Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs o Ogledd Cymru yn derbyn cydnabyddiaeth drwy acolâd mwyaf y proffesiwn

11.11.2021

Mae nyrs o Ogledd Cymru sydd wedi'i disgrifio fel 'caffaeliad i'r proffesiwn' wedi derbyn cydnabyddiaeth ar ffurf gwobr genedlaethol fawreddog.

Cafodd Nia Boughton, Nyrs Ymgynghorol Gofal Cychwynnol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ei henwi'n enillydd gwobr Arfer Uwch ac Arbenigol Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru.

Mae acolâdau pennaf y proffesiwn yn dathlu arloesi, medrusrwydd ac ymroddiad mewn nyrsio ar draws 15 categori, gyda'r enillwyr yn cael eu dewis o blith mwy na 500 o ymgeisiadau.

Mae Nia, sy'n gweithio yn y proffesiwn ers dros fwy na 20 mlynedd, wedi'i chydnabod am ei gwaith i wella ansawdd a chysondeb yr hyfforddiant a roddir i nyrsys sy'n gweithio mewn lleoliadau gofal cychwynnol ar draws Gogledd Cymru.

Mae hyn yn cynnwys cyflwyno fframwaith hyfforddi arloesol yn seiliedig ar fodel gofal cymdeithasol - sy'n archwilio'r ystod o ffactorau sy'n cyfrannu at iechyd unigolyn, yn hytrach na'u cyflwr meddygol yn unig.

Mae ymarferwyr sy'n defnyddio fframwaith Nia wedi sôn am welliant sylweddol o ran eu profiad hyfforddi, tra bod gwerthusiad cychwynnol yn awgrymu ei fod wedi gwella canlyniadau i gleifion ac wedi arwain at fwy o gysondeb o ran ansawdd yr ymgynghoriadau a gynhelir gan Uwch Ymarferwyr Nyrsio.

Dywedodd Nia: "Pleser a braint o’r mwyaf yw derbyn y wobr hon. Nid oeddwn wedi dychmygu, hyd yn oed am eiliad, y byddwn i'n ennill ymysg enghreifftiau anhygoel eraill o nyrsio ar adeg mor heriol.

"Wrth reswm, nid yw'r wobr hon yn adlewyrchu fy ngwaith i fel unigolyn, mae gen i'r fraint o weithio ochr yn ochr â thîm o bobl anhygoel sy'n gweithio'n ddiflino i roi cymorth i'n cleifion a'n cymunedau bob awr o'r dydd."

Gan longyfarch Nia ar ei llwyddiant, dywedodd Dr Chris Stockport, Cyfarwyddwr Gweithredol Gofal Cychwynnol a Chymunedol BIPBC: "Ar ran Bwrdd BIPBC, rwy'n llongyfarch Nia am y wobr haeddiannol iawn yma. Mae Nia yn gaffaeliad i'r proffesiwn nyrsio ac rydym oll yn hynod falch o'r effaith y mae hi'n parhau i'w gael.

"Mae ei fframwaith ar gyfer arfer uwch mewn gofal cychwynnol yn enghraifft wych o'r gwaith arloesol sy'n cael ei wneud ar draws y Bwrdd Iechyd, wrth i ni fynd ati i ddatblygu ein gweithlu a'n gwasanaethau fel y gallwn roi'r gofal gorau posibl i bobl ar draws Gogledd Cymru nawr ac yn y dyfodol."