Neidio i'r prif gynnwy

Ymdrech aruthrol yn arwain at feddygfa yn Nolgellau yn brechu dros 3000 o bobl ym Meirionnydd

Mae dros 3000 o bobl yn ardal Meirionnydd yng Ngwynedd wedi derbyn eu brechiad atgyfnerthu diolch i staff diwyd mewn meddygfa yn Nolgellau.

Mae Meddygfa Caerffynnon wedi bod yn cefnogi'r rhaglen brechiadau atgyfnerthu rhag COVID-19 i gleifion sydd wedi'u cofrestru â'r practis yn ogystal â phractisau cyfagos yn Abermo a Thywyn.

Mae practisau meddygon teulu yn Nwyfor ac ym Meirionnydd wedi mabwysiadu ymagwedd ar sail clwstwr i gefnogi'r rhaglen pigiadau atgyfnerthu. Mae hyn yn golygu bod rhai cleifion yn cael eu gwahodd i deithio ymhellach ar gyfer eu hapwyntiadau brechu ond mae wedi caniatáu cyflwyno'r brechiad yn gynt yn yr ardaloedd anghysbell hyn.

Mae Dr Jonathan Butcher, meddyg teulu ym Meddygfa Caerffynnon ac Arweinydd Clwstwr Meirionnydd, wedi canmol y staff am eu hymdrechion i frechu cynifer o bobl â phosibl yn eu cymuned.

Dywedodd: "Rydym yn awyddus i ddiolch i bawb sydd ynghlwm wrth y clinigau, o'r sawl sy'n derbyn y brechlynnau, y gwirfoddolwyr a staff diwyd y feddygfa sydd wedi sicrhau bod yr ychydig wythnosau diwethaf mor llwyddiannus.

"Mae derbyn eich brechlyn rhag COVID yn un o'r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud i ni ein hunain, ein ffrindiau a'n teulu a'r gymuned ehangach.

"Rydym yn bwriadu parhau i gynnal y clinigau tan y Flwyddyn Newydd ac mae'n bwysig sicrhau bod y clinigau'n cael eu cynnal yn esmwyth a bod y sawl sydd ag apwyntiad yn ei fynychu ar amser, heb fod yn rhy gynnar neu'n rhy hwyr, a gofynnwn i chi fod yn amyneddgar gyda phawb sy'n gweithio mor galed i geisio helpu."

Mae'r practis yn gwahodd unigolion o'r grwpiau canlynol i gael brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19, os oes o leiaf chwe mis wedi mynd heibio ers iddynt dderbyn eu hail ddos:

• yr holl oedolion 65 oed neu'n hŷn;

• gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol y rheng flaen;

• y sawl rhwng 16 a 49 oed sydd â chyflyrau iechyd isorweddol sy'n golygu eu bod â risg uwch o COVID-19 difrifol

• gofalwyr sy'n oedolion

• oedolion sydd â chyswllt ar yr aelwyd ag unigolion sydd â system imiwnedd wannach

Er mwyn helpu'r practis i reoli sesiynau yn y dyfodol, gofynnir i chi nodi'r canlynol:

  • Arhoswch am wahoddiad i apwyntiad brechu trwy'r post a pheidiwch â chysylltu â'ch meddygfa neu ein Canolfan Gyswllt Brechiadau Covid-19, gan na fyddant yn gallu trefnu apwyntiad i chi'n gynt na hynny.
  • Unwaith y byddwch yn derbyn apwyntiad, gofynnir i chi wneud pob ymdrech i gadw ato.
  • Peidiwch â chyrraedd yn gynt na phum munud cyn amser eich apwyntiad.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol bob amser.
  • Peidiwch â dod i'r sesiwn heb apwyntiad gan y byddwn yn eich gwrthod

Mae sesiynau'n cael eu trefnu ar hyn o bryd yng Nghanolfan Hamdden Glan Wnion yn Nolgellau ar gyfer y rhai nad ydynt wedi derbyn gwahoddiad eto ac i gleifion nad oeddent yn gallu mynychu eu hapwyntiadau gwreiddiol ym mis Tachwedd a Rhagfyr 2021. Caiff clinigau pellach eu cadarnhau ar gyfer y Flwyddyn Newydd maes o law.