Neidio i'r prif gynnwy

Helpu cleifion i gymryd y meddyginiaethau cywir ar gyfer yr anhwylderau cywir ar yr adeg gywir

23/11/21

Mae Fferyllfeydd Cymunedol ar draws Gogledd Cymru yn camu ymlaen yn y frwydr yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd trwy helpu cleifion i ddefnyddio gwrthfiotigau yn ddiogel.   

Y mis Tachwedd hwn, mae fferyllwyr a'u staff ledled y rhanbarth yn cwblhau Rhestrau Gwirio Gwrthfiotigau gyda chwsmeriaid fel rhan o ymgyrch genedlaethol - i'w helpu i gymryd y meddyginiaethau cywir ar gyfer yr anhwylderau cywir ar yr adeg gywir.

Mae gwrthfiotigau yn hanfodol i'n helpu i gadw'n iach, ond mae gorddefnyddio'r meddyginiaethau hanfodol hyn yn arwain at heintiau sy'n gallu gwrthsefyll triniaeth fwyfwy.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi cydnabod ymwrthedd gwrthficrobaidd fel her gynyddol, a'i gynnwys fel un o'r deg bygythiad mwyaf i iechyd cyhoeddus byd-eang.

Dywedodd y Fferyllydd dan hyfforddiant Kirsty Brookes, sydd ar hyn o bryd yn cwblhau ei chyfnod lleoliad yn Fferyllfa Rowlands yn Llanfairpwllgwyngyll, fod gwrthfiotigau yn “arf gwerthfawr” yn y frwydr yn erbyn heintiau.

“Y broblem yw bod ymwrthedd cynyddol i’r gwrthfiotigau hyn, sy’n peryglu hyd yn oed llawdriniaethau arferol a thriniaeth canser - a allai ddod yn fygythiad bywyd unwaith eto,” meddai.

“Ac felly mae'n bwysig pan fyddwch chi'n cael gwrthfiotigau, bod eu hangen arnoch a'ch bod yn cymryd rhai sy'n iawn i chi.”

Dywedodd Meddyg Ymgynghorol Fferylliaeth Gwrthficrobaidd Betsi Cadwaladr, Charlotte Makanga, ei bod wrth ei bodd bod cymaint o fferyllwyr yn cefnogi'r ymgyrch i hyrwyddo'r defnydd gorau o wrthfiotigau, a darparu cyngor gwerthfawr i gleifion a gofalwyr, yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Gwrthficrobaidd y Byd.

Dywedodd hi: “Fferyllfeydd cymunedol yw'r man cychwyn cyntaf am anhwylderau a chwynion cyffredin, ac mae aelodau o'n cymunedau ledled Gogledd Cymru yn ymddiried ynddynt.

“Er mwyn lleihau’r bygythiad cynyddol o ymwrthedd gwrthficrobaidd, mae’n hanfodol ein bod yn defnyddio gwrthfiotigau lle bo angen ac yn y ffyrdd a gyfarwyddir yn unig.

“Mae’r Rhestr Wirio Gwrthfiotig hon wedi bod yn llwyddiannus mewn man arall, gyda staff fferyllol yn dweud ei bod wedi helpu i hyrwyddo trafodaethau adeiladol gyda chleifion. Rydyn ni'n gobeithio y gall cleifion yng Ngogledd Cymru nawr elwa o'r dull hwn hefyd."