Neidio i'r prif gynnwy

Cydnabod Llawfeddygon Orthopaedeg yn genedlaethol am brosiect gofal iechyd cynaliadwy

12/11/2021

Mae dau Lawfeddyg Orthopaedeg wedi cael eu cydnabod yn genedlaethol am brosiect gofal iechyd cynaliadwy arloesol.

Roedd Mr Prash Jesudason o Ysbyty Gwynedd a Mr Preetham Kodumuri o Ysbyty Maelor Wrecsam yn un o bum tîm llawfeddygol a gystadlodd yn yr ‘Her Llawfeddygaeth Werdd’ gyntaf erioed, a gynhaliwyd ar y cyd gan Goleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr a’r Ganolfan Gofal Iechyd Cynaliadwy.

Mae'r GIG yn cyfrif am bedwar y cant o ôl troed carbon y DU gyda theatrau llawdriniaethau â defnydd ynni uchel iawn.

Ar gyfer eu her, fe wnaethant ganolbwyntio ar lawdriniaeth llaw, gan leihau'r nwyddau traul a ddefnyddir a maint y gwastraff clinigol a gynhyrchir trwy greu pecyn triniaeth symlach newydd. Fe wnaeth y tîm hefyd leihau’r defnydd o welyau ward a gofod theatr, gan herio’r rhagdybiaeth yn effeithiol bod yn rhaid cynnal yr holl driniaethau llawfeddygol mewn theatrau, pan ellir cynnal mân lawdriniaethau mewn ystafelloedd â gofynion ynni is.

Cefnogwyd y prosiect, a ddaeth yn gydradd ail yn yr her, hefyd gan aelodau tîm o'r ddau safle ysbyty sy'n cynnwys Iona Williamson, Rheolwr Gwasanaethau Di-haint, Teresa Revell, Dirprwy Arweinydd Tîm Uned Achos Dydd, Shan Roberts, Ymarferydd Theatr a Jack Houghton, Meddyg Arbenigol mewn Orthopaedeg.

Dywedodd Mr Jesudason: "Mae llawfeddygaeth yn llawn aneffeithlonrwydd amgylcheddol yn seiliedig ar arfer a dogma yn hytrach na phragmatiaeth a thystiolaeth.

"Mae'r prosiect hwn yn dangos pa mor ddwys o ran carbon yw llawdriniaeth, a faint y gallwn ei arbed trwy wneud newidiadau cymharol syml yn y ffordd yr ydym yn gweithio.

"Dylid cydnabod hefyd fy nghydweithwyr yn Ysbyty Gwynedd, Shan ac Iona.

"Rwy'n gweld hyn fel y dechrau yn unig; newid yn y llanw, i leihau gwastraff plastig a gwneud arbedion carbon mewn arfer llawfeddygol."

Dangosodd y prosiect hwn ei fod nid yn unig yn ddiogel i gynnal y llawdriniaeth yn y modd hwn ond hefyd yn cynyddu cynhyrchiant, yn cael effaith amgylcheddol is, cost economaidd is a hefyd yn lleihau amser yn yr ysbyty i gleifion. Mae'r prosiect wedi rhagweld arbedion blynyddol o 11.6 tunnell CO2e y flwyddyn a £12,641 y flwyddyn sy'n gyfwerth â gyrru 33,285 gwaith o'r G7 i COP26.

Wrth siarad am ei falchder o'r prosiect, ychwanegodd Mr Kodumuri: "Rydym yn hynod gyffrous am y llwyddiant hwn gan y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r ffordd yr ydym yn trin ein cleifion llawfeddygaeth dwylo ledled Gogledd Cymru.

"Hoffwn ddiolch i fy nhîm - Teresa, Jack, Mandy Evans a Claire Poole. Hebddynt, ni allai'r prosiect hwn fod wedi mynd rhagddo."

Dywedodd Dr Olivia Bush, yr Arweinydd Rhaglen ar gyfer Gofal Iechyd Cynaliadwy: "Cryfderau'r prosiect hwn oedd modelu aelodaeth wirioneddol amlddisgyblaethol o'r tîm, ac mae hyn yn hanfodol ar gyfer trawsnewid effeithiol ar gyfer llawfeddygaeth werdd, gynaliadwy sy'n gofyn am arweinyddiaeth gyda dull ystyried systemau.

"Heriodd y prosiect hwn yn effeithiol y rhagdybiaeth bod yn rhaid cynnal triniaethau llawfeddygol mewn theatrau, pan ellir cynnal mân lawdriniaethau mewn ystafelloedd â gofynion ynni is.

"Yn ogystal, roedd y tîm nid yn unig yn modelu effaith debygol eu newidiadau arfaethedig ond fe wnaethant hefyd eu gweithredu, a oedd yn heriol yng nghyd-destun rhestrau llawfeddygol yr amharwyd arnynt yng nghanol y pandemig ac amserlen 10-wythnos yr her."