"Mae fferyllwyr yn arbenigwyr clinigol hynod fedrus a chânt eu cefnogi gan dîm o Dechnegwyr Fferyllfa a staff eraill sydd hefyd wedi derbyn hyfforddiant cynhwysfawr.

"Mae gan yr holl fferyllfeydd sy'n darparu'r gwasanaethau hyn ystafelloedd ymgynghori preifat lle byddwch yn gallu trafod mân anhwylderau'n gyfrinachol, yn yr un ffordd ag y byddech yn ei wneud gyda'ch meddyg teulu.

 "Gan fod yr hyfforddiant i ddod yn Fferyllydd Rhagnodi Annibynnol yn cymryd cryn amser, bydd y broses gyflwyno'n cymryd amser, ond bydd fferyllfeydd newydd yn dechrau darparu'r gwasanaeth hwn flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan helpu i wella dewisiadau a chynnig gwell mynediad ar gyfer cleifion."

I fanteisio ar gyngor iechyd am ddim, 24 awr y dydd, gan gynnwys manylion am eich fferyllfa gymunedol agosaf, ewch i wefan 111 GIG Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gael mynediad at y gwasanaethau gofal iechyd mwyaf priodol, ewch i wefan BIPBC.