Neidio i'r prif gynnwy

Gwario £4m i droi ysbyty cymunedol yn hwb iechyd a llesiant

22.11.21

Yn sgil buddsoddiad gwerth £4m, mae ysbyty cymunedol wedi cael ei drawsnewid yn hwb iechyd a lles modern, addas ar gyfer yr 21ain ganrif.

Mae Ysbyty Cymuned Rhuthun, a saif yn y dref ers 117 mlynedd, wedi cael ei drawsnewid a'i uwchraddio'n sylweddol yn ystod y broses.

Mae'n golygu y bydd trigolion yr ardal yn gweld ystod o wasanaethau meddygol a chymunedol yn cael eu cyfuno mewn un ganolfan, gan sicrhau fod gan bobl o ardal Rhuthun a'r cylch siop un stop ar gyfer eu hiechyd a'u lles.

Fe wnaeth cyfarwyddwr clinigol therapïau, Gareth Evans, ganmol tîm y prosiect am eu gwaith yn datblygu'r safle ar ei newydd wedd, er gwaetha'r tarfu gan y pandemig.

Dywedodd: “Mae'r prosiect wedi bod yn bartneriaeth wych rhwng BIPBC a rhanddeiliaid allweddol megis Cyngor Sir Ddinbych, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Chynghrair Cyfeillion Ysbyty Cymunedol Rhuthun.

“Bydd yn cynnig llawer o fuddion i'r gymuned, ac fe wnaiff hynny wella deilliannau i'r boblogaeth leol am flynyddoedd lawer.”

Fel rhan o integreiddio gwasanaethau lleol, mae practis a fferyllfa Clinig Mount Street wedi symud i safle 27 gwely Stryd Llanrhydd a bydd yn cychwyn apwyntiadau ddydd Llun, Tachwedd 22.

Crëwyd estyniad newydd ar gyfer y practis ar safle hen uned ffisiotherapi’r ysbyty. Mae hyn bellach yn caniatáu lle i gefnogi gwaith a hyfforddiant amlddisgyblaethol, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr meddygol.

Mae'r ysbyty'n darparu gwelyau cam-i-fyny a cham-i-lawr yn ogystal â nyrsio ardal, therapïau, cleifion allanol a chlinig cof, sy'n creu amgylchedd delfrydol i leoli addysgu myfyrwyr meddygaeth.

Mae ymchwil yn dangos bod meddygon teulu sy'n hyfforddi mewn ardal benodol yn parhau i fod yn deyrngar i'r ardal honno, ac un enghraifft o hynny yw cyfarwyddwr meddygol gweithredol cyfredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Dr Nick Lyons, a hyfforddodd fel meddyg teulu yng Ngogledd Cymru.

Yn ogystal, bydd y safle newydd yn galluogi'r practis i ehangu ei ystod o wasanaethau, megis mân lawdriniaethau ac atal cenhedlu.

Bydd gwasanaethau iechyd meddwl gofal cychwynnol gan gynnwys cwnsela hefyd ar gael ar safle'r ysbyty.

Ychwanegodd Gareth Evans: “Fel cyfarwyddwr y prosiect, rydw i wrth fy modd bod ein nod i ail-ddarparu gwasanaethau o glinig Mount Street yn Rhuthun wedi'i wireddu.

“O ddydd Llun, Tachwedd 22, bydd ystod o wasanaethau gofal cychwynnol a chymunedol yn ardal Rhuthun yn cael eu darparu o adeiladau modern, addas at y diben yn Ysbyty Rhuthun, gan ddarparu profiad cleifion gwell o lawer i'r boblogaeth leol.”

Nid oedd Clinig Mount Street yn gallu ehangu na datblygu oherwydd cyfyngiadau adeilad oedd yn heneiddio, felly cytunodd Cyngor Sir Dinbych i gyfnewid tir.

Rhoddodd yr awdurdod lleol rywfaint o'i dir i'r ysbyty cymunedol ger safle Ysbyty Cymuned Rhuthun, yn gyfnewid am adeilad Mount Street.

Mae'r Gynghrair Cyfeillion leol hefyd wedi bod yn allweddol wrth ariannu derbynfa newydd, bar te ac ystafell i berthnasau, gyda buddsoddiad o bron i £50,000.


Dywedodd un aelod o'r staff, Maxine Jones, ei bod yn falch o'r ysbyty wedi'i uwchraddio a datgelodd gysylltiad agosach â'r safle na llawer o'i chydweithwyr.

Dywedodd: “Rwy'n gweithio yn Ysbyty Cymuned Rhuthun ers 34 mlynedd fel gweithiwr domestig a chefais fy ngeni yn yr ysbyty hwn ym 1963.

“Rwyf wedi gweld rhai newidiadau go iawn ac roeddwn i'n arfer dod yma pan oeddwn i'n gweithio i Sant Ioan. Rydw i wrth fy modd â'r hyn maen nhw wedi'i wneud i'r ysbyty nawr. Mae'n weddnewidiad go iawn ac mae'n wych eu bod wedi gallu gwneud hyn yn ystod cyfnod Covid.”

Mae tîm y prosiect wedi ystyried pob agwedd ar brofiad claf ac wedi cyflwyno nifer o nodweddion newydd i'r adeilad:

  •  Mae datblygu ardal therapïau bwrpasol wedi bod yn ddatblygiad allweddol i gleifion y mae arnynt angen triniaethau therapiwtig. Mae'r holl wasanaethau therapi, gan gynnwys ffisiotherapi, therapi galwedigaethol, podiatreg a gwasanaethau cysylltiedig megis lymffedema, bellach wedi'u lleoli mewn un rhan o'r ysbyty - gydag ystafell aros fwy. Bydd yr uned newydd yn darparu mwy o leoliadau i fyfyrwyr ffisiotherapi o Brifysgolion Caerdydd a Wrecsam, ac yn rhoi profiad o hyfforddi mewn gwasanaethau arbenigol, megis niwro-adsefydlu, adsefydlu ysgyfeiniol a ffisiotherapi pediatreg


  • Roedd mynediad i safle'r ysbyty yn wael i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr cerbydau felly roedd cyfnewid tir â Chyngor Sir Dinbych yn caniatáu mwy o barcio a gwell mynediad i gerddwyr ar hyd Ffordd yr Wyddgrug
  • Bydd y maes parcio newydd yn caniatáu mwy na dwbl y 35 lle a wasanaethai'r ysbyty cyn y gwelliannau
  • Mae ystafell gyfarfod i elusennau a grwpiau cymunedol wedi'i chreu, a gellir ei llogi
  • Mae gwasanaethau iechyd meddwl pobl hŷn wedi symud i ran dawelach, benodol o'r ysbyty - sy'n golygu ei fod yn cyflawni'r safonau argymelledig ar gyfer pobl y mae dementia arnynt
  • Mae'r Ystafell Perthnasau wedi'i hail-leoli ger y ward cleifion mewnol ac mae'n darparu lle tawel i staff a theuluoedd sy'n dymuno cael amser iddynt hwy eu hunain
  • Bydd y cyfleuster newydd yn darparu profiad o weithio mewn lleoliad gwledig i fyfyrwyr nyrsio - mewn ardaloedd gwledig, mae pobl yn tueddu i gyflwyno â symptomau yn hwyrach nag mewn ardaloedd mwy trefol
  • Mae'r adeilad newydd, wedi'i ail-gyflunio yn rhoi cyfle i ymwelwyr iechyd ddarparu nifer o wahanol wasanaethau o'r safle newydd, megis tylino babanod a grwpiau bwydo ar y fron
  • Bydd staff yn elwa o gawodydd ac ystafelloedd newid newydd a bydd gan weithwyr y bwrdd iechyd sy'n gweithio yn ne Sir Ddinbych ystafell desgiau poeth lle gallant weithio os bydd angen