Neidio i'r prif gynnwy

Meddygon yn cael eu gwobrwyo am eu hymroddiad i ymchwil

Mae meddygon ar draws y Bwrdd Iechyd wedi cael eu gwobrwyo am eu hymroddiad i ymchwil gyda gwobr arbennig. 

Llwyddodd y Meddygon Oncoleg Ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd, yr Haematolegydd Ymgynghorol Dr Earnest Heartin a’r Ffisigwr Ymgynghorol Dr Orod Osanlou i ennill y Wobr Ymrwymiad Prif Ymchwilydd i Ymchwil yng Ngwobrau Ymchwil ac Arloesedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eleni. 

Enwebodd Alice Thomas, Rheolwr Tîm Ymchwil yn Ysbyty Gwynedd, y grŵp o Feddygon Ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd am eu hymrwymiad i ymchwil. 

Dywedodd: "Mae'r Meddygon Oncoleg Ymgynghorol bob amser yn ymdrechu i roi cyfleoedd i gleifion yng Ngorllewin y Bwrdd Iechyd gymryd rhan mewn treialon clinigol. 

"Maent bob amser yn ymgysylltu, yn hawdd mynd atynt ac yn bleser i weithio gyda nhw.  Maent wedi darparu llawer o gefnogaeth i’r Tîm Ymchwil yn Ysbyty Gwynedd a minnau dros y blynyddoedd."

Dywedodd Dr Catherine Bale, Oncolegydd Meddygol Ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd bod y tîm ar Uned Alaw yn falch iawn o dderbyn y wobr. 

Dywedodd: "Mae ymchwil clinigol wastad wedi bod wrth wraidd ein hethos gwaith gan ei fod o fudd i’n cleifion ac yn sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel. 

"Mae pandemig COVID-19 wedi gwneud recriwtio ar gyfer treialon yn heriol ond wrth weithio'n agos gyda'n nyrsys ymchwil profiadol rydym yn ail-adeiladu portffolio treial gweithredol ac yn edrych ymlaen at weld ein cleifion yn cael budd ohono yn y dyfodol."

Mae Dr Heartin, sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Glan Clwyd, wedi cael ei ganmol am ei ymroddiad i ymchwil Haematoleg yn yr ysbyty. 

Dywedodd Lona Tudor Jones, Rheolwr Ymchwil a Datblygiad, ag enwebodd Dr Heartin am y wobr: "Yn ystod y 12 mis diwethaf, cafodd llawer o dreialon oncoleg eu cau ar gyfer recriwtio a sesiynau dilynol. 

"Llwyddodd Dr Heartin i wneud pob ymdrech i gadw Ymchwil Haematoleg yn Ysbyty Glan Clwyd ar flaen y gad o ran gofal cleifion. 

"Mae'n amlwg i bawb sydd wedi cwrdd ag ef fod Dr Heartin wedi cadw cleifion canser fel blaenoriaeth bob amser; nid yw'r firws erioed wedi mynd ar ffordd hynny.  

"Mae wedi cymryd y rôl fel Prif Ymchwilydd ar gyfer astudiaeth newydd sy'n rhoi mynediad at fwy o driniaethau sy'n 'ddiogel o ran Covid' i gleifion cymwys, gyda'r nod o chwyldroi sut rydym yn rhoi cemotherapi i'r cleifion hyn. 

"Er gwaethaf ei swydd sydd o dan bwysau mawr fel Prif Ymchwilydd a Chyfarwyddwr Clinigol, mae Heartin bob amser yn hawdd mynd ato, yn addysgwr gwych, yn broffesiynol a phositif."

Mae Dr Osanlou, sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Maelor Wrecsam, wedi cael ei gydnabod am ei ymdrech diflino i sefydlu'r treial brechu mwyaf yng Nghymru, NOVAVAX a recriwtiodd dros 480 o gleifion yn y pythefnos ar ôl agor. 

Dywedodd Jane Stockport, Rheolwr Tîm Ymchwil yn Ysbyty Maelor Wrecsam:  "Mae Orod yn ysgogol ac ymroddedig iawn.

"Mae'n sefydlu’r Cyfleuster Ymchwil Clinigol Gogledd Cymru ac yn gobeithio ei ymestyn yn y dyfodol i redeg treialon cyffuriau cam 1 a 2, yn cefnogi'r Tîm Ymchwil gyda chefnogaeth o ddydd i ddydd a rheoli'r treialon portffolio cenedlaethol yn Wrecsam. 

"Mae Dr Osanlou wedi tynnu sylw at y potensial a'r cyraeddiadau y gall Wrecsam eu cyflawni a rhoi cyfle i ddinasyddion Gogledd Cymru fod yn rhan o ymchwil pwysig iawn."

Dywedodd Yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:  "Rydym eisiau llongyfarch yr enillwyr a diolch i'n holl staff ymchwil sydd wedi gweithio'n ddiflino drwy gydol y pandemig i barhau gyda gwaith ymchwil hanfodol.  Rydym yn falch o ymdrech y staff i barhau i ddarparu gofal o'r radd flaenaf i gleifion ym mhob maes clefyd."