Neidio i'r prif gynnwy

Meddyg o Gaergybi yn cael ei henwi yn Hyfforddai Meddyg Teulu y Flwyddyn

Mae meddyg o Gaergybi sydd ag angerdd am feddygaeth wledig wedi cael ei henwi’n Hyfforddai Meddyg Teulu y Flwyddyn yng Ngwobrau Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu (RCGP) eleni. 

Fe wnaeth Dr Laura Bennett, sy'n un o dri meddyg teulu newydd yn Hwb Iechyd Cybi yng Nghaergybi, dderbyn y wobr ar ôl cyflawni'r sgôr uchaf ar draws ei harholiadau yng Nghymru. 

Fe wnaeth Dr Bennett, a ymunodd â meddygfa Caergybi yn ei rôl gyntaf ers cymhwyso ym mis Awst 2021, dderbyn ei gwobr mewn seremoni ddisglair yng Nghaerdydd yn gynharach y mis hwn. Fe wnaeth Cadeirydd RCGP, yr Athro Amanda Howe, gyflwyno'r wobr iddi hi.

Dywedodd: “Pan glywais gyntaf fy mod i wedi ennill y wobr hon, cefais sioc anhygoel!  Credais ar y dechrau ei fod yn gamgymeriad!

“Mae'n hyfryd cael fy nghydnabod ar lefel mor genedlaethol ac yn amlwg rwy'n falch iawn o dderbyn y wobr hon.”

Mae gŵr Dr Bennett hefyd yn feddyg teulu ym Miwmares, a symudodd hi i Ogledd Cymru i fod yn agosach at y môr a mwynhau eu cariad at yr awyr agored.

“Roedd fy hyfforddiant meddygol yn cynnwys gweithio mewn Adran Achosion Brys yn Awstralia a hefyd ledled y DU. Yn ystod fy amser yn hyfforddi sylweddolais fy mod eisiau bod yn gyffredinolwr a dod yn feddyg teulu.

“Deuthum i Fangor i wneud fy hyfforddiant meddyg teulu a thyfais mor hoff o'r ardal a datblygu angerdd gwirioneddol am feddygaeth wledig.

“Rydw i a fy ngŵr yn caru'r awyr agored felly roedden ni'n dymuno symud i Ogledd Cymru er mwyn i ni gael gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

“Mae gennym ni hynny heb os ac rydyn ni'n dau wrth ein boddau ein bod ni wedi symud yma - mae'n lle gwych i weithio a byw ynddo, mae gweithio yn Hwb Iechyd Cybi wedi darparu'r cyfle hwnnw, ”meddai Dr Bennett.