Neidio i'r prif gynnwy

Meddyg o Wrecsam yn gwneud darganfyddiad meddygol ar gyfer y GIG

08.11.21

Mae meddyg o Wrecsam wedi ymuno â chyflenwr meddygol i lansio cymorth newydd sy’n torri tir newydd allai wella bywydau hyd at 90,000 o gleifion y GIG ar draws y wlad yn aruthrol.

Yn tynnu ar ei nifer o flynyddoedd yn y maes clinigol, cydnabu Dr Robert Lister, 54, dermatolegydd yn Ysbyty Maelor Wrecsam, duedd pryderus iawn ymysg cleifion yn methu â gwisgo’r dyfeisiau cywasgu sydd eu hangen i reoli cyflyrau fasgwlaidd ac oedema cronig.

Wrth siarad â chleifion, nifer ohonynt yn oedrannus, darganfu mai problem fawr oedd bod natur cywasgu’r dillad un darn safonol a roddwyd iddynt yn eu gwneud yn anodd iawn i’w gwisgo a’u tynnu i ffwrdd, yn enwedig i’r rhai oedd yn cael trafferth plygu i lawr neu a oedd â phroblemau deheurwydd.

Mewn ymateb i hyn, penderfynodd Dr Lister gymryd y mater i’w ddwylo ei hun trwy ddyfeisio system dau ddarn allai fod yn haws i’w roi dros droed claf, gan felly gwneud y broses o’i wisgo a’i dynnu yn llawer haws.  

Pedair blynedd yn ddiweddarach, a’r canlyniad yw - mae’r cynnyrch â phatent duomed soft®easy - wedi cael ei ddatblygu a chyrraedd y farchnad gan gyflenwr meddygol lleol, medi UK ac wedi derbyn cefnogaeth gan y GIG.

Ers bod ar gael ar y GIG gwta tri mis yn ôl, mae dros 400 o gynhyrchion ‘duomed soft® 2easy’ wedi cael eu prynu.  Disgwylir i’r ffigwr dyfu yn gyflymach pan fydd y cynnyrch ar gael ar bresgripsiwn y GIG ar y 1af o Ragfyr 2021.

Wrth siarad am y rhesymeg y tu ôl i’r ddyfais, meddai Dr Lister: “Yn anffodus, dros y blynyddoedd, rydw i wedi gweld cymaint o achosion o gleifion yn byw gyda chlwyfau cronig sydd ddim yn gallu gwella ac yn parhau i waethygu.  Yn yr achos gwaethaf, gall hyn arwain at glwyf agored sy’n arogli’n ddrwg all fod yn achosi cywilydd mawr a bod yn ynysol, sy’n effeithio’n ddifrifol ar ansawdd bywyd - heb sôn am y tripiau cyson yn ôl a blaen at y Meddyg Teulu.

“Yn y bôn, y broblem yw bod y dillad cywasgu a ddefnyddiwyd i fynd i’r afael â’r problemau hyn yn anodd eu rhoi ymlaen, yn enwedig ar gyfer y rhai sy’n llai abl, sy’n golygu nad ydynt yn cael eu defnyddio.   

“Mae duomed soft® 2easy yn newid hyn.  Mae’n swnio’n syml, ond y ffaith yw gan ei fod yn dod mewn dau ddarn yn hytrach nag un dilledyn yn ei gwneud hi’n llawer haws i’w gael dros y droed heibio’r ffêr.  Wedi, wrth gwrs, ei brofi ar nifer diddiwedd o gleifion o alluoedd amrywiol, mae’n saff dweud mai dyma’r dilledyn cywasgu hawsaf yr ydw i wedi dod ar ei draws.”

O’r dechrau hyd at dderbyn y swp cyntaf o gynhyrchion i’r GIG, daeth duomed soft® 2easy i’r farchnad mewn pedair blynedd - amser sydyn iawn ar gyfer y sector meddygol sy’n cael ei reoleiddio’n llym.  

Yn allweddol i hyn oedd cefnogaeth barhaus y partner, medi UK a weithiodd yn agos gyda Dr Lister i ddarparu’r adnoddau, arbenigedd a’r sgiliau cynhyrchu oedd eu hangen i fynd â’r cysyniad i’r farchnad.

Mae Andy Holman, Rheolwr Datblygu Busnes yn medi UK yn gwneud y sylw: “Yma yn medi UK, rydym yn credu fod meithrin ysbryd dechrau rhywbeth o’r newydd yn bwysig, waeth pa mor fawr a llwyddiannus yw’ch busnes – a dyna pam ein bod yn mynd yn bell i feithrin arloesedd a syniadau newydd ymysg y gymuned feddygol.

“O’r dechrau, roeddem yn gwybod fod cysyniad Dr Lister yn arloesol iawn a fyddai’n chwyldroi’r defnydd o ddillad cywasgu a gwella’n sylweddol ansawdd bywyd miloedd o bobl ar draws y wlad yn byw gyda’r math yma o gyflyrau.  Rydym felly yn falch iawn o fod wedi gallu helpu i’w gael dros y llinell ddechrau ac i’r farchnad mor sydyn ac edrychwn ymlaen at ei fabwysiadu yn y farchnad prif ffrwd.

Mae gymaint â 90,000 o bobl yn y DU angen gwisgo dillad cywasgu i reoli amrywiaeth o gyflyrau meddygol, fel arfer am oes.