Neidio i'r prif gynnwy

Tîm GIG Gogledd Cymru yn cipio'r brif wobr genedlaethol am gefnogaeth sy'n newid bywyd pobl ifanc ag anghenion cymhleth

05.11.2021

Mae tîm gofal iechyd yng Ngogledd Cymru wedi cipio prif wobr genedlaethol am fynd ‘y filltir ychwanegol’ i wella ansawdd bywyd unigolyn yn ei arddegau gydag anghenion cymhleth.

Yn ddiweddar, enillodd staff o Ward Foelas yn Ysbyty Bryn y Neuadd, Llanfairfechan, a’r Tîm Therapi Arennol yn y Cartref, sydd wedi eu lleoli yn Ysbyty Gwynedd, wobr Nyrsio Anabledd Dysgu y Nursing Times mewn seremoni wobrwyo fawreddog yn Llundain.

Cydnabuwyd y gweithwyr proffesiynol gofal iechyd blaengar am eu gwaith arloesol i gefnogi unigolyn yn ei arddegau sydd ag anableddau dysgu cymhleth a chlefyd yr arennau.

Canmolodd y panel beirniaid, sy’n cynnwys arweinwyr  o’r sector nyrsio a gofal iechyd ehangach, ‘arweinyddiaeth ysbrydoledig, gydweithredol’ y tîm.

Credir mai Darren (19), y mae ei enw go iawn wedi'i newid i amddiffyn ei hunaniaeth, yw'r unigolyn cyntaf yn y DU i dderbyn triniaeth hemodialysis achub bywyd rheolaidd mewn ysbyty cymunedol anabledd dysgu.

Mae hemodialysis yn defnyddio peiriant i hidlo gwastraff a dŵr o'r gwaed - lle nad yw arennau unigolyn yn gallu cyflawni'r swyddogaeth hon. Mae'r unigolyn ifanc 19 mlwydd oed yn derbyn triniaeth hemodialysis sawl gwaith yr wythnos, er mwyn osgoi mynd yn ddifrifol wael.

Fe'i darperir gan nyrsys anabledd dysgu o Ward Foelas, sydd wedi derbyn hyfforddiant arbenigol a chefnogaeth barhaus gan y Tîm Therapi Arennol yn y cartref.

Diolch i'w hymroddiad a'u meddwl blaengar, mae'r unigolyn hwn sy'n llawn hwyl wedi gallu gadael ei gadair olwyn, gwneud ffrindiau newydd, a chymryd rhan mewn ystod o weithgareddau newydd, gan gynnwys hedfan barcud, teithiau cerdded natur, a hyd yn oed ymladd dŵr gyda'i ofalwyr!

Dywedodd Tracey Clement, Rheolwr Ward Foelas, ei bod yn hynod falch bod eu gwaith wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol.

Dywedodd hi: “Rydyn ni i gyd wrth ein boddau ein bod ni wedi cael ein cydnabod gyda’r wobr hon ac rydw i mor falch o waith yr holl staff ar Ward Foelas sydd wedi mynd y filltir ychwanegol i ddysgu sgiliau newydd. I ni, y wobr fwyaf yw gweld y naid enfawr yn ansawdd bywyd ein claf ifanc. ”

Ychwanegodd Sarah Hirst-Williams, Rheolwr Tîm Dialysis yn y Cartref:

"Mae’r ddau dîm wedi gweithio’n ddiflino ac wedi dangos gwytnwch yn wyneb adfyd i sicrhau gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn rhagorol i’r dyn ifanc hwn, gan wella ansawdd ei fywyd mewn ffordd na welir fel rheol pan fydd cleifion yn dewis hemodialysis yn y cartref.

“Gan weithio’n agos gyda’n cydweithwyr ar Ward Foelas, rydyn ni wedi gwneud ffrindiau am oes ar hyd y ffordd.”